Skip to main content

Cynlluniau arloesol i gynhyrchu ynni glân i bweru asedau'r Cyngor

Proposed-hydro-electric-schemes

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer dau gynllun trydan dŵr cyffrous yn Nhrefforest ac Aberdâr, sy'n cynnwys cynigion arloesol i gyfrannu at dargedau lleihau carbon y Cyngor.

Mae'r cynlluniau wedi'u cynllunio ar gyfer Cored Trefforest a Pharc Gwledig Cwm Dâr, gyda'r Cyngor yn cynnig buddsoddiad mewn seilwaith newydd fydd yn defnyddio llif naturiol dŵr i gynhyrchu trydan. Bwriad y cynlluniau fyddai cyfrannu at nod y Cyngor o gynyddu'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu, yn ogystal â'i ymrwymiadau ehangach o ran y newid yn yr hinsawdd sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Corfforaethol (2024-2030).

Yn dilyn y ceisiadau cynllunio, mae'r ddau gynllun bellach wedi'u hychwanegu at Borth Cynllunio RhCT. Mae modd gweld cais Parc Gwledig Cwm Dâr, ynghyd â phrif gais Cored Trefforest a chais ar wahân ar gyfer cydsyniad adeilad rhestredig. Yn rhan o broses y ceisiadau cynllunio, gall trigolion gyflwyno sylwadau am y cynigion yn ystod y cam yma. Bydd unrhyw sylwadau sy'n dod i law yn cael eu hystyried a byddan nhw'n helpu i lywio trafodaeth y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar y ceisiadau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Mae cynigion amlinellol ar gyfer y ddau gynllun wedi cael eu trafod gan Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2022, ac yn fwy diweddar ym mis Mawrth 2024.

Cynllun Trydan Dŵr Arfaethedig Cored Trefforest

Mae'r gored restredig Gradd II wedi'i lleoli tua 100 metr i'r de o'r bont droed dros yr Afon Taf yng nghanol Trefforest. Mae tua 50 metr o led, gyda thua 3 metr rhwng y lefelau dŵr uchaf ac isaf. Mae'r cynnig wedi'i gategoreiddio'n system 'cwymp bychan' gyda chwymp o hyd at 3 metr.

Mae'r cynnig sylfaenol yn cynnwys cael gwared â'r ysgol bysgod bresennol (i'r gorllewin o'r gored) er mwyn creu lle ar gyfer y seilwaith ynni dŵr. Byddai ysgol bysgod fodern o'r un safon neu sydd o safon well yn cael ei gosod.

Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu dros 1,110MWh o drydan y flwyddyn, a all gael ei ddefnyddio gan asedau'r Cyngor yn bennaf. Bydd modd cludo unrhyw drydan dros ben i'r grid. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr dŵr a benodwyd er mwyn llunio dyluniadau rhagarweiniol ac arolygon safle, a bydd angen caniatâd perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y cynllun cyffredinol.

Cynllun Trydan Dŵr Arfaethedig Parc Gwledig Cwm Dâr

Byddai'r cynnig yn datblygu cynllun micro 50kW ar hyd yr Afon Dâr ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, ychydig i'r gogledd o Aberdâr. Byddai'r cynllun yn cynhyrchu tua 193MWh o drydan y flwyddyn – bydd 80% o'r trydan yma'n cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol gan y gwesty a'r ganolfan i ymwelwyr. Bydd modd cludo'r 20% sy'n weddill i'r grid.

Mae'r cynnig yn canolbwyntio ar ddau bwll mawr i'r gogledd-orllewin o'r ganolfan i ymwelwyr, a'r cysyniad sylfaenol fyddai gosod mewnlif ar gored bresennol y pwll uchaf. Mae'r cynnig yn cynnwys gosodiadau amrywiol, gan gynnwys siambr yn y llyn uchaf a phibellau/ceblau rhwng y lleoliadau. Byddai gorsaf drydan yn cael ei hadeiladu ar gornel ogledd-orllewinol y pwll isaf, a bydd honno'n cynnwys tyrbin, generadur a system reoli. Byddai dŵr yn cael ei ddychwelyd i'r pwll isaf o'r orsaf drydan. 

Cafodd asesiad ecolegol llawn ei gynnal gan ymgynghorwyr allanol, ac mae swyddogion o'r farn bod modd i'r cynnig arwain at ganlyniad cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth trwy fesurau lliniaru gofalus. Mae dyluniadau rhagarweiniol ac arolygon safle wedi cael eu cwblhau, gyda chanolbwynt ar gynnal a chadw defnydd presennol yr ardal. Mae ymgynghorydd technegol wedi cael ei benodi i gefnogi'r cynllun, sydd hefyd yn gofyn am ganiatâd perthnasol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Hinsawdd: “Mae'r cynigion yma ar gyfer Cored Trefforest a Pharc Gwledig Cwm Dâr yn dangos dull arloesol y Cyngor o ran lleihau carbon a chynhyrchu ynni mwy glân. Yn syml, mae'r ddau'n cynnig defnyddio dŵr sy'n llifo'n naturiol i gynhyrchu trydan, fydd yn cael ei ddefnyddio i bweru asedau'r Cyngor. Yn hyn o beth, mae'n debyg i Ffynnon Dwym Ffynnon Taf, sy'n defnyddio dŵr cynnes sydd wedi'i gynhyrchu'n naturiol a'i droi'n ynni ar gyfer bloc addysgu ysgol gynradd agos.

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w nodau a chyfrifoldebau o ran y newid yn yr hinsawdd – mae ein Cynllun Corfforaethol yn cydnabod mai cyflawni'r rhain yw'n her fwyaf fel sefydliad, a chafodd Strategaeth Datgarboneiddio Gorfforaethol ei mabwysiadu'n ffurfiol gan Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd yn 2023. Er mwyn cyflawni ein targedau uchelgeisiol rhaid i ni fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni glân. Dyma'r rheswm pam mae prosiectau Trefforest ac Aberdâr wedi cael eu datblygu.

“Mae ceisiadau cynllunio'r ddau brosiect bellach wedi'u cwblhau felly byddwn i'n annog trigolion sydd â diddordeb i gael rhagor o wybodaeth ar Borth Cynllunio'r Cyngor – gan gynnwys trosolwg o'r prosiectau a dogfennau allweddol. Bydd yr holl adborth sy'n dod i law yn cael ei ystyried pan fydd trafodaeth ffurfiol ar y ceisiadau priodol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 13/01/25