Skip to main content

Tim a Victoria, rhieni maeth yn Rhondda Cynon Taf, yn croesawu cynllun i ddileu elw o'r system gofal plant yn raddol

Eliminating Profit - Tim & Tor (FACEBOOK)

Y Diwrnod Gofal yma (21 Chwefror), mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn ymuno â chymuned faethu Cymru i dynnu sylw at y buddion o faethu gydag Awdurdod Lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.

Nod ymgyrch Cadw’n Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o dderbyn gofal a rhieni maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifainc sy'n derbyn gofal i aros yn gysylltiedig â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a’u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85% o bobl ifainc â rhieni maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Serch hynny, dim ond 31% o bobl ifainc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol arhosodd yn lleol, gyda 7% yn symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.

Dechreuodd y rheini maeth, Tim a Victoria, o Bontypridd, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2015. Dewison nhw drosglwyddo i Faethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn 2021 – rhywbeth y maen nhw'n disgrifio fel y "penderfyniad gorau a wnaethon ni erioed".

Eglurodd Victoria: "Yn y gorffennol, roedden ni erioed wedi gofalu am blant hŷn. Pan ddechreuon ni faethu drwy ein Hawdurdod Lleol, dechreuon ni ofalu am ferch iau – rhywbeth nad oedden ni erioed wedi'i wneud o'r blaen. Ond roedd y cymorth a wnaethon ni ei dderbyn yn wych.

“Roedd ein gweithiwr cymdeithasol bob amser, ac mae o hyd, ar ben arall y ffôn. Ac, mae yna gymuned faethu go iawn yma. Erbyn hyn, rydyn ni'n adnabod mwy o bobl nag erioed sy'n rhieni maeth – mae gyda ni hyd yn oed ein grŵp WhatsApp ein hunain, ac rydyn ni wir yn gofalu am ein gilydd."

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant â phrofiad o dderbyn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd. Mae Maethu Cymru wedi nodi nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 er mwyn darparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifainc lleol. 

Ar hyn o bryd, mae 368 o blant yn y system gofal yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni angen 163 o dai maethu ychwanegol.

Meddai Annabel Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf: "Rwy'n falch bod rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn rhoi plant a theuluoedd yn gyntaf. Mae'n cynnwys ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Nod trosglwyddo i ddyfodol gofal nid-er-elw yng Nghymru yw sicrhau bod modd ail-fuddsoddi arian cyhoeddus mewn gwasanaethau i blant er mwyn cefnogi deilliannau gwell, gwasanaethau cynaliadwy, a datblygiad proffesiynol y rheiny sy'n gofalu am blant.

"Yn Rhondda Cynon Taf bydd hyn yn golygu y bydd modd i ni ailganolbwyntio ein hadnoddau, gyda phwyslais ar atal a chymorth lleol ardderchog ar gyfer rhieni a chynhalwyr yn y dyfodol.  

"Rydyn ni bob tro wedi rhoi gofal ein plant wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud, a dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw elw o'r broses yma. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am bob plentyn sy'n derbyn gofal maeth. Fodd bynnag, mae angen i ni allanoli rhieni maeth gan asiantaethau annibynnol neu elusennau o dro i dro. Rwy'n edrych ymlaen at ddyfodol pan fydd ein holl adnoddau yn canolbwyntio ar wasanaethau lleol gwych ar gyfer plant a theuluoedd, a hynny wrth ddileu elw.  

"Y llynedd, dim ond 31% o bobl ifainc oedd yn derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol oedd wedi aros yn eu hardaloedd lleol, gydag 85% o bobl ifainc gyda rhieni maeth Awdurdod Lleol yn aros yn eu hardaloedd lleol.

"Mae'n hanfodol bod plant maeth yng Nghymru yn gallu aros yn eu cymunedau lleol, a pharhau i weld y bobl a'r lleoedd sy'n bwysig iawn iddyn nhw. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn creu deilliannau gwell ar gyfer plant ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n holl rieni maeth awdurdod lleol Maethu Cymru RhCT presennol a newydd dros y blynyddoedd nesaf er mwyn arwain y ffordd o ran darparu gofal pan a lle bo angen."

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rwy’n falch bod rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal – gan newid yn sylfaenol sut mae Cymru’n darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd drwy wasanaethau yn y gymuned sy’n diogelu ac yn hyrwyddo lles y person ifanc. Mae’n cynnwys ymrwymiad i ddileu elw o blant sy’n derbyn gofal – nod pontio i ddyfodol dielw o ofal yng Nghymru yw sicrhau y mae modd ail-fuddsoddi arian cyhoeddus yn ôl i mewn i wasanaethau i blant, gan olygu y mae modd i'n cyngor wario llawer llai i wneud yn siŵr bod ein plant yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, mewn ardal sydd eisoes yn gyfarwydd iddyn nhw. 

"Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am bob plentyn sy'n derbyn gofal maeth, fodd bynnag, weithiau mae angen i ni allanoli tai rhieni maeth o asiantaethau neu elusennau annibynnol. Rwy’n falch dros y blynyddoedd nesaf y bydd yr asiantaethau annibynnol yn cael eu hatal rhag codi ffioedd arnom sy’n eu galluogi i ganolbwyntio ar elw yn hytrach na gofal.

"Y llynedd, dim ond 31% o bobl ifainc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, tra arhosodd 85% o bobl ifainc â rhieni maeth Awdurdod Lleol yn eu hardal leol. Mae’n bwysig iawn bod modd i blant maeth yng Nghymru aros yn eu cymunedau lleol, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â mwy o rieni maeth awdurdodau lleol Maethu Cymru RhCT dros y blynyddoedd nesaf.”

Nodiadau i'r Golygyddion

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch at ddibenion cyfweliadau, neu geisiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: Jo Reeves neu Georgia Osborne Joanna.Reeves@rctcbc.gov.uk Georgia.Osborne@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 21/02/2025