Skip to main content

Mae un o gynlluniau'r Cyngor, sydd wedi newid bywydau pobl ifainc, wedi ennill gwobr

Jack

Mae cynllun gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n helpu pobl ifainc ag Anghenion Addysgol Arbennig i ffynnu mewn interniaethau â chymorth mewn ystod o amgylcheddau gwaith, wedi ennill gwobr yn ddiweddar. 

Mae trigolion megis Jack Pensom, sy'n 24 oed ac yn byw ym mhentref Maerdy, yn mwynhau cael blas ar fyd gwaith yng Nghanolfan Chwaraeon Rhondda Fach drwy Interniaeth â Chymorth y Porth i Gyflogaeth. 

Ymunodd Jack â'r cynllun Porth i Gyflogaeth, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, am ei fod angen cymorth ychwanegol i symud o fyd addysg i gyflogaeth. 

Yn dilyn sgwrs gyda Jack a'i deulu am ei ddiddordebau o ran ei yrfa, ymunodd â Chanolfan Chwaraeon Rhondda Fach y Cyngor, gan weithio gyda chymorth Hyfforddwr Swyddi, cydlynydd cynllun a rheolwr/mentor wedi'i hyfforddi'n arbennig. 

Ar ôl cwblhau ei interniaeth drwy'r Porth i Gyflogaeth, gwnaeth Jack gais llwyddiannus am Brentisiaeth â thâl am ddwy flynedd, ac mae'n parhau i feithrin ei hyder, ei sgiliau a'i yrfa yn y ganolfan. Mae'n gydweithiwr poblogaidd ac yn cyfrannu at y garfan mewn modd unigryw. 

Gwyliwch y fideo i glywed gan Jack a'i fentor! 

Fe wnaeth straeon llwyddiant megis hanes Jack argraff dda ar y beirniaid yng Ngwobrau Cenedlaethol Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2025, a ganmolodd yr effaith gadarnhaol y mae'r Porth i Gyflogaeth yn ei chael ar fywydau, gan ddarparu profiad gwaith hanfodol, sgiliau a hyder wrth feithrin cynhwysiant yn y gweithle. 

Enillodd ein Carfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf y Wobr Cymorth i Gyflogaeth, a thynnodd y beirniaid sylw at y cynllun fel enghraifft o'r ffordd orau o gefnogi pobl ifainc sy'n agored i niwed wrth iddyn nhw symud o fyd addysg i gyflogaeth.

 Hyd yma, mae tua 34 o bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sydd ag anhawster dysgu a/neu Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistaidd wedi cael eu cefnogi gan y Porth i Gyflogaeth ers ei lansio yn 2019 - mae 11 ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth. 

Mae disgyblion yn eu blwyddyn olaf o fyd addysg yn cael eu nodi ar gyfer y cynllun, a gyflwynir gyda chefnogaeth ystod o wasanaethau'r Cyngor, megis y Gwasanaethau Llyfrgell, Ysgolion, Gwasanaethau Arlwyo, Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau i Blant, parciau a chefn gwlad, canolfannau hamdden a mwy.

 Caiff eu hinterniaethau eu datblygu gyda'r bobl ifanc a'u rieni/gwarcheidwaid a'r lleoliadau, yn seiliedig ar eu sgiliau a'u diddordebau. 

Mae pob person ifanc yn cael ei gefnogi gan hyfforddwr swyddi ymroddedig a chydlynydd y cynllun, ac yn cael ei reoli a'i fentora gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, gan eu helpu i sicrhau profiad gwaith a meithrin sgiliau a hyder. 

 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo, drwy garfanau megis Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant, i ddarparu gwaith a chyfleoedd hyfforddi effeithiol ac ystyrlon i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol.

 "Mae'r Porth i Gyflogaeth wedi bod yn helpu pobl ifainc ag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd yn eu cyfnod pontio o fyd addysg i gyflogaeth ers 2019 ac mae hyn nid yn unig wedi'u helpu nhw, ond wedi ein helpu ni hefyd. 

"Mae rheolwyr a chydweithwyr yr interniaid wedi cael cymaint o'r cynllun â'r interniaid eu hunain, gan weithio mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae gan bawb gymaint i'w roi a'i ddysgu. Caiff ystrydebau eu herio a chaiff gweithleoedd eu cyfoethogi â safbwyntiau a sgiliau amrywiol. 

"Mae'r wobr yma yn dangos ymroddiad a gwaith caled ein carfan, deiliaid yr interniaethau, a'n partneriaid.  Rydyn ni'n hynod falch o'r effaith gadarnhaol y mae'r fenter yma wedi'i chael ar ein cymuned, gan rymuso pobl ifainc a chreu cyfleoedd newydd iddyn nhw ffynnu. Diolch i Wobrau Cenedlaethol Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd am y gydnabyddiaeth yma!"

 

Meddai Richard Daniel Curtis, Cadeirydd Gwobrau Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd: "Mae'r gwaith partneriaeth sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn enghraifft o sut y mae modd i gyflogwyr ddarparu gwasanaeth gwirioneddol gynhwysol i bobl ifainc yn ystod adeg fregus yn eu cyfnod pontio o fyd addysg i gyflogaeth. 

"Cafodd y beirniaid eu siomi ar yr ochr orau gyda'r dull sydd â dylanwad sylweddol ar yr oedolion ifainc sy'n manteisio arno."

it." 

Wedi ei bostio ar 30/07/2025