Skip to main content

"Eisteddfod Orau Erioed"

eisteddfod

Ychydig dros chwe mis ers i Rondda Cynon Taf gynnal yr “Eisteddfod Orau Erioed” ac mae buddion uniongyrchol yr ŵyl ddiwylliannol a’i hetifeddiaeth hirdymor wedi’u manylu isod.

Mae cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, rhagor obobl yn ymweld ag atyniadau, cyfleoedd unigryw i filoedd o drigolion, rhagor o ymgysylltu â'r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a newid canfyddiadau o ran yr hyn sydd gan Rondda Cynon Taf i'w gynnig ymhlith prif benawdau adroddiad Effaith ac Etifeddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a gyflwynwyd i'r Cabinet.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Coffa Ynysangharad rhwng 3 a 10 Awst y llynedd, gan ddod â phobl ynghyd o Gymru a’r DU yn ogystal â llefydd ledled y byd, gan gynnwys yr Ariannin, Norwy, yr Almaen ac UDA.

Ystyriwyd yr Eisteddfod drefol fel y cyntaf o’i math, gyda’r parc yn cael ei drawsnewid yn brif Faes wedi’i amgylchynu gan siopau, llefydd i fwyta ac yfed ac atyniadau diwylliannol hanesyddol Pontypridd.

Roedd cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a chynigion unigryw mewn atyniadau lleol yn annog ymwelwyr i grwydro’r fwrdeistref sirol gyfan, gan fwynhau amrywiaeth o bethau i’w gweld a’u gwneud, lleoedd i gymdeithasu a thirweddau syfrdanol.

Yn y cyfamser roedd gwaith partneriaeth arloesol a defnydd o arian grant wedi galluogi miloedd o drigolion o bob oed i brofi gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop, boed nhw'n ymwelwyr, yn berfformwyr neu’n wirfoddolwyr.

Mae’r adroddiad pwysig yn amlinellu:

  • 182,012 o ymwelwyr yng nghanol tref Pontypridd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod – 115,554 yn fwy na’r un wythnos y flwyddyn flaenorol.
  • Llwyddiant cymunedau Rhondda Cynon Taf, gan helpu i godi £332,000 i'r Eisteddfod.
  • 13,507 o docynnau mynediad AM DDIM wedi'u darparu i deuluoedd Rhondda Cynon Taf.
  • 503 o bobl yn cael cyfle i wirfoddoli ar y Maes a pharhau â’u gwaith yn y gymuned ar ôl hynny.
  • 250 o bobl ifainc sy'n ymwneud â Gwasanaeth Cerdd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn perfformio yn yr Eisteddfod – y mwyafrif ohonyn nhw'n mynychu ysgolion Saesneg.
  • 5,500 o bobl yn nofio ar y Maes am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol diolch i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
  • Anogwyd ymwelwyr i archwilio popeth oedd gan RhCT i'w gynnig, gyda mynediad gostyngol i atyniadau i ddeiliaid tocynnau Eisteddfod. Cynyddodd nifer yr ymwelwyr â Thaith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda gan 46% yn ystod wythnos yr Eisteddfod, o’i chymharu â’r un wythnos y flwyddyn flaenorol. Roedd gan bron i 70% o'r holl ymwelwyr yn ystod 3-10 Awst docynnau Eisteddfod.
  • Cafodd bron i 43,000 o ymwelwyr yr Eisteddfod eu cludo i’r Maes ac oddi yno yn ddiogel ac yn effeithiol diolch i wasanaeth Parcio a Theithio pwrpasol a sefydlwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
  • Arhosodd 2,365 o bobl ar brif faes gwersylla a charafanau’r Eisteddfod ac arhosodd 1,900 o bobl ifainc ar faes gwersylla Maes B, gan fwynhau cerddoriaeth fyw ac adloniant.
  • Cafodd dau o blith tri prif dlws yn yr Eisteddfod eu hennill gan drigolion Rhondda Cynon Taf. Enillodd Gwynfor Dafydd o Donyrefail y Goron ac enillodd Eurgain Haf, sy'n byw ym Mhontypridd, y Fedal Ryddiaith.
  • Roedd enillwyr eraill yr Eisteddfodau lleol yn cynnwys: Nathan James Deardon (Tonyrefail): Tlws y Cyfansoddwr, Rachel Stephens (Treherbert): Unawd o Sioe Gerdd Gymraeg, Côr Merched Cwm Rhondda (Treorci): Côr SAA, Côr Dysgwyr y Cymoedd (Pontypridd): Côr Dysgwyr, Ysgol Llanhari: Dawnsio Gwerin a Dimensions Performance Academy (Pontypridd) a enillodd ddwy gystadleuaeth ddawns.
  • Cyfrannodd pobl o bob oed at furlun oedd yn seiliedig ar waith celf gan yr artist lleol, Sion Tomos Owen. Gwahoddwyd ymwelwyr â Phentref RhCT yng Nghanolfan Calon Taf i liwio rhan o’r murlun, sydd bellach yn cael ei arddangos mewn llyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref sirol.
  • Bydd busnesau a ddangosodd eu cefnogaeth i’r Eisteddfod gan ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, arddangos y fwrdeistref sirol a chynnig croeso cynnes i westeion, yn cael eu canmol mewn seremoni wobrwyo.

