Skip to main content

Cynllun i reoli dŵr sy'n llifo oddi ar fynydd sy'n creu llifogydd ar lwybr allweddol yn Aberpennar

A4059 Mountain Ash

Bydd cynllun Ffyrdd Cydnerth yn dechrau ar y rhan o’r A4059 ger Aberpennar, i leihau llifogydd yn y lleoliad allweddol yma. Gall y mwyafrif o waith gael ei wneud gan gynnal llif traffig dwy-ffordd.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyfraniad o 90% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun yma – gyda cham cyntaf y gwaith yn para tua thair wythnos, gan ddechrau o ddydd Mercher 15 Ionawr. Mae gweddill y cyllid yn dod trwy Raglen Cyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor ar gyfer 2024/2025.

Bydd cam un y cynllun yn gosod cwlfer newydd, ar y cyd â thyllau archwilio cysylltiedig. Bydd y cwlfer yn atgyfeirio dŵr glaw sydd wedi rhedeg oddi ar y mynydd yn uniongyrchol i'r pant sydd wrth ymyl y ffordd, sydd wedi gweithio'n effeithiol ar ôl ei osod yn rhan o gynllun buddsoddi blaenorol o fewn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y cynllun yn culhau lonydd er mwyn cynnal traffig dwy-ffordd ar yr A4059. Bydd angen goleuadau traffig er mwyn gwneud cynnydd diogel, a bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos er mwyn lleihau aflonyddwch yn sylweddol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Construction yn gontractwr i gyflawni'r cynllun ar y cyd â charfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf. Bydd y Cyngor a'i gontractwr yn gweithio'n agos i leihau aflonyddwch ar gyfer defnyddwyr y ffordd a'r gymuned.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf:"Mae'r Cyngor yn parhau â'i fuddsoddiad mawr mewn cynlluniau lliniaru llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol – gyda £4.48miliwn wedi'i sicrhau ar draws sawl rhaglen gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, sy'n cael ei ddefnyddio gydag arian cyfatebol pwysig gan y Cyngor. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau cyllid mawr i ddatblygu cynlluniau mwy ar gyfer Pentre, Teras Arfryn yn Nhylorstown, a Threorci – sydd i gyd yn cael eu datblygu.

"Roedd Storm Bert ym mis Tachwedd yn ein hatgoffa ni unwaith eto o bwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn gwaith lliniaru llifogydd. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da iawn o ran gwella asedau i amddiffyn ein cymunedau ers Storm Dennis yn 2020, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r cynlluniau lleol yma wedi bod yn effeithiol iawn yn y storm ddiweddar. Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod bod llawer o asedau eraill y mae angen eu gwella ar draws Rhondda Cynon Taf o hyd – a byddwn ni'n parhau i ddarparu cyllid y Cyngor ac yn ceisio cyllid allanol i barhau â'n buddsoddi.

"Nod y gwaith sydd ar y gweill ar yr A4059 yn Aberpennar yw ymdrin yn well â dŵr sy'n rhedeg oddi ar y mynydd a chroesi'r briffordd yn ystod glaw trwm. Bydd y cynllun Ffyrdd Cydnerth yn gosod cwlfer newydd i gludo dŵr glaw i'r ffos ddraenio sefydledig ac i ochr y ffordd. Bydd modd cynnal traffig i'r ddau gyfeiriad wrth wneud y rhan fwyaf o'r gwaith. Dim ond yn ystod y nos y bydd angen rheoli traffig. Diolch i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned am eich cydweithrediad.”

Wedi ei bostio ar 14/01/25