Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i addysgu pobl am beryglon gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd ar domenni glo, y difrod y mae hyn yn ei achosi i systemau draenio tomenni, a'r perygl y mae hyn yn ei achosi i'r cyhoedd. Rydyn ni angen eich help i roi gwybod am y digwyddiadau yma.
Mae gwaith i adfer tirlithriad Tylorstown bron wedi'i gwblhau, ac yn rhan o hyn, bydd angen amser i'r safle derbyn newydd ger Old Smokey ac ardal y tirlithriad gael eu sefydlu a'u gwneud yn gadarn. Mae'n hanfodol caniatáu amser i'r safle yma aeddfedu a sefydlu llystyfiant sy'n amddiffyn y tir rhag erydu ac atal rhwystrau yn y sianeli draenio, sy'n angenrheidiol i gynnal sefydlogrwydd y llethr.
Y gobaith yw y bydd defnyddio camerâu i adnabod pobl sy’n gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd, ynghyd â gosod arwyddion clir a chynnwys ysgolion lleol yn rhan o bethau i annog ymgysylltiad y gymuned, yn helpu i roi diwedd ar gerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn defnyddio’r tomenni.
Rydyn ni'n annog defnyddwyr cerbydau oddi ar y ffordd i ymddwyn yn gyfrifol a rhoi'r gorau i yrru ar y tomenni oherwydd y peryglon y mae'r difrod yn ei achosi i gymunedau lleol. Rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd roi gwybod am gerbydau oddi ar y ffordd sy'n gyrru ar domenni yn Rhondda Cynon Taf.
Os byddwch chi'n gweld cerbydau oddi ar y ffordd yn gyrru’n anghyfreithlon ar y tomenni neu’n eu difrodi, rhowch wybod i Heddlu De Cymru drwy un o'r dulliau canlynol:
- E-bostiwch swp101@south-wales.police.uk
- Neu ffoniwch 101
Mae angen cymaint o wybodaeth â phosibl ar Heddlu De Cymru i ymdrin â digwyddiadau ac mae'n gofyn i’r wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys os yw’n hysbys:
- Dyddiad, amser a disgrifiad o'r digwyddiad
- Manylion y cerbyd (math, rhif cofrestru, gwneuthuriad, model, lliw, nodweddion adnabyddadwy)
- Manylion y gyrrwr (os ydyn nhw'n hysbys)
- Tystiolaeth (fideo, sain, lluniau)
- Digwyddiadau blaenorol (os ydyn nhw'n berthnasol)
- Yr effaith ar yr unigolyn neu'r gymuned
Mae'r wybodaeth gaiff ei chasglu o adroddiadau cyhoeddus yn helpu i fynd i'r afael â gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd trwy roi gwybod i'r adran Gweithrediadau Cerbydau Oddi ar y Ffordd, sy'n cael ei chynnal gan Heddlu De Cymru, sydd â'r adnoddau i fynd i'r afael â niwsans cerbydau oddi ar y ffordd. Os caiff unigolion eu hadnabod, bydd modd i garfan yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf gymryd camau yn erbyn yr unigolion trwy ddeddfwriaeth gorfodi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae’n hanfodol bod safle Tylorstown yn cael amser i sefydlu ac i ganiatáu i’r seilwaith draenio ddod yn ddiogel. Mae hyn yn sicrhau bod dŵr yn cael ei gyfeirio i ffwrdd o'r domen. Mae'r defnydd o gerbydau oddi ar y ffordd yn niweidio'r seilwaith draenio hanfodol yma ac yn rhoi'r cymunedau islaw mewn perygl.
"Mae system ddraenio weithredol yn allweddol i helpu i gynnal sefydlogrwydd y safle tirlenwi. Mae cynnal a chadw'r seilwaith yma'n ddrud ac yn cymryd llawer o amser. Mae'r Garfan Tomenni ar hyn o bryd yn nodi ac yn blaenoriaethu'r tomenni sydd fwyaf mewn perygl ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn unol â hynny."
Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi cyhoeddi neges gref yn mynd i’r afael â pheryglon gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd, gan dynnu sylw at yr effaith ar ddiogelwch y cyhoedd, yr amgylchedd, a chymunedau lleol.
Meddai'r Arolygydd Richard Gardiner, Carfan Cymunedau Diogel Heddlu De Cymru: “Mae beicio'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn achosi niwed pellgyrhaeddol. Mae defnydd diofal o'r cerbydau yma'n aml yn arwain at wrthdrawiadau, gan beryglu cerddwyr, beicwyr, marchogwyr, ac eraill. Y tu hwnt i bryderon diogelwch, mae'r gyrwyr hynny yn aml yn tresmasu ar diroedd preifat a chyhoeddus, gan greu gwrthdaro ac ofn mewn cymunedau. Mae dinistrio ardaloedd sensitif, megis gwarchodfeydd natur, caeau ffermio, tomenni, a mannau hamdden, nid yn unig yn wael yn amgylcheddol ond hefyd yn golled sylweddol i aelodau'r gymuned sy'n defnyddio'r mannau yma ar gyfer eu bywoliaeth ac yn ystod eu hamser hamdden.
“Mae’r difrod amgylcheddol i’r tomenni'n ddifrifol – caiff systemau draenio eu heffeithio, caiff cyrsiau dŵr eu newid, a chaiff tomenni eu gwneud yn ansefydlog, gan gynyddu’r perygl o dirlithriadau a llifogydd. Mae coed a llystyfiant sydd newydd eu plannu yn cael eu dinistrio'n rheolaidd, gan ddadwneud blynyddoedd o ymdrechion cadwraeth. Mae bywyd gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod, yn colli cynefinoedd hanfodol oherwydd natur ymosodol a heb ei reoleiddio'r gweithgareddau yma.
“Rydyn ni'n dibynnu ar gydweithrediad y cymunedau wedi'u heffeithio er mwyn mynd i'r afael â'r digwyddiadau yma'n effeithiol. Trwy roi gwybod am weithgareddau amheus a darparu gwybodaeth fanwl, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i amddiffyn bywydau, diogelu'r amgylchedd, a chynnal yr heddwch."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau’n gadarn yn ei ymrwymiad i sicrhau cymunedau mwy diogel a mynd i’r afael â’r heriau wedi'u hachosi gan yrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd. Mae'n gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i fynd i’r afael â’r mater yma drwy atafaelu cerbydau, erlyn troseddwyr, a defnyddio mesurau ataliol i'w atal.
Wedi ei bostio ar 09/01/2025