Skip to main content

Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi Rhybudd Tywydd Ambr

Amber-Weather-Warning-WELSH

Rhybudd ambr: rhwng 6pm ddydd Sadwrn 4 Ionawr a 12pm ddydd Sul 5 Ionawr

Rhybudd melyn: rhwng 12pm ddydd Sadwrn 4 Ionawr a 11.59pm ddydd Sul 5 Ionawr

Mae rhagolygon y tywydd o ddydd Sadwrn i ddydd Sul yn parhau i fod yn ansicr, ond mae gwybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Dywydd yn awgrymu y bydd eira ar hyd a lled y wlad nos Sadwrn. 

Er y bydd hyn yn troi'n law ar diroedd is tua diwedd y noson, efallai y bydd tiroedd uwch yn RhCT yn gweld dros 10cm o eira.

Wrth i'r eira droi'n ôl i law yn oriau mân dydd Sul, mae 'na berygl o rew eang a glaw rhewllyd cyn i'r tywydd mwynach gyrraedd yn hwyrach ddydd Sul. 

Bydd ein lorïau graeanu priffyrdd ac erydr eira ar waith, a bydd y garfan Glanhau Strydoedd a charfan y Parciau yn defnyddio tractorau a cherbydau 4x4 i raeanu. Byddwn ni'n galw ar gontractwyr allanol i weithio brynhawn a nos Sadwrn. Fodd bynnag, gydag eira trwm yn bosibl ac yna'r glaw rhewllyd a'r rhew, dyma annog y cyhoedd i beidio â theithio oni bai ei fod yn gwbl hanfodol o nos Sadwrn hyd at ganol bore dydd Sul.

Sylwch, ar nos Sadwrn ac i mewn i fore Sul, ni fydd gwasanaeth ymatebydd symudol nos y Cyngor yn gweithredu a bydd newidiadau ac oedi hefyd i rai ymweliadau gofal cartref. Bydd eich darparwr yn cysylltu â chi i drafod a chadarnhau trefniadau. Fore Sul, ni fydd cyfleusterau'r Cyngor megis canolfannau hamdden, parciau a mynwentydd ddim yn agor tan 11am pan fydd y perygl o rew wedi lleihau.

Bydden ni hefyd yn annog trigolion i barcio'n synhwyrol gan fod erydr eira yn debygol o gael eu gosod ar ein cerbydau graeanu ac efallai y bydd parcio ar y priffyrdd, cyffyrdd, ac ati yn rhwystro'r erydr eira rhag mynd heibio. Efallai bydd hyn yn golygu na fydd modd graeanu rhai llwybrau yn ystod y tywydd garw.

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf a'r rhybuddion tywydd diweddaraf.

Wedi ei bostio ar 03/01/2025