Skip to main content

Penderfyniad terfynol i'w wneud ar gynigion cartrefi gofal preswyl

Yr wythnos nesaf, bydd Aelodau'r Cabinet yn trafod yr holl adborth a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus diweddar mewn perthynas â chynigion gofal preswyl ar gyfer Glynrhedynog a'r Ddraenen-wen, a byddan nhw'n gwneud penderfyniad terfynol ar y cynigion.

Mae'r cynigion wedi'u cyflwyno i fynd i'r afael â'r newid yn y galw am ofal preswyl. Yn ôl adroddiadau, mae disgwyliadau pobl hŷn yn newid, gyda rhagor o breswylwyr am gadw'u hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain, neu fyw mewn preswylfeydd sy'n cynnig cymorth wedi'i dargedu i ddiwallu eu hanghenion mewn cyfleuster fflatiau â chymorth ychwanegol. Yn y cyd-destun yma, mae'r galw am gyfleusterau gofal cartref hefyd wedi newid, tuag at ofal nyrsio neu ofal dementia mwy arbenigol.

Yn eu cyfarfod ddydd Mercher, 22 Ionawr, bydd Aelodau'r Cabinet yn rhoi ystyriaeth derfynol i'r cynigion sy'n ymwneud â Chartref Gofal Preswyl Ferndale House yng Nglynrhedynog a Chartref Gofal Preswyl Cae Glas yn y Ddraenen-wen.

Mae adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher yn crynhoi'r adborth o'r ymgynghoriad a dderbyniwyd yn ystod ymarferion ymgysylltu ar gyfer y cynigion, a gafodd eu cynnal rhwng 1 Hydref a 31 Tachwedd 2024. Dan arweiniad yr ymgynghorwyr annibynnol, Practice Solutions Ltd, roedd y broses yn ymgysylltu'n uniongyrchol gyda phreswylwyr, eu teuluoedd a staff y cartrefi gofal, ac roedd modd i'r cyhoedd ddweud eu dweud drwy lenwi arolwg ar-lein ac mewn dwy sesiwn i'r cyhoedd a gafodd eu cynnal yn Nhylorstown a'r Ddraenen-wen.

Bydd Aelodau'r Cabinet yn ystyried yr holl ymatebion wrth iddyn nhw wneud eu penderfyniadau terfynol - yn ogystal ag ystyried yr adborth gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor, a fydd yn trafod y cynigion ar 21 Ionawr.

Wedi ei bostio ar 17/01/25