Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi achlysur Gwanwyn Glân Cymru eleni ac yn annog trigolion i ymuno â'r frwydr yn erbyn sbwriel a dangos eu Brogarwch.
Mae'r ymgyrch pythefnos o hyd yn rhedeg o ddydd Gwener 21 Mawrth tan ddydd Sul 6 Ebrill. Y nod yw taflu goleuni ar y problemau sbwriel y mae llawer o drefi, pentrefi a dinasoedd yn eu hwynebu wrth i rai pobl daflu sbwriel yn ddiofal. Y nod eleni yw atgoffa pobl i fod yn Frogarwyr, gan 'Garu Lle Maen nhw'n Byw'. Mae angen i ni i gyd wneud hyn wneud bob dydd o'r flwyddyn, i helpu i gadw ein cymdogaethau'n lân.
I ddechrau’r pythefnos o weithredu, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn cefnogi menyw leol o Bontypridd, sydd hefyd yn feicwraig â nifer o recordiau'r byd, yn gyn-bencampwraig triathlon y byd, yn ymgyrchydd dros yr hinsawdd ac yn awdures - sef Kate Strong - yn ei hymgais i dorri record wrth lanhau’r afon Taf. Daeth yr her torri record o’r enw Taf Taclus (‘Taff Tidy’) i fodolaeth i ddod â phobl ynghyd i lanhau un afon am un awr a gosod Record y Byd Guinness newydd.
Dywedodd Kate Strong: “Rydyn ni’n gwybod na fydd un sesiwn lanhau yn newid y byd, ond bydd yn newid sut rydyn ni’n gweld ein heffaith o fewn y byd, a gyda’n prosiectau etifeddiaeth, yn galluogi rhagor o bobl i newid eu hymddygiad wrth warchod natur.”
Ar 21 Mawrth 2025, bydd Dr Numair Masud, arbenigydd ym maes iechyd dŵr croyw, a Kate Strong, a gafodd ei geni ym Mhonytpridd, y beicwraig â nifer o recordiau'r byd ac arbenigydd newid ymddygiad, yn dod ynghyd i dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio i warchod ein systemau afonydd.
I fod yn rhan o'r awr o weithredu ar y diwrnod bydd angen i chi gofrestru i gymryd rhan - https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSdaFSVH9gCLm2hUwVyAbBsTxwVYbaj2ntavDPn6sAo5gbrEsg/viewform.
Er bod y Cyngor yn gefnogwr brwd o’r achlysur ac yn annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan, nid yw’n gyfrifol am redeg yr achlysur a dylid dilyn yr holl agweddau iechyd a diogelwch sydd wedi'u nodi gan drefnwyr y prosiect er mwyn sicrhau diogelwch a bod canllawiau ymgais torri record yn cael eu dilyn ar bob adeg.
Nod Gwanwyn Glân Cymru Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu cadarnhaol, ac mae’n cefnogi Kate a Dr Masud yn eu hymgais i dorri'r record. Mae sbwriel yn costio tua £70 miliwn i Gymru ei waredu bob blwyddyn, ond mae hefyd yn cael effeithiau dinistriol ar fywyd gwyllt morol a lleol. Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn gam syml mae modd i unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweladwy i'w hardal.
Mae’r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, y Cynghorydd Ann Crimmings, a’r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd, y Cynghorydd Christina Leyshon, yn awyddus i gefnogi Kate Strong a Dr Masud yn eu her a byddan nhw'n rhan o’r awr o weithredu ar 21 Mawrth. Maen nhw hefyd yn cefnogi Gwanwyn Glân Cymru i helpu i sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn lle rydyn ni i gyd yn ei garu ac eisiau ymweld ag ef.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings: “Nid dim ond peth hyll yw sbwriel, gall fod yn niweidiol i fywyd gwyllt a chael effaith enfawr ar iechyd meddwl y bobl sy’n gorfod ei weld bob dydd. Mae'n dasg syml iawn i ddefnyddio bin neu fynd â'ch sbwriel adref i gael gwared ar eich eitemau. Mae'n ymwneud â bod yn gyfrifol a dangos cariad at y lle rydyn ni'n byw. Mae ein mannau awyr agored yn rywle i bawb eu mwynhau ac yn aml nifer fach o unigolion sy'n ei ddifetha.
“Yn ffodus iawn yn Rhondda Cynon Taf mae gyda ni nifer o hybiau sbwriel sy’n eich galluogi chi i fenthyg pecynnau casglu sbwriel am ddim er mwyn i ni allu glanhau’r llanast sy'n cael ei adael gan yr ychydig o bobl sy'n taflu sbwriel yn ddiofal. Yr un peth cadarnhaol yw bod gan Rondda Cynon Taf rai mannau agored anhygoel, a bydd casglu sbwriel yn eich helpu chi i fynd allan i’r awyr agored i’w harchwilio a'u crwydro, rhoi hwb i’ch llesiant, a chymryd camau cadarnhaol i wella’ch cymuned. Felly, cydiwch mewn teclyn codi sbwriel, ewch y tu allan, a gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw Rhondda Cynon Taf yn daclus!"
Ychwanegodd y Cynghorydd Christina Leyshon: “Rydw i a’r Cynghorydd Crimmings yn angerddol am yr amgylchedd ac yn gweithio’n galed i wneud gwahaniaeth yn ein cymuned. Rydyn ni'n falch o gefnogi menyw leol, angerddol ac ysbrydoledig arall, sef Kate, a Dr Masud i helpu i wneud newid. Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud heddiw yn gwneud gwahaniaeth i yfory ac mae pobl fel Kate a Dr Masud yn helpu i greu yfory mwy disglair i ni gyd.”
Mae gan Rondda Cynon Taf nifer o hybiau casglu sbwriel ar draws y Fwrdeistref Sirol, lle mae modd i bobl fenthyg pecyn casglu sbwriel am ddim a gweithredu yn eu hardaloedd lleol. Mae’r pecyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel, a chylchynnau – sy’n hanfodol i gadw eich bagiau ar agor yn y gwynt. I ddod o hyd i'ch hyb agosaf, gallwch chwilio'ch lleoliad ar-lein yn https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/. Mae modd i chi hefyd ymuno â grŵp lleol – fel rydyn ni i gyd yn gwybod, llawer o waith a wna llawer o ddwylo! Ceir rhagor o fanylion ar-lein: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/grwpiau-cymunedol/
Y llynedd, cymerodd 5,000 o wirfoddolwyr ran mewn mwy na 700 o ymgyrchoedd glanhau ledled Cymru. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn gobeithio curo'r cyfanswm yma a sicrhau mai 2025 yw'r gwanwyn glân mwyaf llwyddiannus eto.
Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Owen Derbyshire: “Eleni, mae ein neges yn glir: mae’r amgylchedd i bawb. P'un a ydych chi'n tacluso'ch stryd, parc lleol, hoff draeth, neu lecyn prydferth, mae pob darn o sbwriel sy'n cael ei dynnu yn gwneud gwahaniaeth.
“Mae casglu sbwriel yn ffordd syml, rhad ac am ddim o fynd allan i’r awyr agored, rhoi hwb i’ch llesiant, a chymryd camau cadarnhaol i wella’ch cymuned.”
I wneud addewid a chymryd rhan yn ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus https://keepwalestidy.cymru/cy/.
I gofrestru i gymryd rhan yn yr her Taf Taclus, ewch i https://katestrong.global/taff-tidy (COFIWCH, RHAID i chi gofrestru i gymryd rhan).
Wedi ei bostio ar 13/03/2025