Mae pensiynwr wedi ymddeol mewn poen ac wedi colli bron i £9,000 o'i gynilion ar ôl bod yn destun twyll gan adeiladwyr twyllodrus.
Roedd yr adeiladwyr twyllodrus, gaiff eu hadnabod fel y Brodyr Middleton - Nicky, 31 oed a Kyle Middleton, 29 oed, yn gyfarwyddwyr ar N&K Kitchens Ltd ar y pryd. Cafodd y ddau eu disgrifio mewn gwrandawiad llys diweddar yn Llys y Goron, Merthyr Tudful - "underquoting, failing to meet targets and promises, shoddy workmanship, and taking money for work which was not fully completed or not completed at all".
Cafodd y ddau adeiladwr twyllodrus eu dwyn i gyfrif yn dilyn adroddiadau gan sawl cwsmer i Garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf, gyda CHWE achos yn cael eu hadrodd i'r llys. Roedd y cyfanswm i'r holl ddioddefwyr yn dod i £125,000!
Cynhaliodd Carfan Safonau Masnach y Cyngor archwiliad i bob un o'r achosion gan ddarganfod manylion torcalonnus, gan ddwyn i'r amlwg ymdrechion y brodyr i fachu arian y dioddefwyr. Roedd yr adeiladwyr twyllodrus hyd yn oed wedi ceisio diddymu eu busnes, ond cafodd hyn ei stopio, a diolch i'r garfan y cawson nhw eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd.
Mae'r pensiynwr, sy'n dioddef o barlys yr ymennydd bellach yn 76 mlwydd oed ac roedd wedi talu'r arian i'r adeiladwyr er mwyn iddo ef a'i wraig gael ystafell ymolchi newydd er mwyn bod yn fwy cyfforddus. Er sawl ymgais i drafod y mater gyda'r adeiladwyr twyllodrus, chafodd dim arian ei ad-dalu a doedd dim dodrefn wedi cael ei archebu gan wneud i'r pâr deimlo eu bod wedi cael eu twyllo, yn anobeithiol ac yn fregus.
Roedd dioddefwr arall yn nyrs mewn uned gofal dwys, roedd yn rhaid iddi fyw yn un ystafell yn unig o 'dŷ ei breuddwydion' ar anterth y Pandemig COVID. Roedd y nyrs yn ymddiried yn y brodyr i gyflawni tipyn o waith yn ei chartref, tra'r oedd hi'n helpu i achub bywydau. Talodd y nyrs £61,762.12 i'r brodyr ond fe adawon nhw hi heb ddŵr cynnes a thŷ oer ac anniogel heb gegin, heb ystafell fwyta a thŷ oedd yn agored i'r elfennau am flwyddyn. Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r tŷ yn dal dŵr, ond mae'r nyrs yn wynebu gwerth miloedd o bunnoedd o ddyled ychwanegol.
Roedd gweithiwr golau glas arall wedi cael eu twyllo gan y brodyr hefyd. Roedd dyn tân wedi colli £2,600, wedi iddyn nhw beidio â gosod ei gegin.
Roedd Nadolig Rheolwr Cartref Gofal wedi'i ddifetha ac wedi colli dros £22,000 wedi i'r adeiladwyr twyllodrus fethu â chwblhau gwaith adnewyddu ei hystafell ymolchi a chegin.
Roedd cyfarwyddwr cwmni wedi colli dros £22,000 a chollodd dyn arall oedd wedi ymddeol £1000.
Fe blediodd KYLE MIDDLETON, Stryd Hughes, Pen-y-graig a NICKY MIDDLETON, Crib-y-ddôl, Tonyrefail yn euog i GYNNAL BUSNES TWYLLODRUS, yn groes i Adran 993 Deddf Cwmnïau 2006 - gan gynnal busnes o'r enw N&K Kitchens Ltd at ddibenion twyllodrus, derbyn arian am nwyddau, gwasanaethau a gwaith adeiladu nad oedden nhw wedi'u darparu, o safon wael neu heb eu cwblhau.
Meddai'r Barnwr Dedfrydu, Jeremy Jenkins:
"Roedd eu gwaith yn flêr, ac mewn rhai achosion, roedd arian wedi'i gymryd am waith a nwyddau na chafodd ei ddarparu, roedd safon y gwaith gafodd ei ddarparu gan y brodyr yn warthus gan beri gofid i gwsmeriaid o ganlyniad i'r hynny oedden nhw wedi'i wneud i'w cartrefi. Gall un ond dychmygu'r straen o orfod byw trwy'r hunllef gafodd ei chreu gan y brodyr. Bu'r brodyr yn dweud celwydd am bob dim hefyd gan geisio twyllo'r cwsmeriaid unwaith yn rhagor trwy derfynu eu cwmni. Does gan yr un ohonyn nhw'r hawl i alw eu hunain yn adeiladwr. Am fod y troseddau mor ddifrifol, rhaid mynd i'r afael â'r mater gyda dedfryd o garchar ar unwaith."
Cafodd y Brodyr Middleton eu dedfrydu i 32 mis o garchar ac wedi derbyn gwaharddiad rhag bod yn gyfarwyddwyr am 10 mlynedd.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
"Dyma enghraifft arall o'r dinistr sy'n cael ei greu o ganlyniad i weithredoedd difeddwl a hunanol adeiladwyr honedig.
"Roedd y teuluoedd yma wedi ymddiried yn y Brodyr Middleton ac N&K Kitchens Ltd, gyda'r gobaith o wella'u cartrefi, ond wedi gorfod gweithio'n ddiflino i gywiro eu llanast.
"Rwyf wedi fy mrawychu gyda'r gwaith gafodd ei gyflawn, roedden nhw wedi cymryd arian pensiynwr, nyrs, dyn tân, rheolwr cartref gofal a chyfarwyddwr cwmni a'u gadael nhw' i fyw mewn amodau gwarthus. Chafodd llawer o'r gwaith mo'i gyflawni, ac roedd peth o'u gwaith wedi'i gyflawni at safon wael ac anniogel iawn.
"Yn ffodus, stopiodd y Garfan Safonau Masnach ddim, hyd nes bod pob un o ddioddefwyr y brodyr twyllodrus yma wedi derbyn cyfiawnder. Dylai hyn fod yn rhybudd i fasnachwyr eraill. Os ydyn nhw'n penderfynu cynnal arferion busnes twyllodrus yn y Fwrdeistref Sirol, dylen nhw ddisgwyl cael eu harchwilio gan Safonau Masnach Rhondda Cynon Taf.
Hoffen i ddiolch i'n Carfan Safonau Masnach am ddod a'r achos yma i Lys y Goron ar gyfer erlyn. Mae'n hanfodol bod trigolion yn ymwybodol o'u hawliau yn ddefnyddwyr o ran rheoliadau safonau masnach sy'n cael eu torri. Mae gyda Swyddogion yr hawl i arolygu ac archwilio busnesau nad ydyn nhw'n cydymffurfio â'r gyfraith. Os ydych chi'n pryderu am fusnes neu fasnachwr nad ydyn nhw'n dilyn y gyfraith, rhowch wybod i ni. Byddwn ni'n archwilio unrhyw gwynion ac, os bydd angen, yn cymryd pob cam cyfreithiol posib yn erbyn y masnachwyr twyllodrus yma yn yr un modd â'r brodyr yma."
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â Safonau Masnach yn Rhondda Cynon Taf a rhoi gwybod am fasnachu anghyfreithlon, ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
Wedi ei bostio ar 29/01/2025