Skip to main content

Bwrw ymlaen â chynnig i greu pedwar Dosbarth Cynnal Dysgu newydd

School classroom generic 1

Mae'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynigion i wella arlwy Dosbarthiadau Cynnal Dysgu prif ffrwd y Cyngor i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Byddai'r cynigion yn cynyddu nifer y dosbarthiadau yma yn y Fwrdeistref Sirol o 48 i 52.

Cafodd y cynigion eu cyflwyno er mwyn ymateb i feysydd angen yn y Blynyddoedd Cynnar a'r cyfnod uwchradd, ac er mwyn anelu at gynyddu'r ddarpariaeth mewn rhai ysgolion i gyfyngu ar drefniadau pontio diangen o un safle i safle arall i ddisgyblion. Ym mis Medi, cytunodd Aelodau'r Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar y cynigion.

Mae 48 o Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu presennol y Cyngor yn cynnig lleoliadau arbenigol i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd dysgu mewn addysg brif ffrwd. Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet ym mis Medi fod tua £5.8 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn i weithredu'r dosbarthiadau, gan gefnogi 420 o ddisgyblion. Mae'r nifer yma wedi cynyddu o 330 o ddisgyblion a 46 o ddosbarthiadau ers mis Hydref 2018, sy'n tynnu sylw at y twf yn y galw.

Er bod ystod ardderchog o Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu ar gael, mae angen o hyd mewn rhai meysydd. Mae nifer y disgyblion ym mhob un o dri dosbarth y Blynyddoedd Cynnar yn uwch na'r nifer optimaidd, ac mae diffyg ar draws blynyddoedd 7-11 yn y cyfnod uwchradd. Does dim Dosbarth Cynnal Dysgu i ddisgyblion uwchradd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yng Nghwm Cynon felly rhaid i ddisgyblion deithio i Donyrefail, Glynrhedynog neu Dreorci.

Hefyd, mae chwe dosbarth i ddisgyblion blynyddoedd 3-6 ag Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol/ASA, ond dim ond pum dosbarth i ddisgyblion y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 2. Mae nifer y disgyblion yn y rhain naill ai wedi cyrraedd y nifer optimaidd, neu'n uwch na hynny, ym mis Medi 2024. O'r chwe dosbarth Blwyddyn 3-6, dim ond tri sydd â darpariaeth gyfatebol o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 2 felly mae rhaid i nifer o ddisgyblion bontio o un safle i safle arall.

Fe wnaeth swyddogion felly gynnig pum newid i ddiwygio darpariaeth bresennol y Cyngor erbyn mis Medi 2025, a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r angen yma. Dyma'r newidiadau:

  • Sefydlu Dosbarthiadau Cynnal Dysgu (Ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Cwmaman ac Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn ar gyfer plant oedran cyn-ysgol.
  • Sefydlu Dosbarth Cynnal Dysgu yn y cyfnod cynradd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol/ASA yn Ysgol Gynradd Hirwaun.
  • Sefydlu Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-11 ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gyfun Aberpennar.
  • Adleoli'r Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol/ASA o Ysgol Gynradd Pen-y-waun i Ysgol Gynradd Hirwaun er mwyn creu darpariaeth pob oed (dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6) ar un safle. Dim ond tri disgybl presennol fyddai'n symud yn rhan o'r newid yma.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal rhwng 30 Medi a 15 Tachwedd 2024. Cafodd cyfanswm o 25 o holiaduron eu cwblhau, yn ogystal â 3 llythyr/e-bost ac un ddeiseb. Aeth swyddogion i gyfarfodydd gyda 70 o gynrychiolwyr Cynghorau Ysgolion, a daeth 23 o rieni i sawl noson agored a gafodd eu cynnal i roi rhagor o wybodaeth.

Ar y cyfan, cafodd y cynigion i fuddsoddi yn yr arlwy Dosbarthiadau Cynnal Dysgu eu croesawu. Serch hynny, codwyd pryder ynghylch y cynnig i symud un ddarpariaeth o Ben-y-waun i Hirwaun, a nodwyd y byddai hyn yn tarfu ar y nifer fach o ddisgyblion a'u teuluoedd. Mae adroddiad Ymateb Llawn i'r Ymgynghoriad wedi'i gynnwys fel atodiad i adroddiad dydd Mercher i'r Cabinet.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Mae swyddogion wedi cynnal ymgynghoriad ar gynigion i fuddsoddi ymhellach yn ein harlwy Dosbarthiadau Cynnal Dysgu i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ein hysgolion prif ffrwd. Mae'r cynigion wedi cael eu cyflwyno yn rhan o'r broses o adolygu cyfaddasrwydd y ddarpariaeth yn barhaus – er bod ein 48 o ddosbarthiadau presennol yn cynnig cymorth ardderchog ac amrywiol i'n pobl ifainc, roedd diffyg mewn rhai meysydd ac rydyn ni'n cynnig mynd i'r afael â hyn.

“Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag angen yn y Blynyddoedd Cynnar a'r cyfnod uwchradd – wrth hefyd anelu at gynnig dull mwy cyson mewn rhai cymunedau er mwyn cyfyngu ar yr angen i ddisgyblion symud yn ddiangen o un safle i safle arall. Yn lle hynny, byddai symud i ddarpariaeth 'pob oed' yn lleihau tarfu ar ein pobl ifainc, ac yn darparu cymorth cyson a chyfarwydd ar draws cyfnodau gwahanol eu haddysg.

“Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad o blaid y cynigion i fuddsoddi yn y ddarpariaeth bresennol a chynyddu nifer y Dosbarthiadau Cynnal Dysgu o 48 i 52. Ar ôl ystyried yr holl adborth ac argymhellion a roddwyd ger bron Aelodau, penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen â'r cynigion a fydd yn galluogi swyddogion i gyhoeddi'r Hysbysiadau Statudol perthnasol.”

Wedi ei bostio ar 24/01/25