Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod cyllid sylweddol bellach wedi'i sicrhau i ailddatblygu hen safle Marks and Spencer yng nghanol tref Pontypridd. Mae contractwr wedi'i benodi hefyd, ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Chwefror 2025.
Y bwriad yw ailddatblygu'r safle yma yn 97-102 Stryd y Taf yn rhan o brosiect Porth y De, Pontypridd. Cafodd yr hen adeilad ei ddymchwel y llynedd yn barod ar gyfer dechrau'r gwaith. Mae cynnig ffurfiol i greu 'plaza ar lan yr afon' wedi'i ddwyn ymlaen, gyda'r nod o greu ardal ddeniadol i'r cyhoedd ac amlygu'r afon o gyfeiriad canol y dref am y tro cyntaf ers 100 mlynedd.
Clywodd y Cabinet y newyddion diweddaraf am y prosiect yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024, lle cafodd yr Aelodau gyfle i drafod ac yn ystyried nifer o agweddau ar y prosiect. Bwriad y prosiect yw:
- Manteisio i'r eithaf ar botensial y safle yn 'amgylchedd cyswllt' allweddol, yn rhan o lwybr newydd i ymwelwyr o'r orsaf drenau a thrwy safle'r hen Neuadd Bingo.
- Datgelu golygfeydd sydd newydd tuag at yr afon a'r parc cyfagos.
- Integreiddio nodweddion allweddol megis ardaloedd â choed a gwyrddni, cynefinoedd bioamrywiol newydd a datrysiadau draenio cynaliadwy.
- Darparu amgylchedd agored newydd sy'n ddigon hyblyg i ymateb i gyfleoedd newydd ar gyfer canol y dref.
- Creu 'plaza newydd ar lan yr afon' sy'n cynnwys ciosgau bach ysgafn (unedau masnachol) sy'n gwerthu bwyd a diod.
Bydd y rhan fwyaf o'r safle yn cael ei godi'n uwch na'r parth llifogydd, yn seiliedig ar fodelu llifogydd. Bydd y contractwr hefyd yn gosod arwyneb a goleuadau stryd newydd ar y lôn sy'n arwain at y parc.
Ers y diweddariad i'r Cabinet ym mis Gorffennaf, mae swyddogion y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran gorffen dylunio'r prosiect a bwrw ymlaen â'r gwaith o'i gyflawni. Cafodd proses gaffael gystadleuol ei chynnal er mwyn penodi'r prif gontractwr.
Mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction Ltd yn gontractwr i gwblhau'r cynllun. Bydd y cwmni’n symud ei gyfarpar i'r safle yn ystod Ionawr 2025, ac mae disgwyl i'r prif gyfnod adeiladu ddechrau ym mis Chwefror.
Mae mwy na £5.6 miliwn o gyllid allanol bellach wedi'i sicrhau er mwyn cyflawni'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys cyfraniadau o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£3.68 miliwn) a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan (£1.95 miliwn).
Byddwn ni'n rhannu manylion pellach am y gwaith adeiladu, gan gynnwys y dyddiad dechrau a gwybodaeth i'r rheiny sy'n ymweld â'r dref wrth i'r gwaith fynd rhagddo, unwaith iddyn nhw gael eu cadarnhau. Rydyn ni'n rhagweld y bydd yr holl waith yn dod i ben ar ddechrau 2026.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Mae sicrhau mwy na £5.6 miliwn o gyllid ar gyfer y cyfnod adeiladu, a phenodi'r prif gontractwr, yn gerrig milltir pwysig ar gyfer y gwaith yma o adfywio hen safle M&S a Dorothy Perkins ym Mhontypridd. Mae'r Cyngor a'i gontractwr bellach yn gwneud y paratoadau terfynol ar gyfer y gwaith, a fydd yn dechrau yn yr wythnosau nesaf.
“Mae’r safle strategol yma yng nghanol Pontypridd yn gyfle unigryw i ehangu rhan ddeheuol canol y dref a'i gwneud yn fwy agored – ac ymatebodd y cyhoedd yn dda i'r syniad gwreiddiol o greu ‘plaza ar lan yr afon’ yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'r safle. Ers i'r Cabinet dderbyn y diweddariad diwethaf yn haf 2024, mae'r gwaith pwysig o ddatblygu'r cynigion ymhellach wedi parhau, dan arweiniad y garfan amlddisgyblaethol sydd wedi'i phenodi gan y Cyngor.
“Bwriad y datblygiad ar hen safle M&S fydd ategu’r hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni ar safle’r hen Neuadd Bingo – gan greu man agored, braf, ac yn ymgorffori nodweddion fel ardaloedd gwyrdd a chiosgau bwyd/diod. Bydd yr ardal ehangach yma hefyd yn darparu man hyblyg y mae modd ei ddefnyddio yn ôl yr angen - er enghraifft, yn ystod achlysuron yng nghanol y dref. Yn ogystal â hynny, bydd gyda'r safle olygfa drawiadol o'r afon a Pharc Coffa Ynysangharad.
“Mae hen safleoedd M&S a'r Neuadd Bingo yn elfennau pwysig o weledigaeth Porth y De yng Nghynllun Creu Lleoedd Pontypridd. Mae hyn yn rhan o'r cynllun ehangach o ran buddsoddi mewn adfywio ym mhob rhan o'r dref. Nod y gwaith yw adeiladu ar y momentwm sydd eisoes wedi’i greu yn y blynyddoedd diwethaf, trwy gynlluniau blaenllaw megis datblygiad Llys Cadwyn, cynllun tai Cwrt yr Orsaf, Y Muni, YMa, ac amrywiol welliannau ym mhob rhan o'r parc.
“Mae’n bosibl y bydd ymwelwyr â chanol y dref yn sylwi ar y contractwr penodedig yn gwneud rhywfaint o waith cychwynnol ar hen safle M&S yn fuan, a hynny i baratoi ar gyfer y cyfnod adeiladu sy’n dechrau ym mis Chwefror. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion â thrigolion unwaith y bydd yr holl gynlluniau wedi'u cadarnhau, gan gynnwys unrhyw effeithiau disgwyliedig ar drigolion, yr ardal fanwerthu a’r gymuned fusnes. Byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i leihau'r effeithiau yma.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: “Mae’r prosiect yma'n enghraifft wych o sut mae ein cyllid Trawsnewid Trefi yn cefnogi gwelliannau trawsnewidiol yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd.
“Bydd y prosiect ailddatblygu sylweddol yma'n gwella natur ymarferol Pontypridd, yn denu ymwelwyr, ac yn darparu cyfleoedd masnachol newydd, gan helpu i atgyfnerthu'r economi leol.
“Mae creu mannau sy’n gwella lles y gymuned, yn cefnogi busnesau lleol ac yn hybu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref yn rhannau allweddol o’n strategaeth adfywio. Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y datblygiad yma'n mynd rhagddo.”
Diben Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Wedi ei bostio ar 09/01/2025