Skip to main content

Rhaglen cynnal a chadw adeiladau ysgolion dros y flwyddyn i ddod

primary school generic

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fanylion rhaglen waith gwerth £4.472 miliwn ar draws ystad ysgolion y Cyngor yn 2025/26 – i wneud gwaith cyffredinol, atgyweiriadau a chynnal a chadw, a sicrhau bod adeiladau'n parhau'n ddiogel, yn cadw dŵr allan, ac yn gynnes.

Ddydd Mercher, 19 Mawrth, cymeradwyodd yr aelodau Raglen Gyfalaf Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant y flwyddyn nesaf – i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cynnal yn addas ar gyfer defnydd diogel disgyblion a staff. Dyrannwyd cyllid o £4.472 miliwn yn ddiweddar gan y Cyngor Llawn at y diben hwn. Bydd llawer o'r rhaglen yn defnyddio gwyliau haf yr ysgol i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar addysg disgyblion.

Amlinellodd adroddiad swyddog i'r Cabinet ddydd Mercher sut y gellid dyrannu'r cyllid, ac yn dilyn cymeradwyaeth yr Aelodau bydd yn cael ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill, 2025. Mae manylion y cyllid wedi’u cynnwys isod:

Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2025-2026 

Adnewyddu cegin (£160,000) – bydd y cyllid a glustnodwyd yn cael ei ddefnyddio i wella’r gegin yn Ysgol Arbennig Park Lane.

Gosod ffenestri a drysau newydd (£100,000) – i'w gwblhau yn Ysgol Gynradd Bodringallt, Ysgol Gyfun Aberpennar, ac Ysgol Gynradd Pen-y-waun.

Gwaith hanfodol (£270,000) – i’w darparu yn Ysgol Gynradd Parc Aberdâr (addurno allanol), Ysgol Gynradd Gwauncelyn (newid llawr y pwll nofio), Ysgol Arbennig Park Lane (addurno allanol), Ysgol Gynradd Capcoch (gwelliannau ardal dysgu awyr agored), Ysgol Gynradd Ynysboeth (addurno allanol), YGG Abercynon (gwelliannau allanol), YGG Llwyncelyn (gwelliannau allanol gan gynnwys draenio), ac Ysgol Tŷ Coch (gwaith mewnol ac allanol amrywiol).

Adnewyddu toiledau (£235,000) –  yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn, Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith, YGG Evan James, ac YGG Llwyncelyn.

Gwaith cydymffurfio (£1.689m) – cyllid ar gyfer Ysgol Gynradd Abernant (ystafell hylendid newydd), Ysgol Gynradd Gwaunmiskin (ystafell synhwyrau newydd), Ysgol Gynradd Llantrisant (ystafell synhwyrau newydd), Ysgol Arbennig Maesgwyn (bloc addysgu newydd), Ysgol Gynradd Maesybryn (gwella ystafell ddosbarth), Ysgol Garth Olwg (man dysgu awyr agored), Ysgol Nant Gwyn (gwella hygyrchedd, ystafelloedd newid) ac Ysgol Tŷ Coch (gwella ystafell ddosbarth). Bydd ysgolion amrywiol hefyd yn derbyn gwelliannau hygyrchedd cyffredinol ac uwchraddio ystafelloedd dosbarth ar gyfer Dosbarthiadau Cynnal/Cymorth Dysgu.

Boeleri newydd (£170,000) – bydd y gwaith yma yn digwydd yn Ysgol Gynradd Cwm Clydach, Ysgol Gynradd Trehopcyn (gwella ystafell peiriannau) ac Ysgol Gyfun Treorci (i un bloc addysgu).

Adnewyddu toeau (£555,000) – bydd y gwaith hwn yn digwydd yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ysgol Gynradd Penpych, Ysgol Gynradd Trehopcyn, ac YGG Evan James.

Ailweirio trydan (£263,000) yn digwydd mewn pedair ysgol – Ysgol Gynradd Brynnau, Ysgol Gynradd Dolau, Ysgol Gymunedol y Porth (goleuadau allanol), ac Ysgol Gyfun Treorci – ac uwchraddio larymau tân (£65,000)  yn Ysgol Gyfun Aberpennar ac Ysgol Gyfun Treorci.

Meysydd ariannu eraill cynnwys Arolygon Cyflwr Addysg a Chynhwysiant a thrwyddedau caledwedd/meddalwedd TG. Mae rhestr lawn o'r dyraniadau cyllid wedi'i chynnwys yn Atodiadau’r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Mercher.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Mae cyllid cyfalaf pwysig yn cael ei ddyrannu gan y Cyngor bob blwyddyn i gynnal ein hystad ysgolion, fel rhan o'n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ehangach. Bydd y rhaglen £4.472 miliwn sydd wedi'i chytuno ar gyfer 2025/26 yn cefnogi ein hysgolion gyda gwaith cynnal a chadw effeithiol, yn sicrhau bod adeiladau’n addas i’r diben, ac yn lleihau’r risg o broblemau yn codi sy’n gofyn am wariant mwy sylweddol ac yn tarfu ar addysg disgyblion.

“Bydd llawer o’r gwaith yn amrywio o gwella ardaloedd dysgu dan do ac awyr agored, i osod drysau, ffenestri, systemau larwm tân a boeleri newydd. Mae hefyd yn bwysig nodi rhai o'r dyraniadau allweddol a wnaed ar gyfer gwaith cydymffurfio, a fydd yn darparu bloc addysgu newydd gwerth £1m yn Ysgol Arbennig Maesgwyn, er mwyn sicrhau cynnydd mawr ei angen ar gapasiti ein darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd hefyd ystafelloedd newydd y synhwyrau yn cael eu darparu yn Ysgol Gynradd Llantrisant ac Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn, ynghyd ag ystafell hylendid newydd yn Ysgol Gynradd Abernant.

“Bydd y gwaith gwella cyffredinol yn sicrhau bod ein hysgolion yn fwy modern, yn cadw dŵr allan, ac yn gynnes, gan gyfrannu at well effeithlonrwydd ynni a nodau ac ymrwymiadau ehangach y Cyngor mewn perthynas â newid hinsawdd. Agwedd allweddol arall ar y rhaglen yw defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol a’r diwydiant adeiladu i gyflawni’r gwaith, a fydd yn cefnogi busnesau lleol. Bydd llawer o’r gwaith hwn nawr yn digwydd dros wyliau’r ysgol yn haf 2025.

“Bydd y rhaglen gyfalaf yn ategu ein buddsoddiad sylweddol parhaus mewn cyfleusterau ysgol newydd gyda Llywodraeth Cymru. Ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, darparwyd buddsoddiad o £79.9m ar draws ardal Pontypridd Fwyaf, ynghyd ag ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Penygawsi, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, ac YGG Llyn y Forwyn. Ddydd Mercher, bu’r Cabinet hefyd yn ystyried adroddiad ar wahân yn amlinellu prosiectau buddsoddi cyffrous pellach – bydd y rhain yn cael eu datblygu dros y tair blynedd nesaf ar draws Cymer, Llanhari, Dolau/Llanilid, Cwm Clydach, Ynysybwl, Aberdâr, Penrhys, Abernant a Glyn-coch.”

Wedi ei bostio ar 26/03/2025