Os ydych chi wedi gweld bagiau coch o sbwriel wrth ochr biniau'r Cyngor yn Rhondda Cynon Taf, mae'n hawdd meddwl eu bod nhw wedi cael eu tipio'n anghyfreithlon. Mewn gwirionedd, dyma arwydd bod gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'n galed i gadw strydoedd, parciau ac ardaloedd prydferth RhCT yn lân.
Wrth i gyfnod prysuraf gwirfoddolwyr codi sbwriel agosáu, mae'r elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, yn codi ymwybyddiaeth o'r bagiau coch sy'n cael eu defnyddio gan wirfoddolwyr.
Gall Arwyr Sbwriel cofrestredig, grwpiau cymunedol ac unrhyw un sy'n ymweld ag un o'r Hybiau Codi Sbwriel roi bagiau o sbwriel wrth ochr biniau cyhoeddus i'w casglu, neu mewn man casglu sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn achos sesiynau codi sbwriel mwy.
Mae'r sbwriel yn y bagiau coch yn cael ei gasglu, ei ddidoli a'i ailgylchu yn y Cyfleuster Adennill Deunyddiau ym Mryn Pica, Llwydcoed.
Bwriad y cynllun yw gwneud bywyd gwirfoddolwyr mor hawdd â phosibl trwy roi ffordd effeithlon iddyn nhw o gael gwared ar y sbwriel maen nhw wedi'i gasglu.
Y llynedd, cafodd 42,821 o fagiau o sbwriel eu casglu gan wirfoddolwyr ledled Cymru. Cafodd 1,488 o'r rhain eu casglu ledled Rhondda Cynon Taf, gyda 1,356 o fagiau o sbwriel a 132 o fagiau o eitemau i'w hailgylchu yn cael eu casglu. Roedd ysgolion a grwpiau ieuenctid, busnesau, grwpiau cymunedol ac unigolion wedi chwarae rhan wrth lanhau eu cymunedau lleol.
Yr wythnos yma yw dechrau Gwanwyn Glân Cymru, sy'n cael ei gynnal rhwng dydd Gwener 21 Mawrth a dydd Sul 6 Ebrill, sy'n golygu y gwelir rhagor o'r bagiau coch amlwg wrth i filoedd o wirfoddolwyr gymryd rhan mewn sesiynau codi sbwriel ledled Cymru.
Meddai Hywel Tanner-Jones, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer Rhondda Cynon Taf: “Mae'n gyffrous gweld llawer yn rhagor o fagiau coch yn ymddangos – mae'n dystiolaeth amlwg o gymuned o wirfoddolwyr codi sbwriel anhygoel sy'n tyfu.
“Gyda Gwanwyn Glân Cymru yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener 21 Mawrth a dydd Sul 6 Ebrill, rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb yn Rhondda Cynon Taf yn dechrau deall arwyddocâd y bagiau coch ac yn cael ei ysbrydoli i gymryd rhan mewn gofalu am ein gwlad brydferth.”
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings: “Mae gyda ni lawer o Hybiau Codi Sbwriel yn RhCT sy'n rhoi cyfle i chi fenythca pecynnau codi sbwriel am ddim ac rydyn ni'n lwcus bod gyda ni rai grwpiau anhygoel a brwdfrydig sy'n mynd ati i godi sbwriel yn ein hardaloedd yn rheolaidd. Rydyn ni'n awyddus i gefnogi'r grwpiau yma, ac mae ein carfan yn casglu'r bagiau coch yn rheolaidd ac yn sicrhau ein bod ni'n ailgylchu cymaint o'r sbwriel ag y gallwn ni.
“Mae sbwriel yn hyll a gall fod yn niweidiol i fywyd gwyllt a chael effaith enfawr ar iechyd meddwl y bobl y mae rhaid iddyn nhw ei weld bob dydd. Mae defnyddio bin neu fynd â'ch sbwriel adref yn dasg mor hawdd. Mae rhaid i ni fod yn gyfrifol a charu ein cartref. Mae ein mannau awyr agored i bawb eu mwynhau ac yn aml, nifer fach o bobl sy'n eu difetha.
"Un peth cadarnhaol yw bod gan RCT rai mannau agored anhygoel a bydd codi sbwriel yn eich helpu chi i'w crwydro, yn gwella'ch lles ac yn gwella'ch cymuned. Casglwch offer codi sbwriel, ewch allan yn yr awyr agored a gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw RhCT yn daclus."
Cofrestrwch achlysur ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru neu gofrestru i gymryd rhan mewn achlysur sy'n digwydd yn lleol ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus.
Wedi ei bostio ar 27/03/2025