Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o lofnodi'r Siarter i Deuluoedd sydd wedi wynebu Profedigaeth trwy Drychineb Cyhoeddus. Mae'r Siarter, a gaiff ei galw hefyd yn Siarter Hillsborough, yn ddogfen gyhoeddus sy'n ymrwymo i ddiwylliant o onestrwydd, tryloywder ac atebolrwydd mewn gwasanaeth cyhoeddus. Drwy fabwysiadu’r Siarter yma, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ailddatgan ei ymroddiad i roi lle blaenllaw i anghenion teuluoedd sydd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a’u bod yn cael eu trin â pharch, urddas a thosturi.
Cafodd achlysur arwyddocaol ei gynnal ar 18 Mawrth, 2025, ym Merthyr Tudful, lle bu sefydliadau a chyrff cyhoeddus amrywiol yn bresennol i ddangos eu cefnogaeth. Roedd y cyfryngau a gwesteion uchel eu parch yn bresennol yn yr achlysur, gan gynnwys yr Esgob James Jones KBE, a ysgrifennodd y Siarter yn rhan o’i adroddiad ar wersi o drasiedi Hillsborough, yn ogystal â theuluoedd a goroeswyr o drychinebau Manceinion, Hillsborough, Aberfan, a Grenfell. Roedd Paul Mee, Prif Weithredwr Cyngor Rhondda Cynon Taf, hefyd yn bresennol i lofnodi ar ran y Cyngor.
Roedd yr achlysur yma'n gydnabyddiaeth unigryw o undod ledled Cymru, gan ddangos sut mae gwahanol sefydliadau yn dod at ei gilydd i gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan drychinebau cyhoeddus. Tynnodd sylw at ddull gweithredu arbennig ar gyfer Cymru, gan ddangos y cydweithrediad a’r undod ymhlith grwpiau amrywiol i flaenoriaethu anghenion teuluoedd sydd mewn profedigaeth.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Trwy fabwysiadu’r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi wynebu Profedigaeth trwy Drychineb Cyhoeddus, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ailddatgan ei ymrwymiad diwyro i dryloywder, atebolrwydd a thosturi. Mae’r siarter yma'n dyst i’n hymroddiad i roi lle blaenllaw i anghenion teuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u parchu.
“Mae ein gwerthoedd o gefnogi a grymuso cymunedau, hyrwyddo diogelwch a lles, a meithrin diwylliant o barch ac empathi, wrth wraidd yr ymrwymiad yma. Drwy gofleidio’r egwyddorion yma, rydyn ni'n ymdrechu i wella ein hymateb brys, dysgu o ddigwyddiadau’r gorffennol, a gwella ein gwasanaethau’n barhaus i wasanaethu trigolion Rhondda Cynon Taf yn well.
“Trwy fabwysiadu’r Siarter bwysig yma, rydyn ni'n helpu i adeiladu cymuned fwy cydnerth a thosturiol.”
Mae’r Siarter yn amlinellu chwe ymrwymiad allweddol, gan gynnwys:
- Mewn achos o drychineb cyhoeddus, cefnogi'r gwaith o roi cynlluniau brys ar waith a defnyddio adnoddau i achub dioddefwyr, i gefnogi'r rhai mewn profedigaeth ac i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed.
- Gosod lles y cyhoedd uwchlaw ein henw da ni.
- Dulliau o graffu cyhoeddus – gan gynnwys ymchwiliadau cyhoeddus a chwestau – gyda gonestrwydd, mewn modd agored, onest a thryloyw, gan ddatgelu dogfennau, deunyddiau a ffeithiau perthnasol yn llawn.
- Osgoi ceisio amddiffyn y rhai nad oes modd eu hamddiffyn neu ddiswyddo neu ddirmygu'r rhai a allai fod wedi dioddef lle rydyn ni wedi methu.
- Sicrhau bod pob aelod o staff yn trin aelodau o'r cyhoedd a'i gilydd gyda pharch a chwrteisi.
- Cydnabod ein bod yn atebol ac yn agored i her.
Meddai Paul Mee, Prif Weithredwr Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o’r achlysur arwyddocaol yma a bod yn dyst i ymrwymiad ar y cyd egwyddorion y Siarter yma. Nid dogfen yn unig yw’r Siarter yma, mae’n addewid i’r teuluoedd sydd wedi dioddef colled y tu hwnt i'r dychymyg.
“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i sicrhau bod profiadau teuluoedd mewn profedigaeth yn parhau i arwain ein gweithredoedd a’n bod yn cynnal y safonau uchaf o dryloywder, atebolrwydd a thosturi wrth wneud hynny.
“Trwy lofnodi’r Siarter yma, nid yn unig ydyn ni'n cydnabod y gorffennol, ond hefyd yn ymrwymo i ddyfodol lle mae anghenion teuluoedd mewn profedigaeth yn cael eu blaenoriaethu, a bod eu lleisiau yn rhan annatod o’n hymateb i drychinebau cyhoeddus.”
Does dim modd gorbwysleisio'r effaith ddinistriol ar deuluoedd mewn profedigaeth yn dilyn trychinebau cyhoeddus. Arweiniodd trychineb Hillsborough, a ddigwyddodd ar 15 Ebrill 1989, at 97 o farwolaethau ac effeithiodd yn ddwfn ar gannoedd o unigolion, dinas Lerpwl, ac mae iddi arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r Siarter yn galw am newid diwylliannol yn ymgysylltiad cyrff cyhoeddus â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod gwersi yn sgil trychineb Hillsborough a thrychinebau eraill gan gynnwys Manceinion, Aberfan, a Grenfell, yn cael eu dysgu er mwyn atal profiadau tebyg yn y dyfodol.
Mae’r Esgob James Jones KBE, a gynigiodd y Siarter, wedi bod yn sbardun i’w mabwysiadu, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau newid diwylliannol yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Meddai'r Esgob James Jones KBE: “Heddiw, mae cenedl Cymru yn arwain y ffordd gyda dros 50 o’i chyrff cyhoeddus yn arwyddo’r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o’r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai y mae angen i ni eu gwasanaethu.
“Mae’r siarter yn cynrychioli addewid, ar ôl unrhyw drychineb yn y dyfodol, na fydd neb yn gorfod llywio eu galar ar eu pen eu hunain, ac na fydd neb eto'n dioddef y 'tueddiad nawddoglyd o bŵer anatebol'.
“Mae hon yn foment hollbwysig ym mywyd y genedl wrth i ni gofleidio egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth ei holl ddinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.”
Mae modd i chi ddarllen y Siarter lawn yma.
Wedi ei bostio ar 24/03/2025