Skip to main content

Ail gam gwaith i atgyweirio wal derfyn Parc Aberdâr

Aberdare Park wall grid - Copy

Bydd yr ail gam o waith i atgyweirio difrod i wal derfyn Parc Aberdâr yn dechrau yr wythnos yma, a bydd angen cau llwybr troed lleol. 

Cwympodd rhan o'r strwythur gyferbyn â Theras Broniestyn yn ardal Trecynon yn dilyn Storm Bert ym mis Tachwedd 2024, a chafodd cam cychwynnol o waith i'w hailadeiladu ei gwblhau cyn y Nadolig.

Bydd contractwr y Cyngor, Hammonds Ltd, yn dychwelyd i'r safle yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 6 Ionawr er mwyn atgyweirio nifer o rannau cyfagos llai o'r wal.

Bydd lleoliad y gwaith gyferbyn ag Ysgol Gynradd Parc Aberdâr, ychydig i'r gogledd o'r rhan a gafodd ei hailadeiladu yn ystod cam un.

Bydd angen cau rhan 60 metr o'r llwybr troed ar hyd y B4275 er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r gweithlu.

Dylai cerddwyr ddefnyddio'r llwybr troed ar ochr arall y ffordd. Mae'n debygol y bydd y trefniadau yma'n parhau i fod ar waith tan ddechrau mis Chwefror 2025.

Bydd traffig o'r ddau gyfeiriad yn parhau ar y brif ffordd, ond bydd y lôn tua'r gogledd yn fwy cul ger lleoliad y gwaith.

Mae'r lluniau'n dangos gwaith cam un ar y safle (ar y chwith) a'r gwaith yma wedi'i gwblhau cyn y Nadolig (ar y dde).

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad parhaus.

Wedi ei bostio ar 07/01/25