  

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:  “Roedd cynnal yr Eisteddfod ym Mhontypridd yn uchelgeisiol, ond roedden ni’n gwybod bod gyda ni’r arbenigedd a chefnogaeth yn ein cymunedau nid yn unig i gynnal yr ŵyl, ond i’w gwneud yn anhygoel!

 

“Cafodd hud a natur unigryw Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ei grynhoi gan S4C, a ddywedodd mai dyma'r “Eisteddfod Orau Erioed”. Mae’n braf gweld y gwahaniaethau mawr a wnaeth yr achlysur, gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref ac mewn atyniadau ymwelwyr.

 

“Yn ogystal â hynny, rhaid cydnabod pwysigrwydd y trigolion a gafodd brofi’r ŵyl am ddim, neu gystadlu/perfformio ar y Maes gan adael yr Eisteddfod gyda hyder newydd yn eu sgiliau Cymraeg a chysylltiad dyfnach â’r iaith a’i diwylliant o ganlyniad.

 

“Bydd busnesau a gymerodd ran gan ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a rhoi croeso cynnes Cymreig yn cael ei ddathlu yn y seremoni wobrwyo a gobeithiwn eu bod yn falch o’r adborth anhygoel gan ymwelwyr yr Eisteddfod. Cafodd nifer o ymwelwyr amser gwych yn Rhondda Cynon Taf ac maen nhw'n parhau i ddychwelyd i dreulio amser yma nawr, chwe mis yn ddiweddarach.

 

“Wrth i ni symud tuag at gyflawni etifeddiaeth hir-dymor yr Eisteddfod, gan adeiladu ar ein cysylltiadau cryf â’r Gymraeg a diwylliant Cymru, rydyn ni am i’n cymunedau barhau i ymgysylltu, parhau i ddatblygu eu sgiliau iaith, yn ogystal â pherfformio, dysgu a dathlu.”

 

Osian Rowland, Menter Iaith: " Llwyddodd yr Eisteddfod i greu bwrlwm ledled Rhondda Cynon Taf, a cymryd cam mawr i’r bobl leol godi eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gyda nhw a gweld bod y Gymraeg yn fwy na iaith ysgol.

"Gweithiodd gwirfoddolwyr ym mhob rhan o’r Sir yn galed i godi arian, cynnal digwyddiadau oedd yn agor y drws i bobl brofi a chlywed y Gymraeg – ochr yn ochr a’r Saesneg – ac roedd gweld a chlywed cymaint o bobl leol ar faes y Brifwyl yn arbennig iawn. Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yn Rhondda Cynon Taf, ac roedd yr wythnos arbennig yma yn brawf o hynny.

"Y cam nesaf yw parhau gyda’r bwrlwm yma a datblygu mwy o gyfleoedd i bobl Rhondda Cynon Taf i glywed a defnyddio’r Gymraeg gan barhau i godi hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gyda nhw."

 

Dyma’ch cyfle chi i DDWEUD EICH DWEUD am eich profiad yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Dewch o hyd i’r arolwg byr ar waelod y dudalen pan fyddwch chi’n dilyn y ddolen. Gallwch chi ddweud eich dweud os ydych chi’n berchennog busnes neu’n drigolyn yn  Rhondda Cynon Taf 

Wedi ei bostio ar 19/03/2025