Skip to main content

Y Diweddaraf am y Tywydd dros y Penwythnos

Drain image

Mae'r Cyngor wedi darparu'r diweddaraf mewn perthynas â'r tywydd ddydd Sul 23 Chwefror, pan gafodd y Fwrdeistref Sirol law trwm iawn. 

O ganlyniad i'r glaw trwm ddydd Sul, cafodd rhannau o Rondda Cynon Taf dros 105mm o law yn ystod cyfnod eithaf byr. Fodd bynnag, roedd modd i'r Cyngor ddefnyddio adnoddau'n gynnar oherwydd y rhybuddion cynnar gan y Swyddfa Dywydd a chyhoeddiad datganiad canllawiau llifogydd Ambr, a rybuddiodd y gallai llifogydd o afonydd fod yn broblem. 

Dydy'r Cyngor ddim yn gyfrifol am lifogydd o afonydd – dyma gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdod rheoli perygl llifogydd. Serch hynny, penderfynodd y Cyngor yn gynnar fore Sul ddosbarthu bagiau tywod i gannoedd o eiddo yn yr ardaloedd a wynebodd y perygl mwyaf o ran llifogydd o afonydd.

Er ei bod hi'n glir o ddata mesur afonydd Cyfoeth Naturiol Cymru fod afonydd wedi cynyddu'n gyflym ddydd Sul, dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw eiddo wedi dioddef llifogydd o afon. Serch hynny, roedd nifer o leoliadau yr oedden ni wedi anfon carfanau iddyn nhw bron wedi dioddef llifogydd. 

O ran asedau sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor, mae gwybodaeth hyd yn hyn yn dangos eu bod nhw wedi gwrthsefyll y tywydd yn dda, gyda phob un o'r 100+ o gynlluniau a gafodd eu gwella ers Storm Dennis yn gwrthsefyll llifogydd. Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod am nifer o gwlferi preifat a gafodd rwystrau neu a orlifodd oherwydd yr holl ddŵr. Mae gwaith ymchwilio pellach i'r rhain yn cael ei gynnal. Mae'r Cyngor hefyd yn cysylltu â Dŵr Cymru mewn perthynas ag adroddiadau am lifogydd o garthffosydd.

Er bod gwaith ymchwilio i nifer o adroddiadau am lifogydd i'w wneud o hyd er mwyn cadarnhau, does dim achosion o lifogydd mewnol o gyrsiau dŵr cyffredin na dŵr wyneb wedi dod i'r amlwg hyd yn hyn – ond bydd gwiriadau'n parhau dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf wrth i staff gysylltu â thrigolion.

Yr hyn sy'n amlwg yw bod y miliynau o bunnoedd a gafodd eu buddsoddi gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth – ond mae angen gwella llawer o leoliadau eraill ledled y sir er mwyn gallu delio â'r glaw cynyddol rydyn ni'n ei gael. Mae hyn yn arbennig o wir ar bennau bryniau, sydd wedyn yn cael effaith ar gymunedau ar waelod y bryniau yma. Mae'r Cyngor yn glir bod angen parhau i fuddsoddi'n sylweddol yng ngwaith gwella seilwaith a chydnerthedd cymunedau. Dros y flwyddyn nesaf, bydd dros £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn dros 24 o leoliadau i wneud gwaith pellach i fynd i'r afael ag ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd. 

Rydyn ni'n parhau i roi cyllid grant i fusnesau er mwyn gwrthsefyll llifogydd gymaint â phosibl. Rydyn ni'n falch o weld bod busnesau megis Clwb y Bont ym Mhontypridd, a ddefnyddiodd y cyllid grant yma i brynu a gosod byrddau gwrthsefyll llifogydd, wedi'u hamddiffyn ar y penwythnos heb unrhyw achosion o lifogydd mewnol.  

O ran perygl llifogydd o afonydd, fel y nodir uchod, nid y Cyngor yw'r awdurdod rheoli perygl llifogydd ar gyfer hyn. Mae hyn yn golygu nad yw'r Cyngor yn gyfrifol am adeiladu na chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd o afonydd – na chynnal gwaith carthu a chlirio afonydd. Dyma gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'r Cyngor yn parhau i ofyn bod gwaith modelu llifogydd ar afonydd Cynon, Rhondda a Thaf yn cael ei gwblhau, a bod cynllun clir ar sut i leihau perygl llifogydd yn y dalgylch, a hynny yn sgil waliau afonydd, mesurau rheoli tir a mesurau rheoli llifogydd naturiol neu amddiffyn eiddo unigol, ac ati, yn cael ei lunio.

Wedi ei bostio ar 24/02/2025