Skip to main content

Gwaith cynnal a chadw ar hen safle glofaol yng Nghwm-bach

Cwmbach tip grid - Copy

Efallai y bydd trigolion Cwm-bach yn sylwi ar weithgarwch ar hen safle pwll glo lleol yr wythnos nesaf, wrth i'r Cyngor wneud gwaith cynnal a chadw arferol.

Bydd y gwaith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn digwydd ar y safle a elwir yn 'Tunnel Tip Aberdâr' – i'r dwyrain o Rodfa Cenarth a Heol Llan-gors.

Bydd y cynllun yn mynd rhagddo o ddydd Llun, 4 Awst, a disgwylir iddo bara oddeutu wythnos i gyd.

Bydd y gweithgarwch ar y safle'n cynnwys clirio llystyfiant lleol o amgylch sianeli draenio ac asedau tipio. Bydd ardaloedd eraill o lystyfiant hefyd yn cael eu torri'n ôl fel bod modd cynnal archwiliadau arferol yn y dyfodol a monitro'r domen yn haws.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, gyda swyddogion yn cyrraedd y safle ar droed o bwyntiau mynediad yn Rhodfa Cenarth a Rhodfa Conwy.

Mae disgwyl y bydd ychydig iawn o aflonyddwch cyffredinol i'r gymuned, bydd hyn yn digwydd yn bennaf tra bod offer llaw mecanyddol yn cael eu defnyddio.

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu drwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, ac mae £11.49 miliwn wedi'i ddyrannu ohono i fonitro, cynnal a chadw tomenni glo ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2025/26.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 31/07/2025