Skip to main content

Cyflwyno'r diweddaraf ar y broses pennu cyllideb i'r Cabinet

Bydd y Cabinet yn trafod Strategaeth Gyllideb ddrafft a gynigir gan swyddogion yn dilyn setliad Llywodraeth Leol dros dro Llywodraeth Cymru, a gallai Aelodau gytuno iddi fod yn ganolbwynt cam nesaf yr ymgynghoriad.

Roedd y setliad Llywodraeth Leol dros dro ar 11 Rhagfyr yn nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd o 4.8% yn y cyllid y flwyddyn nesaf. Mae adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher 22 Ionawr yn nodi strategaeth sy'n ystyried y sefyllfa ariannu yma ac yn amlinellu'r adborth a dderbyniwyd yng ngham un ymgynghoriad y Cyngor ar y Gyllideb, a gynhaliwyd yn yr hydref, i'r Cabinet ei ystyried.

Ym mis Medi 2024, darparodd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig tair blynedd y cyd-destun ar gyfer gwaith tuag at bennu cyllideb y flwyddyn nesaf – wedi'i phennu yn erbyn cefndir o bwysau ariannol sylweddol ar draws Llywodraeth Leol. Aeth swyddogion ati i fodelu ystod o lefelau setliad a arweiniodd at fwlch ariannu arfaethedig o £35.7 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, yn codi i £92 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Ym mis Tachwedd 2024, rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am waith cynnar y Cyngor i nodi a chyflawni nifer o fesurau lleihau'r gyllideb, gwerth cyfanswm o £10.28 miliwn. Mae'r dull yma'n parhau i sicrhau bod y Cyngor mewn sefyllfa dda o ran ymateb i'r heriau ariannol, ac mae wedi bod yn elfen allweddol o'n trefniadau cadarn ar gyfer pennu cyllideb dros y blynyddoedd diwethaf.

Rhoddwyd diweddariad ar oblygiadau'r setliad Llywodraeth Leol i'r Cabinet ar 16 Rhagfyr. Roedd hyn yn cynnwys gofynion cyllideb sylfaenol wedi'u diweddaru i adlewyrchu pwysau costau cynyddol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant, sefydlu cyllideb graidd ar gyfer gwella mesurau gwrthsefyll tywydd garw yn y dyfodol, costau gweithwyr uwch a goblygiadau newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac ailgyflenwi cronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd i helpu trigolion yn dilyn Storm Bert.

Arweiniodd y ffactorau yma, wedi'u pennu yn erbyn y setliad Llywodraeth Leol mwy addawol, at fwlch yn y gyllideb o £6.8 miliwn yn weddill. Dyma'r sefyllfa y mae'r Strategaeth Gyllideb ddrafft yn seiliedig arni.

Elfennau allweddol o'r Strategaeth Gyllideb ddrafft

Mae ariannu ysgolion bob amser wedi bod yn flaenoriaeth, hyd yn oed pan fo'r Cyngor wedi wynebu heriau ariannol enfawr. Roedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn modelu cynnydd yn seiliedig ar ofynion chwyddiant (sy'n gysylltiedig â chyflogau ysgolion ac nad ydyn nhw'n gysylltiedig â chyflogau ysgolion) yn cael eu hariannu - gyda'r angen i ysgolion eu hunain ddelio ag unrhyw bwysau pellach. Fodd bynnag, mae'r Strategaeth Gyllideb ddrafft bellach yn cynnig ymdrin â'r holl bwysau ar y gyllideb, gan ariannu ein hysgolion yn llawn gyda chynnydd cyffredinol yn y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf o £14 miliwn (7%).

Mae parhad gwaith uwch swyddogion mewn perthynas ag arbedion effeithlonrwydd, yn ychwanegol at y rhai a adroddwyd ym mis Tachwedd, wedi cyfrannu at nodi mesurau ychwanegol ar gyfer lleihau'r gyllideb gwerth £5.75 miliwn. Mae hyn wedi cael ei gyflawni trwy fesurau effeithlonrwydd cyffredinol, ailsylfaenu'r costau cyfalaf a'r gyllideb log, ac ailstrwythuro gwasanaethau.

Mae'r strategaeth yn cynnig bod yr holl Ffïoedd a Chostau yn destun cynnydd safonol o 5%, gan gydnabod y cynnydd mawr yn sylfaen costau'r Cyngor sydd wedi cael effaith ar lefel y cymhorthdal y mae'r Cyngor yn ei ddarparu. Mae nifer o eithriadau penodol i'r cynnydd safonol, a nodir mewn eitem agenda ar wahân i gyfarfod dydd Mercher.

