Wythnos yma, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch i ddathlu Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth trwy dynnu sylw at anghenion cyfathrebu unigryw a chryfderau ein gweithwyr niwroamrywiol. Drwy gydol yr wythnos, byddwn ni'n rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth werthfawr ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cynhwysiant, gan gynnwys rhannu profiadau aelod o'n Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol.
Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn achlysur byd-eang sy'n ceisio herio camdybiaethau, chwalu rhwystrau, a dathlu cryfderau a thalentau anhygoel unigolion niwroamrywiol. Gyda chefnogaeth Lexxic, yr arbenigwyr niwroamrywiaeth blaenllaw yn y DU, bwriad yr wythnos yma yw meithrin byd mwy cynhwysol sy'n deall ac yn gwerthfawrogi doniau pobl niwroamrywiol.
Dywedodd Siena Castellon, Sylfaenydd Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth: “Sefydlais Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn 2018 er mwyn newid y canfyddiad am wahaniaethau dysgu.
"A minnau'n rhywun sy'n awtistig a gydag ADHD, dyslecsia, a dyspracsia, rwy'n gwybod yn bersonol yr heriau a'r cryfderau y mae niwroamrywiaeth yn eu cynnig. Bwriad yr wythnos yma yw dathlu'r cryfderau yna a hyrwyddo gweledigaeth gytbwys o unigolion niwroamrywiol."
Ar gyfer Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth eleni, mae ein Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol wedi penderfynu canolbwyntio ar Gyfathrebu. Mae'r thema yma'n pwysleisio pwysigrwydd deall ac addasu ein dulliau cyfathrebu i gefnogi unigolion niwroamrywiol yn well. Trwy ganolbwyntio ar gyfathrebu, ein nod yw creu amgylchedd mwy cynhwysol lle mae modd i bawb ffynnu.
Drwy gydol yr wythnos, bydd y Cyngor yn rhannu awgrymiadau a strategaethau ar gyfer cyfathrebu'n effeithiol ag unigolion niwroamrywiol, yn chwalu camdybiaethau cyffredin, ac yn tynnu sylw at brofiadau aelodau staff niwroamrywiol. Byddwn ni hefyd yn hyrwyddo achlysuron ac adnoddau i addysgu ac ymgysylltu â'n cymuned ymhellach am wahanol gyflyrau niwroamrywiol.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'n hanfodol ein bod yn creu amgylchedd gwaith cynhwysfawr ar gyfer ein cydweithwyr niwroamrywiol.
"Fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Cyngor, rydw i wedi ymrwymo i feithrin gweithle amrywiol a chynhwysol. Trwy ddeall ac addasu ein harddulliau cyfathrebu, gallwn ni gefnogi ein gweithwyr niwroamrywiol a dathlu eu cyfraniadau unigryw."
Fel cyflogwr, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymroddedig i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant drwy addysg, ymwybyddiaeth a pholisïau. Rydyn ni'n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, sy'n golygu ein bod yn cynnig cyfweliad i bob ymgeisydd anabl (gan gynnwys y rheiny sydd â chyflyrau niwroamrywiol fel y'u diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer swydd.
Yn ogystal, rydyn ni'n cynnig meddalwedd arbenigol i'n gweithwyr i'w cefnogi gyda thasgau bob dydd, megis darllen testun yn uchel, addasu maint ffont, lliw tudalen a gosodiadau eraill i gefnogi eu hanghenion, a chefnogi ein staff yn rheolaidd gydag addasiadau rhesymol lle bo angen.
Meddai Louise Davies, Hyrwyddwr Niwroamrywiaeth Uwch Reolwyr y Cyngor a Chyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned: "A minnau'n Hyrwyddwr Niwroamrywiaeth Uwch Reolwyr y Cyngor, rydw i'n ymroddedig i eiriol dros unigolion niwroamrywiol a hyrwyddo ymwybyddiaeth. Ein nod yw sicrhau bod ein polisïau a'n harferion yn gynhwysol ac yn gefnogol. Yr wythnos yma, rydyn ni'n canolbwyntio ar gyfathrebu i helpu i greu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb."
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor yn parhau i gefnogi pobl ifainc niwroamrywiol i sicrhau bod darpariaeth ar gyfer pobl ifainc yn hygyrch ac yn gynhwysol a thrwy fentrau fel y Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth; sy'n grymuso pobl ifainc i ddathlu eu niwrowahaniaethu, herio ystrydebau, a hyrwyddo ymwybyddiaeth ar draws y gymuned.
Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn fenter fyd-eang sy'n herio ystrydebau a chamdybiaethau am wahaniaethau niwrolegol. Wedi'i sefydlu gan Siena Castellon yn 2018, cymerodd dros 3,100 o ysgolion, 4,350 o sefydliadau, a 139 o wledydd ran yn ymgyrch 2024. Yn ogystal, mae dros 1,200 o sefydliadau addysg bellach/uwch a 900 o sefydliadau dielw wedi ymuno â'r ymgyrch. Mae ymgyrch Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2025 yn digwydd rhwng 17 a 23 Mawrth 2025.
Cefnogir Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth gan Lexxic, cwmni ymgynghori seicolegol sy'n arbenigo mewn niwroamrywiaeth. Rydyn ni'n credu mewn byd lle mae pob meddwl yn perthyn, felly ein cenhadaeth yw ysbrydoli byd sy'n grymuso ac yn gwerthfawrogi niwroamrywiaeth. Gyda charfan o dros 60 o bobl, mae Lexxic yn partneru gyda sefydliadau, prifysgolion ac ysgolion i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rydyn ni'n helpu i greu diwylliannau niwrogynhwysol, gan ddarparu hyfforddiant a gwasanaethau seicolegol i unigolion niwroamrywiol.
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, ewch i: https://www.neurodiversityweek.com/
Wedi ei bostio ar 17/03/2025