Tra'ch bod chi'n aml yn dihuno ac yn mwynhau paned, mae carfan benodol o bobl yn gweithio ym mhob tywydd bob diwrnod o'r wythnos, drwy gydol y flwyddyn, i wneud yn siŵr bod yr ardaloedd rydych chi'n byw ynddyn nhw yn lân, yn daclus ac yn barod ar gyfer y diwrnod i ddod.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi achlysur Gwanwyn Glân Cymru eleni (21 Mawrth – 6 Ebrill) ac mae un Gweithiwr Gofal Stryd penodol, Kevin Williams, 53 oed, wedi bod yn brysur yn glanhau Rhondda Cynon Taf ers dros 20 mlynedd.
Mae diwrnod Kevin yn dechrau am 7am ac mae'n gweithio yn erbyn y cloc i gael y strydoedd fel pin mewn papur yn barod i ni gyd eu mwynhau. Gwaith cyntaf y dydd yw ysgubo'r strydoedd a chodi sbwriel ffiaidd sydd wedi’i ollwng yn ystod y nos. Weithiau, caiff Kevin ei gynorthwyo gan gerbyd ysgubo’r ffordd, sy’n helpu i gasglu’r sbwriel ac os oes angen, mae’r garfan golchi gyda jet yn cael eu galw i helpu.
Unwaith y bydd y strydoedd yn lân, mae Kevin yn mynd i wagio'r biniau. Caiff egwyl ginio sydyn am 11.30am ac yna bydd yn ailddechrau er mwyn codi diwrnod newydd o sbwriel.
Mae gan Kevin lawer o straeon i'w hadrodd wrth i ni ei ddilyn o gwmpas yn ystod diwrnod arferol yn ei fywyd gwaith....
“Mae fy swydd yn sicr yn fy nghadw'n heini gan fod llawer o gerdded; dw i ddim yn gwisgo un o'r pethau hynny sy'n cyfrif fy nghamau, ond byddwn ni'n dweud fy mod i'n cerdded tua 7 milltir y dydd yn hawdd - mae'n fwy na rownd o golff rwy'n gwybod hynny! Mae'n werth chweil iawn pan rydych chi'n gweld y strydoedd yn lân ar ddechrau'r dydd, gan wybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth, ond hefyd yn wirioneddol ddigalon pan welwch rai pobl yn gollwng sbwriel ac nad ydyn nhw'n poeni am yr ardal. Rwy'n mwynhau bod allan bob dydd, yn cwrdd â phobl newydd ac yn gwneud fy rhan i sicrhau bod ein Rhondda Cynon Taf yn cael ei gadw mor lân â phosibl.
“Os oedd yna un peth yn fy ngwylltio i, sbwriel sigaréts yw hynny. Mae mor hyll ac mae'r bonion yn broblem wirioneddol yng nghanol y trefi; maen nhw'n cymryd llawer o fy amser gan fod cymaint ohonyn nhw ac maen nhw'n anodd eu codi. Dydw i ddim wir yn deall pam nad yw ysmygwyr yn eu rhoi yn y bin, mae'n debyg nad ydyn nhw'n eu gweld fel sbwriel, ond maen nhw! Os cânt eu dal yn eu gollwng, byddan nhw'n cael dirwy o £100 ac mae hynny'n fwgyn drud os ydych chi'n gofyn i mi.
“Yr un peth rydw i'n ei garu am fy swydd yw bod pob diwrnod yn wahanol, a dydych chi byth yn gwybod beth allech chi ddod o hyd iddo ymhlith y sbwriel. Mae'n gas gen i pan mae nodwyddau wedi'u taflu ac mae baw ci yn fy ngwylltio i hefyd.
“Rwy’n mwynhau fy swydd yn fawr ond gallai fod yn llawer haws pe bai pobl yn meddwl am eu gweithredoedd cyn iddyn nhw daflu eu sbwriel ar y llawr. Y sbwriel gwaethaf yw'r poteli a'r caniau hanner gwag gan eu bod yn aml yn arllwys drosoch chi wrth i chi eu codi.
“Os oes un ffordd y gallai trigolion ac ymwelwyr helpu, byddai’n rhoi eu sbwriel yn y biniau a gaiff eu darparu, mae llawer ohonyn nhw yn Rhondda Cynon Taf felly does dim esgus!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
“Bob dydd, mae ein carfanau Gofal y Strydoedd yn teithio ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol er mwyn sicrhau bod yr ardal yn lân, yn las ac yn ddiogel ar gyfer trigolion, gweithwyr ac ymwelwyr. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n cydnabod y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud ein Bwrdeistref Sirol yn arloeswr ym maes ailgylchu a byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu, ond mae gan drigolion ran allweddol i'w chwarae i'n helpu i wneud hyn.
“Nid yn unig mae sbwriel yn hyll; gall fod yn niweidiol i fywyd gwyllt a chael effaith enfawr ar sut mae pobl yn gweld y lle maen nhw'n byw. Mae defnyddio bin neu fynd â'ch sbwriel adref yn dasg mor hawdd. Mae'n ymwneud â bod yn gyfrifol a dangos parch at ble rydyn ni'n byw, mae ein mannau awyr agored i bawb eu mwynhau ac yn aml, lleiafrif sy'n ei ddifetha.
“Mae trigolion yn gofyn yn aml i ni sut y mae modd iddyn nhw gefnogi ein carfanau Gofal Strydoedd i gadw ein cymunedau’n lân. Mae gyda ni nifer o ganolfannau sbwriel yn Rhondda Cynon Taf sy'n galluogi trigolion i fenthyg pecynnau casglu sbwriel am ddim. Gyda’n gilydd mae modd i ni wneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol a sicrhau eu bod yn cael y Fwrdeistref Sirol yr ydym ni i gyd ei heisiau ac yn ei haeddu.”
Mae gan Rondda Cynon Taf nifer o ganolfannau casglu/codi sbwriel ledled y Fwrdeistref Sirol, lle mae modd i bobl fenthyg cit am ddim a gweithredu yn eu hardaloedd lleol. Mae'r pecyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel, a chylchynnau - sy'n hanfodol ar gyfer cadw'ch bagiau ar agor yn y gwynt. I ddod o hyd i'ch canolfan agosaf, mae modd i chi chwilio am eich lleoliad ar-lein yn https://cadwchgymrundaclus.cymru/caru-cymru/hybiau-picio-sbwriel/. Mae modd i chi hefyd ymuno â grŵp lleol – fel rydyn ni i gyd yn gwybod, llawer o waith a wna llawer o ddwylo! Mae rhagor o fanylion ar-lein yn https://cadwchgymrundaclus.cymru/caru-cymru/grwpiau-cymunedol/.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau mae'r carfanau Gofal y Strydoedd ymroddedig yn eu darparu ewch i www.rctcbc.gov.uk/glanhaustrydoedd.
Wedi ei bostio ar 27/03/2025