Bydd y Cabinet yn trafod rhaglen gyfalaf arfaethedig y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf yn fuan. Yn rhan o hyn, cynigir buddsoddiad wedi’i dargedu gwerth £16 miliwn ar gyfer 2025/26 – a hynny ar gyfer blaenoriaethau fel priffyrdd, strwythurau, parciau, Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd, mannau gwyrdd, canolfannau hamdden a lliniaru llifogydd. Mae hyn yn uwch na’r rhaglen gyfalaf arferol, gan gynrychioli buddsoddiad untro ar draws gwasanaethau allweddol.
Byddai'r cyllid arfaethedig yn cynnwys dyraniad penodol gwerth £1.5 miliwn ar gyfer rhaglen gynnal a chadw bwysig i'w chyflawni yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, er mwyn diogelu'r lleoliad gwerthfawr ar gyfer y gymuned at y dyfodol.
Ddydd Mercher, 19 Chwefror, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n manylu ar raglen gyfalaf tair blynedd arfaethedig, sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth £225 miliwn ar draws gwasanaethau'r Cyngor rhwng 2025/26 a 2027/28. Gallai aelodau argymell bod y Cyngor Llawn yn cytuno ar y rhaglen ar 5 Mawrth.
Mae hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf graidd wedi'i hariannu'n llawn gwerth £46.7 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal â chyllid grant allanol, a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn penodol y Cyngor sydd eisoes wedi'u dyrannu. Mae rhagor o fanylion am sut y bydd meysydd gwasanaeth yn cael eu cefnogi wedi'u cynnwys yn adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi cyfle buddsoddi untro pellach ar gyfer 2025/26, sef cyfanswm gwerth £16.05 miliwn, y byddai modd ei fuddsoddi yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:
- Cynnal y priffyrdd – £6.57 miliwn
- Ffyrdd heb eu mabwysiadu – £200,000
- Strwythurau Priffyrdd – £3.5 miliwn
- Lliniaru llifogydd – £500,000
- Gwaith gwella strwythurau parciau – £250,000
- Parciau a Mannau Gwyrdd – £1.5 miliwn
- Parciau Sglefrio – £350,000
- Mannau Chwarae – £400,000
- Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd – £230,000
- Theatr y Parc a'r Dâr – £1.5 miliwn
- Canolfannau Hamdden – £500,000
- Cofebion Rhyfel – £50,000
- Datblygiadau sydd yn yr Arfaeth yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf – £500,000.
Os cytunir ar hyn, byddai elfen fawr o’r buddsoddiad yma'n defnyddio’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol ar gyfer Rheoli Priffyrdd gan Lywodraeth Cymru, sy'n cefnogi Awdurdodau Lleol i ariannu prosiectau seilwaith. Byddai'r buddsoddiad sy'n weddill yn defnyddio cyllid y Cyngor sydd wedi'i neilltuo ar gyfer Buddsoddi a Seilwaith – ac yn cadw gwerth £7.1 miliwn wrth gefn ar gyfer blaenoriaethau'r dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae ein Rhaglen Gyfalaf dreigl tair blynedd yn parhau i gynllunio ein buddsoddiad ar draws gwasanaethau allweddol y Cyngor ar gyfer y cyfnod i ddod, a bydd y Cabinet yn trafod y rhaglen ddiweddaraf a fydd yn rhedeg hyd at 2027/28 yn fuan. Mae’r rhaglen arfaethedig gwerth £225 miliwn yn cynnwys ein cyllideb graidd, ynghyd â grantiau penodol i’w chefnogi – sy’n cynrychioli buddsoddiad mawr, yn enwedig o gymharu â chynghorau eraill.
“Unwaith eto, rydyn ni wedi gallu dod â buddsoddiad ychwanegol ymlaen y tu hwnt i’n rhaglen gyfalaf dreigl – gan gynnig ariannu gwerth £16 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth yn 2025/26. Yr adeg yma'r llynedd fe gytunon ni ar fuddsoddiad tebyg gwerth £19 miliwn, a dilynwyd hynny gan £6.9 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer ein blaenoriaethau ym mis Medi 2024. Os cytunir arno, byddai’r cyllid sydd newydd ei gynnig yn dod â chyfanswm ein buddsoddiad o’r math yma i werth tua £204 miliwn ers 2015.
“Byddai’r adnoddau ychwanegol hyn yn dyrannu mwy na £10 miliwn ar draws gwaith cynnal a chadw priffyrdd, strwythurau, a ffyrdd heb eu mabwysiadu y flwyddyn nesaf, gan fanteisio ar y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae ein rhaglen gyfalaf ar gyfer ffyrdd yn parhau i gefnogi dull ariannu carlam, sydd wedi lleihau canran y lleoliadau y mae angen eu hatgyweirio, a hynny’n gyson. Mae hefyd yn ein helpu i wella a mabwysiadu ffyrdd preifat sydd heb eu cynnal a’u cadw’n dderbyniol, ac mae’n caniatáu diogelu tua 1,500 o strwythurau fel waliau, pontydd a chwlferi at y dyfodol.
“Mae cyllid pwysig gwerth £1.5 miliwn hefyd wedi’i gynnwys ar gyfer Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci – i gefnogi rhaglen cynnal a chadw mawr sydd ei angen ar yr adeilad hanesyddol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y lleoliad poblogaidd yn addas at y dyfodol, ac ar gael er mwynhad trigolion am flynyddoedd i ddod.
“Mae’r cyllid arfaethedig hefyd yn cynnwys hanner miliwn o bunnoedd i ni fuddsoddi ymhellach mewn cynlluniau lliniaru llifogydd wedi’u targedu, wrth i ni ymateb yn rhagweithiol i fygythiad newid yn yr hinsawdd. Bydd y cyllid yma gan y Cyngor yn hanfodol i helpu i ddenu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd, wrth i ni wneud cais am gyllid ar draws sawl rhaglen sefydledig sy'n parhau i helpu i amddiffyn ein cymunedau.
“Yn ogystal, byddai modd dyrannu gwerth £1.5 miliwn ar gyfer parciau a mannau gwyrdd, ynghyd â buddsoddiad mewn cyfleusterau chwarae a hamdden awyr agored megis parciau sglefrio, mannau chwarae, ac Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd. Byddai ein canolfannau hamdden hefyd yn derbyn gwerth hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid cyfalaf.
“Er gwaethaf heriau ariannol parhaus sy'n cael ei adlewyrchu ar draws Llywodraeth Leol, rwy'n falch bod y Cyngor unwaith eto wedi nodi buddsoddiad cyfalaf untro ar gyfer adnoddau ychwanegol ar draws ein meysydd blaenoriaeth. Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n darpariaeth o’r gwasanaethau sydd o bwys i'n trigolion.”
Wedi ei bostio ar 14/02/2025