Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd yw hi (17-23 Mawrth) ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am i bawb gofio'r negeseuon yma: 'Bydd Wych, Ailgylcha' a 'Prynu'n Rhydd, Gwastraffu Llai'.
Trwy ystyried yr hyn rydyn ni'n ei brynu a dim ond prynu'r union nifer sydd ei angen arnoch chi, bydd modd ichi arbed arian, amser, deunydd pecynnu a'r blaned. Mae modd i weithredoedd pwysig, waeth pa mor fach, wneud gwahaniaeth mawr! Mae 66 miliwn o bobl yn byw yn y DU felly drwy weithio gyda'n gilydd, bydd gwneud y pethau bychain yn cael effaith fawr.
Mae’r aelwyd 4 person gyffredin yng Nghymru yn taflu gwerth £84 o fwyd mae modd ei fwyta y mis, er bod 77% o bobl wedi nodi bod cost bwyd yn bryder mawr.
Gwastraff bwyd sy'n cael ei ailgylchu lleiaf yng Nghymru o hyd, ond mae cyfle gyda phawb i ailgylchu ei wastraff bwyd. Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth gwastraff bwyd wythnosol i bob cartref yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus.
Diolch i gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor a'r biniau ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd, mae'n hawdd gweld faint o fwydydd byddwn ni'n eu taflu. Drwy gadw golwg ar faint o fwyd rydyn ni'n ei wastraffu, gallwch chi ystyried faint o fwyd sydd ar eich plât a'r rhestr siopa wythnosol, a chyfyngu ar faint o fwyd rydych chi'n ei brynu.
Rydyn ni'n amcangyfrif bod 25% o'r bag sbwriel neu fin sbwriel cyffredin yng Nghymru yn cynnwys bwyd, a bwyd mae modd ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono.
Yn Rhondda Cynon Taf, fe wnaethon ni gyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff safonol ym mis Medi 2024 er mwyn helpu pobl i roi eu gwastraff bwyd yn y cadi gwastraff bwyd yn lle'r bagiau du. Y newyddion da yw bu cynnydd o 17% yn swm y gwastraff bwyd sy'n cael ei ailgylchu a gostyngiad o 36% yn y gwastraff bagiau du sy'n cael ei gasglu! Rydyn ni hefyd yn ailgylchu dros 70% o’n gwastraff yn gyson ac ar y trywydd iawn i fwrw targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70%.
Yn 2022, fe wnaeth gwaith dadansoddi bagiau du yn Rhondda Cynon Taf gan WRAP ddod i'r casgliad bod 39% o’r holl wastraff bagiau du yn cynnwys gwastraff bwyd – mae’r camau rydyn ni wedi’u cymryd wedi helpu i leihau'r ganran yma'n sylweddol! Ond mae modd i ni wneud hyd yn oed yn fwy – gallai gwneud y pethau bychain, fel prynu ffrwythau a llysiau rhydd, arwain at 8.2 miliwn yn llai o fasgedi siopa'n cael eu gwastraffu y flwyddyn. Bydd hefyd yn arwain at lai o ddeunydd pecynnu ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar brynu’r union swm neu nifer sydd ei angen arnoch chi, gan arbed arian a’r blaned.
Er ein bod yn gwella yn Rhondda Cynon Taf o ran ailgylchu ein gwastraff bwyd, y gwir nod yw sicrhau nad oes unrhyw fwyd yn cael ei wastraffu. Wrth gwrs, bydd angen rhoi eitemau does dim modd eu bwyta, fel esgyrn twrci, bagiau te a phlisg wyau, yn eich cadi gwastraff bwyd er mwyn iddyn nhw gael eu hailgylchu. Serch hynny, trwy gynllunio'ch prydau ymlaen llaw a choginio'r hyn sydd ei angen arnoch chi'n unig, neu rewi'ch bwyd dros ben / y bwyd heb ei fwyta, bydd modd sicrhau bod llai o fwyd yn cael ei wastraffu.
Mae syniadau gwych ar gyfer ryseitiau ar wefan Cymru yn Ailgylchu - https://www.walesrecycles.org.uk/cy/chwech-phryd-gwych a chofiwch fwrw golwg hefyd ar wefan Love Food Hate Waste - https://www.lovefoodhatewaste.com.
Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy o drigolion nag erioed yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu gwastraff bwyd! Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o bobl yn gweld pa mor hawdd yw hi i ailgylchu'ch gwastraff bwyd. Serch hynny, mae rhai pobl o hyd nad ydyn nhw'n ailgylchu eu gwastraff bwyd.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod cerbydau o safon uchel a chyfleusterau sy'n hawdd eu defnyddio ar gael er mwyn cynnal gwasanaeth ailgylchu dibynadwy.
"Mae gyda ni safle ailgylchu gwastraff bwyd pwrpasol yma yn ein Bwrdeistref Sirol, wedi'i leoli ym Mryn Pica, Llwydcoed, sy'n gweld mwy o wastraff bwyd nag erioed yn cael ei droi'n ynni i bweru cartrefi. “Rydyn ni eisiau llwyddo mewn partneriaeth â'n cymunedau, dyna pam rydyn ni'n darparu gwasanaeth casglu wythnosol llwyddiannus wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu gwastraff a gwastraff bwyd am ddim, yn ogystal â chyfleusterau yn y gymuned, addysg barhaus a chodi ymwybyddiaeth o'r pwnc."
Hoffech chi ragor o wybodaeth am gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor? Hoffech chi ofyn am gadi bach i'r gegin? Ewch i www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
Am ragor o gyngor ac awgrymiadau, ewch i https://lovefoodhatewaste.com
Wedi ei bostio ar 19/03/2025