Skip to main content

RhCT yn Dathlu Cynnydd mewn Ailgylchu dros y Flwyddyn Newydd!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu ei ffigurau ailgylchu diweddaraf – ar ôl iddo gyrraedd dros 70% am DRI mis cyfan – cyn bwrw canran rhyfeddol o 80% dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd! 

Mae’r llwyddiant diweddaraf yn ddiolch i ymdrechion ailgylchu anhygoel trigolion oll y Fwrdeistref Sirol – a dorrodd pob record ailgylchu, gan olygu mai dyma'r Nadolig 'GWYRDDAF' ERIOED gan hefyd dorri record ailgylchu o 80% o’u holl wastraff yn ystod yr wythnos yn dechrau 30ain o Ragfyr!

Mae’r canlyniadau parhaus hyn yn amlygu bod safoni Biniau i Fagiau wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bydd yn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i osgoi dirwyon o tua £500,000 gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd y newidiadau hyn ac ymdrechion ychwanegol cyfunol ein cymuned.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: 

“Y Nadolig Gwyrddaf ERIOED! Torri record, am ffordd anhygoel i ddechrau'r Flwyddyn Newydd ac i 2025!

“Dyma gam rhyfeddol tuag at ddyfodol cynaliadwy, rwy’n falch o gyhoeddi bod y penderfyniad llwyddiannus i symud o gasgliadau biniau ar olwynion i gasgliadau gwastraff bagiau du yn ardaloedd Cwm Cynon a Thaf-elái  wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn ffigurau ailgylchu gwastraff bwyd gyda thros 100 tunnell ychwanegol o fwyd yn cael ei roi mewn cadis bwyd yn lle bagiau du. Mae dros 97% o’n cymuned wedi ei groesawu ac rydym ni bellach yn gweld llwyddiannau na fu rai tebyg erioed yn ein holl gyfraddau ailgylchu ar draws pob ardal.

“Yn ogystal â hyn, mae gwastraff bagiau du bron wedi haneru o 604 tunnell yn wythnos gyntaf Ionawr 2024 i 345 tunnell ym mis Ionawr 2025!

“Ar ran y Cyngor ac Aelodau o'r Cabinet hoffwn i ddiolch o galon i’n cymuned. DIOLCH i drigolion Rhondda Cynon Taf am eich cefnogaeth aruthrol.

“Rwy’n siŵr, gyda’n gilydd y gallwn barhau â’r ymdrech fawr a sicrhau ein bod yn dal i fwrw a rhagori ar unrhyw darged a osodwyd gan Lywodraeth Cymru!”

Mae criwiau’r Cyngor wedi gweithio’n galed dros yr ŵyl i gasglu’r holl ailgylchu ychwanegol, gyda thros 228,000 o gasgliadau yn digwydd dros bythefnos prysur y Nadolig, gan gynnwys 152,000 o gasgliadau bagiau du. Mae dros 4300 o goed Nadolig go iawn wedi’u casglu a’u hailgylchu’n llwyddiannus ac mae rhai hyd yn oed wedi’u troi’n sglodion pren i’w defnyddio mewn parciau lleol ar draws RhCT.

O gymharu â’r un cyfnod yn 2023, mae’r canlyniadau ar gyfer 2024 wedi bod yn anhygoel a byddan nhw'n siwr o fod yn well fyth yn 2025:

  • Mae miloedd o finiau ar olwynion wedi'u tynnu oddi ar lwybrau troed.
  • Mae dros 1500 o finiau ar olwynion wedi'u casglu'n barhaol o gartrefi diolch i'r cynllun dychwelyd biniau ar olwynion, ac mae 589 o finiau mawr (240L) wedi'u cyfnewid yn finiau llai (120L) at dibenion storio.
  • Gwastraff bagiau du wedi GOSTWNG 15.9%  
  • Ailgylchu cyffredinol wedi CYNYDDU 3.4% 
  • Mae ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu 10.9%.
  • Mae ailgylchu cewynnau wedi cynyddu 8.2%.

Dros y ddau fis diwethaf mae’r timau wedi bod yn brysur iawn, yn darparu gwasanaeth i bron 7,000 o drigolion sydd wedi gofyn am wasanaethau ailgylchu ychwanegol:

Yn eu plith, mae:

  • 4584 o gadis/biniau gwastraff bwyd

Ers safoni casgliadau gwastraff (Hydref i Ragfyr 2024), bu cynnydd o 17% mewn gwastraff bwyd a gostyngiad o 36% yn y gwastraff bagiau du a gasglwyd!

Mae gwasanaeth ailgylchu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn hawdd ac am ddim erbyn hyn. Mae ein gwasanaethau ailgylchu wythnosol a diderfyn yn golygu llai o wastraff ac arogleuon yn eich bagiau du, gan wneud ailgylchu yn rhan HAWDD o fywyd bob dydd.

Gellir casglu bagiau ailgylchu o gannoedd o leoliadau ar draws y Fwrdeistref Sirol, a gall trigolion ddod o hyd i'w man agosaf yma -  www.rctcbc.gov.uk/Bagiau

Mae modd i chi hefyd gofrestru ar-lein ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau - https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/RecyclingandWaste/Signup/RecyclinginRCTcouldntbeEasierareyousignedup.aspx.

Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu Cymunedol ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 8.30am - 4.30pm (Tachwedd i fis Mawrth) a 8.30am - 6.30pm (Mawrth-Hydref), dewch o hyd i'ch canolfan agosaf yn www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar X/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.  

Wedi ei bostio ar 27/01/2025