Skip to main content

Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn dathlu cyfleusterau dysgu newydd

pril

Ddydd Iau 20 Mawrth, mynychodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd y Cyngor a’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi gydag Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, i agor drysau'r cyfleusterau dysgu newydd yn ffurfiol.

Mae'r ysgol newydd wedi'i dylunio i weithredu’n adeilad carbon sero net ac mae'n cynnwys dwy ystafell ddosbarth i blant y dosbarth meithrin, un ystafell ddosbarth i blant y dosbarth derbyn, tair ystafell ddosbarth i blant iau a chwe ystafell ddosbarth i blant hŷn - yn ogystal â phrif neuadd a sawl ardal ategol arall.   Mae capasiti'r ysgol wedi'i gynyddu i 310 o ddisgyblion cynradd yn ogystal â 45 o leoedd yn y dosbarth meithrin.

Cafodd cam cyntaf y prosiect ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2024, roedd hyn yn cynnwys adeiladu adeilad deulawr newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf. Dechreuodd staff a disgyblion fwynhau eu hadeilad newydd o ddechrau blwyddyn academaidd 2024/25.

Roedd cam dau yn canolbwyntio ar ardaloedd allanol y datblygiad yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf 2024/25 - i ddymchwel hen adeiladau'r ysgol ac agor y safle i adeiladu maes parcio newydd, dwy ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, a chyfleuster storio 40 o feiciau.

Cafodd y rhan fwyaf o'r ardaloedd awyr agored eu cwblhau ym mis Chwefror 2025, ac roedden nhw ar gael i'r ysgol eu defnyddio ar y pryd.  Dim ond gwaith i gwblhau'r cae chwaraeon glaswellt oedd yn mynd rhagddo bryd hynny, oherwydd ei natur sy'n dibynnu ar y tywydd.

Mae'r buddsoddiad yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyllid o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg:  "Mae bob amser yn bleser i fod yn rhan o'r diwrnodau arbennig yma. Mae cwrdd â'r disgyblion a'r staff a'u gweld nhw'n llawn cyffro i ddangos i ni eu cyfleusterau newydd yn deimlad gwych.

"Hoffwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymuno â ni heddiw, a Llywodraeth Cymru am ei buddsoddiad ochr yn ochr â'r Cyngor, fel rhan o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

"Fel Cyngor, byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio'r cyllid rydyn ni'n ei dderbyn ar bethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl Rhondda Cynon Taf, gyda'n buddsoddiadau mewn ysgolion yn flaenoriaeth."

Meddai’r Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS: “Fel eich Prif Weinidog rwyf am sicrhau bod pob teulu’n cael y cyfle i lwyddo, drwy roi’r sylfeini cryfaf i blant. Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r ymrwymiad hwn drwy gyd-ariannu eich adeilad newydd gwych yn Ysgol Gynradd Penygawsi drwy ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Gallaf weld eisoes y bydd yn rhoi amgylchedd gwirioneddol ysbrydoledig i ddysgu i ddysgwyr ifanc.”

Wedi ei bostio ar 24/03/2025