Nodwch - bydd Stryd Henry, Aberpennar, ar gau ddydd Sul er mwyn cyflawni gwaith sydd wedi'i gynllunio. Bydd angen cau Maes Parcio Gogledd Stryd Henry hefyd, a bydd traffig yn teithio i'r ddau gyfeiriad ar hyd Stryd Rhydychen dros dro.
Bydd y gwaith yma gan y Grid Cenedlaethol yn gosod cyflenwad trydan ar gyfer offer gwefru cerbydau trydan newydd ym maes parcio’r orsaf drenau ar ran Trafnidiaeth Cymru. Bydd yn mynd rhagddo rhwng 8am ac 8pm ddydd Sul, 12 Ionawr.
Fydd dim modd i ddefnyddwyr y ffordd gael mynediad i Stryd Henry o'i chyffordd â Stryd Rhydychen. Bydd Maes Parcio Gogledd Stryd Henry hefyd yn cau i’r cyhoedd er mwyn helpu i hwyluso’r gwaith o gysylltu'r offer gwefru cerbydau trydan ym maes parcio’r orsaf – ond bydd Maes Parcio De Stryd Henry yn parhau ar agor.
Fydd hyn ddim yn effeithio ar fynediad i gerddwyr i Orsaf Drenau Aberpennar.
Bydd llwybr amgen i fodurwyr drwy Stryd Rhydychen, Heol Meisgyn a Stryd Henry. Mae map o'r rhan a fydd ar gau a'r llwybr amgen wedi'u cynnwys yma.
Mae Stryd Rhydychen fel arfer yn stryd unffordd – ond bydd traffig yn teithio i'r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith, o dan oleuadau traffig dros dro. Bydd angen cau tri man parcio yn Stryd Rhydychen dros dro i hwyluso'r trefniadau yma.
Bydd y safle bws y tu allan i’r orsaf drenau yn Stryd Henry hefyd yn cau dros dro, a bydd modd i deithwyr ddefnyddio’r safle bws agosaf nesaf yn Stryd Rhydychen (ger Greggs). Fel arall, mae modd i deithwyr ddefnyddio safle bws Nixon ar Heol Meisgyn.
Bydd modd i yrwyr sy'n dod o ochr ogleddol Stryd Rhydychen hefyd ddargyfeirio ar hyd Pont Canol y Dref, yr A4059 Heol Newydd, Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Heol Meisgyn a Stryd Henry.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 08/01/2025