Mae'r Cyngor bob amser yn gweithredu agwedd gyfrifol tuag at bennu lefelau treth y Cyngor, gan gydbwyso'r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol a modd trigolion i dalu. Unwaith eto bydd angen i bob Cyngor yng Nghymru gynyddu treth y Cyngor y flwyddyn nesaf, ac mae'r strategaeth ddrafft yn cynnig cynnydd o 4.5%. Mae’r cynnydd yma’n debygol eto o fod yn un o'r rhai isaf yng Nghymru.

Ddydd Mercher, bydd Aelodau'r Cabinet yn penderfynu sut y bydden nhw'n dymuno mantoli'r bwlch yn y gyllideb sy'n weddill, a hynny yng ngoleuni'r cynigion strategaeth uchod. Yn dilyn hyn, bydd y Cyngor yn ymgynghori â thrigolion ar y Strategaeth Gyllideb ddrafft yn ystod ail gam y broses ymgynghori ar y Gyllideb eleni. Byddai'r cam yma'n cael ei gynnal o ddydd Iau 23 Ionawr tan ddydd Gwener 7 Chwefror.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith eto, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu agwedd gyfrifol o bennu ei Gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, drwy ddull sefydledig o fodelu ariannol a nodi arbedion yn gynnar yn y broses. Er enghraifft, mae dros £10 miliwn o fesurau lleihau'r gyllideb wedi'u cynnwys ers mis Tachwedd. Daeth adolygiad diweddar Archwilio Cymru o'n trefniadau i'r casgliad bod ein hagwedd strategol yn briodol o ran cynnal cynaliadwyedd ariannol a mynd i'r afael â heriau cyllidebol yn y dyfodol.

“Mae'r Strategaeth Gyllideb ddrafft, a fydd yn cael ei thrafod gan y Cabinet, yn seiliedig ar sefyllfa fwy cadarnhaol yn dilyn setliad dros dro Llywodraeth Cymru, er ein bod wedi parhau i weld ein sylfaen costau a’n gofyniad cyllidebol yn parhau i gynyddu. Er bod y rhagolygon tymor canolig yn parhau i fod yn heriol, mae Cyllideb arfaethedig 2025/26 yn diogelu ein gwasanaethau allweddol cymaint â phosibl ac yn cynnwys llawer o agweddau cadarnhaol - sef ariannu ein hysgolion yn llawn gyda £14 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu iddyn nhw. 

“Mae'r strategaeth hefyd yn ystyried bod £5.75 miliwn ychwanegol mewn mesurau lleihau'r gyllideb wedi'i nodi, ar ben yr hyn a adroddwyd ym mis Tachwedd. Gyda llawer o hyn yn digwydd trwy arbedion effeithlonrwydd cyffredinol, mae'n ymdrech anhygoel arall i sicrhau arbedion o'r fath a fydd yn cael yr effaith leiaf bosibl ar ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen allweddol. Mae'n dilyn arbedion effeithlonrwydd gwerth £13 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn bresennol, a £16 miliwn y flwyddyn flaenorol – gydag arbedion o'r fath yn dod yn fwyfwy anodd eu nodi bob blwyddyn.

“Byddai’r strategaeth ar gyfer Ffïoedd a Chostau yn sicrhau eu bod nhw'n parhau'n gystadleuol o gymharu ag awdurdodau cyfagos. Byddai'r cynnig ar gyfer lefel Treth y Cyngor yn osgoi cynnydd gormodol ac y byddai'r cynnydd unwaith eto yn un o'r rhai isaf yng Nghymru – gyda'r angen i bob Cyngor gynyddu lefelau Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.

“Cymerodd y setliad Llywodraeth Leol dros dro ym mis Rhagfyr gamau pwysig tuag at ddiogelu gwasanaethau allweddol rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad oes modd trawsnewid 14 mlynedd o gyllid cyfyngedig mewn blwyddyn. Ar y cyfan, dyma sefyllfa gadarnhaol i adrodd arni yn dilyn blynyddoedd o gyni a'r heriau Costau Byw parhaus – yn ystod y cyfnod yma bu'n rhaid i'r Cyngor ddelio â'i fylchau mwyaf erioed yn y gyllideb yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Os cytunir arni ddydd Mercher, bydd modd ymgynghori ar y Strategaeth Gyllideb ddrafft yng ngham dau ein hymgynghoriad, a chytunwyd ar amserlen i bennu cyllideb fantoledig ar gyfer y flwyddyn nesaf ym mis Mawrth eleni.”

Cynhaliwyd cam un yr ymgynghoriad ar y gyllideb rhwng 31 Hydref a 12 Rhagfyr 2024, gan ganolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd a blaenoriaethau buddsoddi. Cyflwynir crynodeb o'r adborth a dderbyniwyd mewn Adroddiad Ymgynghori Llawn, sydd ar gael fel atodiad i adroddiad y Cabinet ddydd Mercher. Cymerodd dros 700 o bobl ran yn y gweithgareddau ymgysylltu amrywiol dros y cyfnod chwe wythnos.

Wedi ei bostio ar 17/01/2025