Skip to main content

The Workers, Ynys-hir wedi cyrraedd y rhestr fer i dderbyn gwobr genedlaethol

ebike in Ynyshir with  chris williams and gayle rogersrr

Mae e-feic o'r enw Leonora wedi sicrhau bod oriel gelf, stiwdio a gweithfan The Workers, Ynys-hir wedi cyrraedd y rhestr fer i dderbyn gwobr genedlaethol yn Green Growth Awards y DU.

Mae'r lleoliad bach wedi creu argraff fawr wrth arddangos, creu a gwerthu peth o'r gwaith creadigol gorau o Gymru. Cafodd yr oriel ei chgynnwys yn y rownd derfynol gan feirniaid oedd wedi'u plesio gyda'u hymagwedd o ran gyrru twf busnes trwy gynaliadwyedd. Mae gydag Oriel The Workers gyfle nawr i dderbyn y wobr genedlaethol a grant gwerth £5,000 er mwyn helpu â dulliau cynaliadwy pellach.

Mae'r 5.5 miliwn o fusnesau bach yn y DU yn cynrychioli hanner allyriadau busnesau'r DU, sydd wedi arwain at y Green Growth Awards yn cael eu lansio eleni, mewn partneriaeth â B.T, i gydnabod busnesau megis Oriel The Workers am eu hymrwymiad i gynaliadwyedd ac arloesedd gan ffynnu yn yr un modd.

Roedd Oriel The Workers wedi plesio'r beirniaid â'u mentrau oedd yn cynnwys prynu e-feic cargo, sy'n cael ei ddefnyddio gan y perchennog, Dr Gayle Rogers i ddanfon yr eitemau trawiadol sydd wedi'u prynu gan gwsmeriaid o'r oriel yn Ynys-hir - sy'n dasg heriol wrth ystyried tirwedd serth Cwm Rhondda.

Mae'r beic, o'r enw Leonora, ar ôl y Swffragét oedd yn warchodwraig bersonol i Emmaline Pankhurst, yn cael ei ddefnyddio hefyd yn ystod ymweliadau cartref Oriel The Workers, gan fynd ag arddangosfeydd i gartrefi, elusennau, ysgolion, lleoliadau cymunedol neu greadigol a dosbarthu llyfrau.

Cafodd Oriel The Workers ei sefydlu gan Dr Gayle Rogers yn 2014 ac mae'r lleoliad wedi'i ddatblygu yn lleoliad canolog i feddyliau creadigol gwrdd. Yn ogystal ag arddangosfeydd yn arddangos celf, ffotograffiaeth a chrochenwaith, mae gyda'r oriel arddangosfa barhaol "Artistiaid a Dylunwyr Cymru".

Mae gyda nhw hefyd glwb llyfrau, siop lyfrau gymunedol am ddim, man casglu banc bwyd, mannau arddangos ac oriel am ddim, artistiaid ac unigolion creadigol preswyl ac yn cynnal gweithdai ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu:  "Pob hwyl i Oriel The Workers yn y Green Growth Awards ar 11 Mawrth - rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ac rydyn ni mor falch eu bod nhw'n cynrychioli Rhondda Cynon Taf.

"Mae Oriel The Workers yn disgrifio eu hunain yn 'oriel fach ag argraff fawr' ac mae'r e-feic yn ffordd arloesol a chynaliadwy o fynd â gwaith a gwasanaethau anhygoel yr oriel i'r gymuned, gan ysbrydoli creadigedd a sgyrsiau gan helpu i estyn llaw at y rheiny sy'n wynebu unigedd neu'n methu â chael mynediad at ein celf a diwylliant anhygoel.

"Mae'n dda hefyd bod Oriel The Workers hefyd yn amlygu pa mor arloesol mae modd i fusnesau bach fod. Mae gyda ni sawl busnes bach yn Rhondda Cynon Taf ac mae Dr Rogers a'i charfan yn enghraifft gref o beth sy'n gallu cael ei gyflawni."

Meddai Dr Rogers: "Rwy'n canolbwyntio ar rannu gwaith sy'n taro tant â phobl leol - er mwyn eu hysbrydoli nhw i rannu atgofion a straeon. Mae'r ymweliadau arddangosfa cymunedol yn fodd o fynd i'r afael âg unigedd ac yn galluogi'r rheiny sy'n byw yn y gymuned brofi beth sy'n cael ei gynnal yn eu hardal mewn amgylchedd diogel a chyfarwydd.

"Rwy'n ymweld â chartrefi gofal, banciau cynnes a'r rheiny nad ydyn nhw'n gallu gadael eu cartref gyda gwaith celf a ffotograffau, yn ogystal â llyfrau a chatalogau yn ymwneud ag arddangosfeydd. Rwy'n eu harwain drwy'r gwaith ac yn cynnig gweithgareddau megis darlunio neu ludwaith er mwyn helpu pobl i ymateb yn eu ffordd greadigol eu hunain.

"Mae fy ymagwedd eco-gludiant wedi ehangu cyrhaeddiad arddangosfeydd yr oriel yn y gymuned a hoffwn i ddatblygu hynny ymhellach. Mae'r e-feic cargo wedi trawsnewid fy musnes. A minnau yn fy mhumdegau hwyr, roeddwn i eisiau dangos i bobl beth sy'n bosibl gydag e-feic i fusnes bach ac nad yw oed yn rhwystr o ran beicio i'r gwaith.

"Mae pobl wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn fy meic â'r gwaith celf a'r llyfrau rwy'n eu danfon dro i dro, gan sbarduno sgyrsiau am gynaliadwyedd, beicio ac ymarfer corff er lles iechyd meddwl, a theithio."

Mae Richard Morgan yn breswylydd, gyda'i archebion yn cael eu danfon. Meddai:  "Rydyn ni'n byw ar ben uchaf tyle mawr - y Cymoedd ynte! Ond dyw hynny ddim yn rhwystro Gayle a'r e-feic cargo rhag danfon ein harcheb bob mis." 

Peidiwch â methu allan - ewch i ymweld ag Oriel The Workers! I ddysgu rhagor, gweld beth sy' 'mlaen ac i gymryd rhan, ewch i: www.workersgallery.co.uk neu bwriwch olwg ar eu tudalennau YouTube, BlueSky, LinkedIn ac Instagram. 

Small Business Britain

Mae Small Business Britain yn hyrwyddo'r 5.5 miliwn o fusnesau bach yn y DU, gan ddefnyddio ymgyrchoedd, rhwydweithiau, hyfforddiant ac adroddiadau er mwyn sicrhau bod mentergarwch mor gynhwysol â phosibl. Mae'n dod â pherchnogion busnesau bach at ei gilydd er mwyn meithrin twf a magu hyder. I ddysgu rhagor, ewch i: https://smallbusinessbritain.uk/ neu bwriwch olwg ar eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Wedi ei bostio ar 11/03/2025