Wrth i'r tywydd ddechrau oeri, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'i bartneriaid allweddol yn y gymuned unwaith yn rhagor i ddarparu gwasanaethau cymorth i'n holl drigolion gyda'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf a rhagor.
Mae ailagor y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn adeiladu ar lwyddiant y cyfleusterau yma sydd wedi bod yn helpu cymunedau lleol Rhondda Cynon Taf dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod yma, mae dros 8,800 o drigolion wedi cael cymorth, gan gynnwys plant, ac mae diodydd a bwyd cynnes wedi'u darparu i dros 7,361 o unigolion yn ystod y misoedd oeraf.
Bydd y canolfannau yn darparu lleoliad diogel i gadw'n gynnes, cael byrbryd, paned gynnes a sgwrs.
Bydd pecynnau cadw'n gynnes ar gael a byddan nhw'n cynnwys eitemau a all helpu pobl i gadw'n gynnes a/neu ddefnyddio llai o ynni. Byddan nhw'n cynnwys eitemau megis blanced/carthen, potel dŵr poeth, mwg thermol, gŵn tŷ, sliperi/sanau cynnes, menig, cardigan, sgarff, llenni thermol a rhagor.
Mae'r canolfannau croeso ond yn gallu cael eu gweithredu diolch i'r cannoedd o wirfoddolwyr ymroddedig sy'n dod aton ni er mwyn helpu'r rheiny mewn angen drwy gyfnod y gaeaf oer.
Os ydych chi'n teimlo'n oer ac angen lle diogel i aros yn gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs, neu wefru eich ffôn symudol, derbyn cyngor am ddim yn ymwneud ag ynni a hyd yn oed cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim - bydd y canolfannau yma'n cynnig cymorth hynod bwysig i chi.
Bydd pob llyfrgell yn gweithredu yn Ganolfan Croeso yn y Gaeaf a bydd modd i drigolion fynd yno am groeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eu dyfeisiau symudol.
Mae'r llyfrgelloedd hefyd yn gartref i’r cynllun Mannau Diogel, sy’n gweithredu drwy’r flwyddyn. Mae'r cynllun Mannau Diogel, sef cynllun cenedlaethol, sy’n cael ei hwyluso gan y Cyngor a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf, yn sefydlu lleoliadau sy’n cynnig cymorth i rywun os ydyn nhw'n dod ar draws problem neu anawsterau pan fyddan nhw allan yn y gymuned, gyda chymorth gan staff hyfforddedig. Mae'r cynllun lleol yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gefnogi gan Heddlu De Cymru ac mae bellach ar gael i bob oedolyn sy'n teimlo eu bod angen lle diogel i fynd iddo.
Mae modd i bobl neu deuluoedd sy'n teimlo y bydden nhw'n manteisio ar y cynllun Mannau Diogel wneud cais am ffurflen gais. Mae'r rhain ar gael drwy e-bostio Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, enquiries@rctpeoplefirst.org.uk, neu drwy ffonio 01443 757954.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi yn ystod cyfnod y gaeaf. Ers mis Ebrill 2022, mae'r Cyngor wedi talu miliynau i drigolion yn rhan o Gynlluniau Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu cymorth yn amrywio o daliadau uniongyrchol i filoedd o deuluoedd, i ddarparu cymorth ariannol i fanciau bwyd lleol i’w helpu i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol.
“Rwy’n falch o gyhoeddi bod modd i ni gefnogi ein banciau bwyd lleol a sefydliadau cymunedol sy’n ein helpu i gefnogi ein trigolion.”
Mae modd i drigolion sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gysylltu â'r Cyngor ar unrhyw adeg drwy'r Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned drwy gwblhau 'ffurflen gais am gymorth' ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/CostauByw. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan Staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned, Partneriaid Trydydd Sector a Phartneriaid Cymunedol.
Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf dderbyn cyngor yn ymwneud â'r gwasanaethau sydd ar gael hefyd drwy Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:
- Cymorth Grant neu Fenthyciad - efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
- RCT Switch - Cyngor diduedd am ddim ynglŷn â newid tariff.
- Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref.
- Cyngor ynghylch dyled cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr).
- Cyngor ynghylch gwneud y mwyaf o'ch incwm a rheoli arian. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwresogiacArbed neu e-bostiwch y Garfan: GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk.
Am fanylion llawn a lleoliadau'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauCroesoynyGaeaf ac am gyngor cyffredinol ar y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.
Wedi ei bostio ar 03/01/25