Bydd y Cyngor yn dechrau gwaith yn fuan i ailddatblygu ardal o dir diffaith ar Stryd Hannah yn ardal Porth. Bydd hyn yn cynnwys dod â'r tir yn ôl i ddefnydd drwy ddarparu cilfachau parcio ychwanegol ar gyfer canol y dref, darn o dir gwyrdd ac ardal eistedd ar gyfer y cyhoedd.
Cyhoeddodd y Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 ei fod yn datblygu cynllun ar gyfer yr ardal o dir lle'r arferai Rhif 37 Stryd Hannah fod. Roedd yr hen adeilad, gyferbyn â'r Neuadd Bingo, yn eiddo pen teras oedd wedi'i ddinistrio gan dân flynyddoedd yn ôl. Ers hynny, mae'r ardal wedi'i defnyddio ar gyfer tipio anghyfreithlon a pharcio anffurfiol. Caiff e ystyried yn hyll yr olwg yn gyffredinol.
Wedi sicrhau cyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor wedi caffael y tir er mwyn ei ddatblygu. Bydd y cynllun yn darparu pedair cilfach parcio arhosiad byr - fydd o dan yr un cyfyngiadau parcio â Maes Parcio Stryd Hannah gerllaw, gan wasanaethu canol y dref.
Bydd lleiniau gwair ychwanegol yn cael eu creu, ynghyd â mannau wedi'u tirlunio a mannau eistedd ar gyfer trigolion lleol, siopwyr ac ymwelwyr canol y dref. Cwblhaodd y Cyngor ymgynghoriad statudol dros 21 diwrnod ym mis Gorffennaf a mis Awst 2024.
Mae modd i'r Cyngor gadarnhau nawr y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Llun, 3 Chwefror, ac yn cael eu cwblhau ym mis Mawrth 2025.
Ar y cyfan, does dim disgwyl i'r gwaith adeiladu darfu ar ganol y dref. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn ffiniau'r safle ar y cyfan. Bydd rhaid cau rhannau bach o'r llwybr troed yn ystod y gwaith, ond bydd dargyfeiriadau byr ac addas yn cael eu cynnal gydag arwyddion ar gyfer cerddwyr.
Bydd rhaid cau'r ffordd hefyd ar ran o Stryd Hannah a Stryd Taf y Gorllewin am un diwrnod, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dydd Sul, 9 Chwefror. Bydd y Cyngor yn cadarnhau'r holl fanylion, gan gynnwys trefniadau rheoli traffig maes o law.
Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gyflawni'r gwaith ar y safle. Bydd trigolion sy'n byw ger y safle gwaith, yn ogystal â busnesau fydd yn cael eu heffeithio yn derbyn llythyr yn rhoi gwybod am y gwiath yma. Mae'r cam adeiladu wedi'i hariannu yn defnyddio cyfraniad gwerth 70% gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o'r grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Rwy'n falch y bydd gwaith cynllun ailddatblygu wrth galon Canol Tref Porth yn dechrau ar 3 Chwefror. Bydd yn dod â darn o dir nad yw'n cael ei ddefnyddio yn ôl i ddefnydd wedi sawl blwyddyn o ddiffeithwch, gan ddarparu cilfachau parcio arhosiad byr sy'n amhrisiadwy ar gyfer canol y dref. Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu mewn modd cadarnhaol at olwg y stryd - trwy wared ag ardal ddiffaith sydd wedi wynebu tipio anghyfreithlon, gan osod darn o dir gwyrdd a lleoedd eistedd.
"Dros y blynyddoedd diweddar, rydyn ni wedi bwrw ymlaen â Strategaeth Adfywio Porth er mwyn darparu sawl prosiect ailddatblygu a mentrau i wella'r dref. Mae'r rhain yn cynnwys trosi Plasa Porth yn Hwb Cymunedol, ehangu'r ddarpariaeth Parcio a Theithio, gwella'r parthau cyhoeddus, creu mannau di-wifr cyhoeddus am ddim a darparu gwelliannau blaen siopau yn rhan o'r Grant Cynnal a Chadw Canol Trefi. Mae cynllun blaenllaw'r dref, Hwb Trafnidiaeth Porth wedi'i drosglwyddo i Drafnidiaeth Cymru yn ddiweddar er mwyn bwrw ymlaen â'i weithrediad parhaus.
"Mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru drwy gydol camau cynllunio a chynnal y gwaith ar safle Rhif 37 Stryd Hannah. Roedd swyddogion wedi sicrhau cyllid Trawsnewid Trefi er mwyn caffael y safle yn 2022, tra bod grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi wedi'i gadarnhau er mwyn cyflawni'r cam adeiladu.
"Hoffen i ddiolch i'r trigolion ac ymwelwyr Canol Tref Porth, ynghyd â masnachwyr lleol am eu cydweithrediad wrth i'r cynllun gael ei ddarparu dros yr wythnosau nesaf. Dim ond llwybrau troed fydd yn wynebu ychydig o darfu, ynghyd â chau'r ffordd am un dydd Sul, gyda'r union fanylion yma yn cael eu cwblhau nawr. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo er mwyn adfywio'r darn yma o dir, er budd canol y dref."
Wedi ei bostio ar 21/01/2025