Wedi iddi agor ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi 2024, ymwelodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, ag Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ym mhentref Beddau ddydd Iau 17 Gorffennaf i agor uned newydd y Cylch Meithrin a’r dosbarth Derbyn yn ffurfiol. Nod y cyfleusterau newydd yw cefnogi datblygiad disgyblion wrth iddyn nhw bontio i’r ysgol unwaith y byddan nhw'n cyrraedd oedran ysgol statudol.
Roedd cynrychiolwyr o'r Cyngor, Llywodraeth Cymru, y contractwyr GKR Maintenance, Mudiad Meithrin a'r corff llywodraethu yno i glywed gan y staff a gweld sut mae'r cyfleusterau newydd o fudd iddyn nhw a disgyblion ieuengaf yr ysgol.
Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu estyniad unllawr newydd yn ogystal ag adnewyddu dwy ystafell ddosbarth, a hynny i greu uned fodern sy'n addas i'r diben ar gyfer y Cylch Meithrin a’r dosbarth Derbyn. Mae'r estyniad yn ategu'r ardaloedd awyr agored sydd yno eisoes lle mae offer chwarae newydd sbon wedi'i osod.
Mae'r prosiect wedi galluogi Cylch Meithrin Beddau, sydd wedi'i hen sefydlu, i symud i ystafell ddosbarth feithrin flaenorol yr ysgol i gynnal cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg amser llawn yn ystod y boreau, gyda gwasanaeth gofal plant cofleidiol bob prynhawn. Nod symud y gwasanaethau i un lleoliad sydd â mwy o le yw cefnogi'r disgyblion wrth iddyn nhw bontio i'r ysgol gynradd a chynyddu'r niferoedd sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae'r ddwy elfen o'r cynllun yma – yr uned newydd ar gyfer y Cylch Meithrin a’r dosbarth Derbyn a'r man gofal plant newydd – wedi bod yn bosibl diolch i fuddsoddiad sylweddol gwerth £1.2 miliwn drwy Grant Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru.
Mae darparu addysg a chyfleusterau o safon i'n dysgwyr Cymraeg ieuengaf yn rhan bwysig o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)y Cyngor o ran hyrwyddo a chefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Mae darparu'r gwasanaethau yma i'r dysgwyr Cymraeg ieuengaf yn hanfodol wrth eu paratoi ar gyfer eu haddysg cyfrwng Cymraeg hirdymor.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr Cymraeg yn mwynhau’r cyfleusterau newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau. Mae'r buddsoddiad yma gyda Llywodraeth Cymru wedi galluogi Cylch Meithrin Beddau i ehangu eu darpariaeth bresennol i fod yn llawn amser, ac mae'n llwyddiannus dros ben hyd yma. Mae'r amgylchedd dysgu yn cynnwys cyfleusterau'r 21ain Ganrif, gan fodloni safon uchel ein Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – yn ogystal â'n hystod o brosiectau ar y cyd ar draws rhaglenni buddsoddi Llywodraeth Cymru, sy'n parhau ledled y Fwrdeistref Sirol.
“Mae creu lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg ychwanegol, gan gynnwys cynyddu mynediad at Gylch Meithrin lleol a chreu rhagor o leoedd mewn dosbarthiadau meithrin cyfrwng Cymraeg, yn flaenoriaethau allweddol yn ein CSCA 10 mlynedd. Mae'r buddsoddiad diweddaraf yma ar gyfer cymuned Beddau, a darparu'r gwasanaethau yma i'n dysgwyr Cymraeg ieuengaf, yn hanfodol i'w paratoi orau ar gyfer eu haddysg Gymraeg hirdymor.”
Wedi ei bostio ar 30/07/2025