Skip to main content

Gwaith i fynd i'r afael â'r llifogydd sy'n broblem hysbys ar lwybr teithio Dinas

Cymmer Road grid web

Bydd y Cyngor yn dechrau gwaith yn rhan o gynllun Ffyrdd Cydnerth ar yr A4058, Dinas. Bwriad y gwaith yma fydd lleihau'r perygl o lifogydd o ganlyniad i ddŵr wyneb yn ystod cyfnodau o law trwm. Bydd y gwaith yn cynyddu gallu'r ffordd i ddraenio, ryng-gipio a symud dŵr glaw i ffwrdd o'r ffordd, gan leihau'r perygl o lifogydd i'r gymuned leol.

Bydd y gwaith, a fydd yn mynd rhagddo o'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 3 Chwefror, yn mynd i'r afael â'r llifogydd dŵr wyneb sy'n broblem hysbys ar ddarn y ffordd A4058 lle mae Heol y Cymer yn cwrdd â Heol y Goeden Afalau. Ers 2012, mae achosion o lifogydd wedi cael effaith ar 11 eiddo. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 90% o gyfanswm y gost ddiolch i'r grant Ffyrdd Cydnerth. Bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Bydd gwaith y cynllun yma'n ychwanegu gylïau ar hyd yr A4058 ac yn dargyfeirio system draenio'r briffordd trwy sianeli newydd, i lawr Heol y Goeden Afalau lle byddai'n cysylltu â sianel sy'n gollwng i'r Afon Rhondda.

Yn ogystal â hyn, bydd y gwaith yma'n lleihau'r perygl o lifogydd i'r garthffos gyfunol Dŵr Cymru sy'n gyfagos, trwy dadgysylltu system draenio'r briffordd ar hyd yr A4058.  Bydd gwneud hynny'n cynyddu gwydnwch y rhwydwaith garthffos yn yr ardal leol.

Cafodd arolygiadau a gwaith ymchwilio ei gynnal yn 2023/24 er mwyn llywio'r cynllun. Carfan Gofal y Strydoedd fydd yn cynnal y gwaith.

Does dim angen cau unrhyw ffordd ar gyfer hwyluso gwaith y cynllun yma. Pan fydd angen defnyddio system goleuadau traffig i gynnal y gwaith, byddai'r gwaith yn mynd rhagddo tu allan i oriau prysuraf y dydd. Bydd mynediad i'r ystad tai cyfagos yn cael ei gynnal yn ystod yr holl waith.

Yn ychwanegol at waith y cynllun, bydd gwaith ymchwil yn cael ei gynnal i'r cwlfer a'r rhwydweithiau draenio ar ran o'r A4058 sy'n agos i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas a Chlos Maes yr Onnen. Nod y gwaith ymchwil yma bydd darganfod beth sy'n achosi'r llifogydd yn y lleoliadau yma. Bydd cyllid grant Ffyrdd Cydnerth gwahanol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith yma.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : "Nod y cynllun Ffyrdd Cydnerth yn Ninas yw mynd i'r afael â'r broblem llifogydd ar ran o'r brif ffordd rhwng Porth a Tonypandy, yn Heol y Goeden Afalau a'r cyffiniau. Pan fydd y lleoliad yma'n dioddef o lifogydd, mae'n tarfu ar y gallu i deithio ar y ffordd, yn effeithio ar ddau wasanaeth bws, ac yn peri risg o lifogydd i gartrefi ac eiddo masnachol. Digwyddodd y llifogydd diweddaraf pan gafodd twll archwilio Dŵr Cymru ei orlwytho, ynghyd â dŵr wyneb yn rhaeadru i lawr ochr y mynydd.

"Ym mis Tachwedd, tarodd Storm Bert y Fwrdeistref Sirol. Yn dilyn y storm, dyma atgof arall am bwysigrwydd parhau â'n buddsoddiad mewn mesurau atal llifogydd. Lle rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn mesurau o'r fath dros y blynyddoedd diwethaf, fe brofodd y mwyafrif helaeth o'n cynlluniau'n effeithiol. Serch hynny, dangosodd y storm diweddar fod llawer o asedau eraill sydd angen eu huwchraddio o hyd.

"Eleni, mae'r Cyngor wedi sicrhau gwerth £4.48m ar draws rhaglenni Llywodraeth Cymru ar gyfer atal llifogydd, gyda'r buddsoddiad yn gwneud defnydd o gyllid cyfatebol y Cyngor. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau cyllid i ddatblygu cynlluniau cymunedol ym Mhentre, Treorci a Theras Arfryn, Tylorstown. Roedd rownd ddiweddaraf o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys £500,000 gan  Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae cynllun Dinas yn dilyn gwaith tebyg sydd wedi dechrau ar yr A4059 yn Aberpennar - y prif lwybr trwy Gwm Cynon - i fynd i'r afael â dŵr sy'n rhedeg oddi ar ochr y mynydd ac ar draws y ffordd.

"Mae cynllun yr A4058 ger Heol y Goeden Afalau yn dechrau ar Chwefror 3, a bydd yn cynnwys gwaith pwysig i osod draen cludwr i gynyddu capasiti'r rhwydwaith, a dargyfeirio llif dŵr yn well. Bydd traffig yn symud yn y ddau gyfeiriad yn ystod cyfnodau mwyaf prysur yr A4058. Fydd dim angen cau'r ffyrdd o gwbl ac yn ystod y cyfnodau pan fydd angen defnyddio system goleuadau traffig, byddai'r gwaith yn mynd rhagddo tu allan i oriau prysuraf er mwyn lleihau'r aflonyddwch. Diolch i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned am eich cydweithrediad.”

Wedi ei bostio ar 23/01/25