Skip to main content

Ysgolion yn dathlu yng Ngwobrau Eco Carped Gwyrdd!

Eco Award pic

Mynychodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a’r Gymraeg a’r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Hinsawdd, Seremoni Gwobrau Eco Carped Gwyrdd Ysgolion RhCT ar ddydd Llun 17 Mawrth i wobrwyo disgyblion am dynnu sylw at effaith y newid yn yr hinsawdd drwy greu ffilmiau byr.

Mae’r Dathliad Eco Carped Gwyrdd yn uchafbwynt prosiectau ffilm o 4 ysgol ledled RhCT, gan dynnu sylw at faterion hinsawdd pwysig a’r hyn y mae modd ei wneud i fynd i’r afael â nhw. Yr achlysur carped gwyrdd oedd dangosiad cyntaf y ffilmiau yma lle cafodd y teuluoedd gyfle i’w gwylio am y tro cyntaf a rhoddwyd gwobrau am eu gwaith caled a'u hymroddiad i dynnu sylw at faterion hinsawdd hollbwysig.

Yr ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect oedd Ysgol Gynradd Trewiliam, Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Coed-y-lan. Mae’r ffilmiau’n cynnwys pryderon y disgyblion am y newid yn yr hinsawdd, neu’r amgylchedd, a’r hyn y mae modd ei wneud i’w newid, a hynny ar ffurf haniaethol. Aeth y disgyblion ati, gyda chymorth eu rhieni a gwarcheidwaid, i greu eu deunydd eu hunain, sydd wedi cael ei roi at ei gilydd gan David Ozkoidi – Ffilmiwr, i greu ffilmiau byr gyda neges bwysig.

Cafodd y prosiect ei drefnu yn y lle cyntaf gan Lyndsey Williams, Cydlynydd Teuluoedd Ysgolion RhCT ar gyfer Lluosi, a’i arwain gan Aleksandra Nikolajev Jones, Datblygu a Chodi Arian, Artis Community Cymuned, Yma, sydd wedi gwneud ymdrech aruthrol i gynllunio a chydlynu’r prosiect, a ariannwyd gan gynllun Llywodraeth y DU, Lluosi.

Mae Lluosi yn fenter gan Lywodraeth y DU sydd â’r nod o wella sgiliau rhifedd oedolion. Dyrannwyd arian i’r prosiect yma i’w ddefnyddio’n rhan o brosiectau dysgu i deuluoedd mewn ysgolion. Mae'r prosiect wedi dangos sut mae rhifedd yn cael ei ddefnyddio wrth greu ffilmiau ac mae'n cefnogi gwobrau eco-ysgolion RhCT trwy seilio'r ffilmiau ar y categorïau canlynol:

Bioamrywiaeth a natur

Gwastraff ac ailgylchu

Rheoli ynni a charbon

Meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a’r Gymraeg: “Mae wedi bod yn wych dathlu holl waith caled, ymdrech, a chreadigrwydd ein disgyblion, staff ysgolion, ac wrth gwrs, y rhieni sydd wedi cymryd rhan mor anhygoel yn y prosiect yma.

“Mae addysg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac mae prosiectau fel yr un yma’n galluogi disgyblion i ddefnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu mewn ffyrdd ystyrlon, ymarferol, ac yn bwysicaf oll, llawn hwyl – wrth hefyd gyfrannu at sgyrsiau ehangach y Cyngor am gyfrifoldeb ac addysg o ran yr hinsawdd.

“Mae’n amlwg bod y prosiect yma wedi bod yn ffordd wych i chi i gyd ddysgu sgiliau newydd a dangos pa mor greadigol ydych chi – gan ddefnyddio straeon mor bwerus. Rwy’n gwybod bod ein hathrawon a’n staff wedi bod yn gweithio’n galed i gyflwyno dros 260 o gyrsiau/gweithdai dros y 18 mis diwethaf ac wedi gweithio gyda dros 70 o ysgolion yn RhCT. Mae hyn i’w ganmol yn fawr, diolch i chi i gyd am ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau bod dysgu mor ddiddorol â phosibl.”

Meddai’r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Hinsawdd: “Hoffwn adleisio rhai o sylwadau’r Cynghorydd Lewis a diolch i’r holl ddisgyblion, staff a rhieni am eu gwaith ochr yn ochr â’r Prosiect Creu Ffilmiau Eco ac am roi’r cyfle i ni gymryd rhan a gwylio eich holl ffilmiau gwych.

“Mae’r ffilmiau a gafodd eu creu yn cyfleu neges bwysig iawn i ni i gyd – mae gofalu am ein planed yn bwysig, o ailgylchu, casglu sbwriel, arbed ynni i warchod natur – mae camau gweithredu bach yn gwneud gwahaniaeth mawr.

“Trwy rannu’r syniadau yma, mae disgyblion yn helpu eraill i ddysgu sut y mae modd iddyn nhw helpu hefyd, ac mae hynny’n sicr yn rhywbeth i fod yn falch ohono!

“Da iawn i bawb a gymerodd ran ac rwy’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n ysbrydoli’r disgyblion i barhau i fod ag agwedd mor gryf tuag at y cyfrifoldebau sydd gyda ni fel cymuned ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.”

Gweld yr holl ffilm yma. https://youtu.be/gdhn8s9V1bk

Wedi ei bostio ar 21/03/2025