Mae cam dau ymgynghoriad y Cyngor ar ei Gyllideb ar gyfer 2025/26 bellach wedi dechrau. Bydd yn canolbwyntio ar Strategaeth ddrafft sydd wedi'i chynnig gan swyddogion, ac mae modd i drigolion ddweud eu dweud a chymryd rhan nawr mewn nifer o ffyrdd gwahanol.
Trafododd y Cabinet y Strategaeth ddrafft yn ei gyfarfod ar 22 Ionawr, a chytunodd Aelodau i gam nesaf yr ymgynghoriad cyhoeddus ganolbwyntio ar yr elfennau allweddol y mae'n eu cynnig. Mae'r Strategaeth yn ymateb i'r heriau ariannol parhaus ar draws Llywodraeth Leol, gyda bwlch cychwynnol o £35.7 miliwn yn y gyllideb yn cael ei fodelu ar gyfer y Cyngor y flwyddyn nesaf.
Cafodd y ffigur hwnnw ei addasu i £6.8 miliwn yn dilyn gwaith cynnar i nodi a chyflawni mesurau lleihau'r gyllideb (a gafodd eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Tachwedd 2024), setliad Llywodraeth Leol dros dro Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2024, a nifer o ofynion cyllideb sylfaenol wedi'u diweddaru. Rhagor o fanylion yma.
Mae elfennau allweddol o'r Strategaeth yn cynnig ariannu ein hysgolion yn llawn y flwyddyn nesaf gyda chynnydd cyffredinol o £14 miliwn (7%) yn y cyllid, £5.75 miliwn ychwanegol o fesurau lleihau'r gyllideb sy'n cynnwys arbedion effeithlonrwydd sydd newydd gael eu nodi, cynnydd safonol o 5% yn y Ffïoedd a Chostau, a chynnydd arfaethedig o 4.5% yn Nhreth y Cyngor. Mae'r cynnydd yma'n debygol eto o fod yn un o'r rhai isaf yng Nghymru.
Gall trigolion gael rhagor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 nawr, a hynny'n rhan o gam dau ymgynghoriad cyhoeddus eleni. Mae'r cam yma'n cael ei gynnal o ddydd Iau 23 Ionawr tan ddydd Gwener 7 Chwefror 2025.
Bydd modd cymryd rhan yn y broses ar wefan ymgysylltu Dewch i Siarad RhCT, a fydd yn cynnwys gwybodaeth allweddol, arolwg ac arolwg barn. Bydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn hyrwyddo'r ymgynghoriad ac yn annog trigolion i gymryd rhan ynddo. Bydd e-byst yn cael eu hanfon at randdeiliaid allweddol, a bydd swyddogion hefyd yn ymgysylltu â nifer o grwpiau demograffig allweddol, gan gynnwys pobl hŷn a'n pobl ifainc.
Mae opsiwn ymgynghori dros y ffôn ar gael trwy ganolfan gyswllt y Cyngor, ac mae modd anfon arolygon papur a gwybodaeth ar gais – gyda chyfeiriad Rhadbost ymgynghori ar gael ar gyfer ymatebion drwy'r post. Anfonwch y rhain i Rhadbost (RUGK-EZZL-ELBH), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Trydydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor ac Eiddo'r Cyngor: “Mae'r Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cyflwyno sefyllfa sy'n fwy cadarnhaol na'r disgwyl, diolch i gynnydd o 4.8% yn y cyllid a oedd yn rhan o setliad dros dro mis Rhagfyr. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i ddiogelu ein gwasanaethau allweddol, rydyn ni'n gwybod nad oes modd trawsnewid 14 mlynedd o gyfyngiadau cyllidebol yn hawdd. Er ein bod ni wedi cael ysbaid yn y tymor byr, mae rhagolwg y tymor canolig i'w weld yn heriol iawn o hyd.
“Mae nifer o agweddau cadarnhaol ar y Gyllideb arfaethedig – gan gynnwys £14 miliwn ychwanegol i ariannu ein hysgolion yn llawn y flwyddyn nesaf, ac ymdrech enfawr arall i nodi arbedion effeithlonrwydd gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar ein gwasanaethau – ar ben yr arbedion effeithlonrwydd gwerth £13 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn bresennol, a £16 miliwn y flwyddyn flaenorol. Mae swyddogion hefyd wedi cynnig dull synhwyrol o ran lefelau Treth y Cyngor a fyddai'n osgoi cynnydd ar raddfa fawr, a hynny wrth gynnig Ffïoedd a Chostau a fyddai'n parhau i fod yn gystadleuol o gymharu ag awdurdodau cyfagos.
“Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau cam dau ei ymgynghoriad blynyddol ar y Gyllideb, sy'n golygu bod modd i drigolion gael rhagor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y Strategaeth ddrafft. Cymerodd dros 700 o bobl ran yng ngham un, a gafodd ei gynnal yn yr hydref ac a ganolbwyntiodd ar arbedion effeithlonrwydd a blaenoriaethau buddsoddi. Roedd yr adborth yma wedi chwarae rôl allweddol o ran llywio ein strategaeth, a byddwn i unwaith eto'n annog trigolion sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar wefan ymgysylltu Dewch i Siarad RhCT cyn 7 Chwefror – i'n helpu ni i bennu Cyllideb derfynol, fantoledig yn gyfreithiol erbyn mis Mawrth 2025.
“Mae hefyd yn bwysig ychwanegu bod modd i'r bobl hynny sydd â mynediad cyfyngedig at y rhyngrwyd, neu sydd heb fynediad at y rhyngrwyd, gymryd rhan yn llawn – mae modd gwneud hynny dros y ffôn trwy ffonio Canolfan Gyswllt y Cyngor neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad Rhadbost sydd wedi'i ddarparu.”
Wedi ei bostio ar 24/01/25