Bydd modd i drigolion teithio ar fysiau'n rhatach unwaith eto, gyda phob taith sengl sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn costio dim mwy na £1. Bydd y cynnig yma ar gael yn ystod pythefnos gwyliau'r Pasg ym mis Ebrill 2025.
Mae'r fenter yma'n dychwelyd gan ddefnyddio cyllid pwysig gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU a bydd yn dechrau o ddydd Sadwrn, 12 Ebrill hyd at ddydd Sul, 27 Ebrill. Bydd modd manteisio ar y cynnig drwy'r dydd, bob dydd ar fysiau'r holl gwmniau bysiau, ac ar gyfer pob taith sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin y Fwrdeistref Sirol.
Dyma'r chweched tro ers haf 2023 y bydd teithwyr yn Rhondda Cynon Taf yn elwa o gyfnod o deithio ar fysiau yn rhatach. Mae'r rhain wedi cynnwys gwyliau'r haf yn 2024, a dros gyfnod y Nadolig dros y ddwy flynedd ddiwethaf (ar gyfer mis Rhagfyr cyfan yn 2023 a 2024).
Bwriad y fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a Llywodraeth y DU yw mynd i'r afael â rhwystrau economaidd a allai atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i dargedu amseroedd allweddol o'r flwyddyn lle mae teuluoedd yn fwy tebygol o ddefnyddio bysiau, megis cyfnodau'r gwyliau.
Yn ystod cyfnod y cynnig, rhaid i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer. Fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf ddim yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol. Dydy'r fenter ddim yn cyllido unrhyw wasanaethau ychwanegol na'n gwarantu sedd i deithwyr - ac mae amodau pob cwmni yn parhau i fod yn gymwys.
Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: "Dros y pum cyfnod blaenorol rydyn ni wedi gallu cynnig teithio ar fysiau am ddim mwy na £1. Mae'r fenter wedi'i phrofi'n boblogaidd iawn i drigolion lleol. Mae prisiau rhatach yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch ac yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio bysiau ar gyfer teithiau lleol – ac mae hyn yn fudd economaidd i gwmnïau bysiau.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu cyllid sydd ar gael gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU mewn ymateb i Gostau Byw, sy'n parhau i fod yn uchel iawn i deuluoedd. Byddwn ni'n parhau i weithio er mwyn sicrhau bod metrau o'r fath yn mynd rhagddyn nhw – fel y gwnaethon ni dros wyliau'r haf y llynedd, a dros gyfnod y Nadolig yn ystod y ddau fis Rhagfyr diwethaf. Cafodd £1.1 miliwn ei ddyrannu i'r Cyngor yn 2023/24 ac £1.2 miliwn y llynedd i'r perwyl yma, ac mae £1 miliwn ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer 2025/26, sydd wedi ein galluogi i gyflwyno'r cynnig yn ystod gwyliau'r Pasg eleni.
"Rhoddodd cwmnïau bysiau wybod bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau lleol pan gafodd y cynnig ei gyflwyno'n flaenorol. Mae'n parhau i fod yn bwysig i annog trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau bob dydd - gyda llawer o fanteision megis diogelu'r amgylchedd, cydymffurfio ag ymrwymiadau newid hinsawdd, lliniaru tagfeydd traffig, a lleihau amseroedd teithio.
"Mae ein menter dros Wyliau'r Pasg yn weithredol rhwng 12 a 27 Ebrill 2025, ac unwaith eto mae'n cynnwys yr holl deithiau sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin Rhondda Cynon Taf, gyda phob cwmni bysiau, drwy'r dydd bob dydd."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
Wedi ei bostio ar 11/04/2025