Skip to main content

Y diweddaraf ar y gyfran nesaf o fuddsoddiad mawr mewn cyfleusterau ysgol

Ysgol Bro Taf 1

Mae'r Cabinet wedi derbyn newyddion pwysig ar yr ysgolion nesaf a fydd yn elwa o fuddsoddiad mawr mewn cyfleusterau newydd sbon, trwy'r bartneriaeth sefydledig rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae naw prosiect newydd cyffrous wedi'u cymeradwyo mewn egwyddor a'u clustnodi i'w cyflawni yn y blynyddoedd i ddod.

Mae llawer o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion gwerth miliynau o bunnoedd wedi’u cyflawni ar draws cymunedau Rhondda Cynon Taf dros y ddegawd ddiwethaf a mwy, drwy Fand A a Band B y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (yr enw gynt oedd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif). Dysgwch ragor am brosiectau wedi'u cwblhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar wefan y Cyngor.

Mae nifer o brosiectau pwysig wedi’u cyflawni’n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol – gan gynnwys buddsoddiad o £79.9miliwn ar draws Beddau, Rhydfelen, y Ddraenen-wen a Chilfynydd, ac adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Penygawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn.

Fe wnaeth adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher, 19 Mawrth roi manylion am y rownd nesaf o brosiectau buddsoddi yn y rhaglen gyfalaf. Roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol o gynigion y llynedd, ac mae’r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi derbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru mewn egwyddor – sy’n cynrychioli ymrwymiad ariannol o £414miliwn dros chwe blynedd.

Mae’r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo o'r system bandiau sefydlog o gyflawni i raglen dreigl a fydd yn cael ei chyflawni dros gyfanswm o naw mlynedd. Yn rhan o hyn, disgwylir i nifer o brosiectau yng 'nghyfran un' gyrraedd y cam achos busnes llawn o fewn tair blynedd. Mae gwaith dylunio a datblygu wedi mynd rhagddo ar y prosiectau pwysig canlynol:

  • Bydd adeilad newydd sbon yn cael ei adeiladu ar gyfer Ysgol Cwm Rhondda ar safle presennol yr ysgol. Mae staff proffesiynol wedi'u penodi yn rhan o'r broses dendro, a bydd prif bartner adeiladu'n cael ei benodi maes o law.
  • Bydd adeilad newydd sbon yn cael ei adeiladu ar gyfer Ysgol Llanhari, ar safle presennol yr ysgol. Mae gwerthusiad dichonoldeb ac opsiynau wedi'i gwblhau.
  • Bydd Ysgol Gynradd Dolau yn ehangu a bydd Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn cael ei hadeiladu gerllaw. Y disgwyl yw byddcynnydd yn y galw yn sgil datblygiad tai Llanilid yn y dyfodol.Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r newidiadau gofynnol o ran trefniadaeth ysgolion yn ddiweddar ar gyfer y datblygiad yma.
  • Bydd Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yn cael ei hadeiladu ar safle hen bencadlys y Cyngor yng Nghwm Clydach. Bydd hyn yn creu capasiti ADY ychwanegol ac yn lleihau'r pwysau ar y pedair ysgol bresennol. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi yn ddiweddar a bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn fuan iawn.
  • Bydd bloc newydd ar gyfer safle lloeren Ysgol Tŷ Coch, Buarth y Capel, er mwyn ehangu'r ddarpariaeth a'r capasiti ADY arbenigol presennol. Mae gwaith adeiladu i gyflawni’r buddsoddiad yma wedi’i gynllunio i ddechrau yn ddiweddarach yn 2025.
  • Bydd bloc chweched newydd yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Aberdâr, yn lle’r safle dros dro, sydd mewn cyflwr gwael. Y bwriad yw dechrau gwaith ar y safle yn ddiweddarach yn 2025.
  • Bydd adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-rhys yn lle'r adeiladau presennol sydd o ansawdd gwael. Bydd yn cael ei adeiladu ar safle presennol yr ysgol. Mae gwerthusiad dichonoldeb ac opsiynau wedi'i gwblhau.
  • Bydd Ysgol Gynradd Abernant yn cael estyniad yn dilyn y twf yn nifer y disgyblion o ganlyniad i'r datblygiad tai newydd ar safle'r hen ysbyty. Bydd gwerthusiad opsiynau yn dechrau yn ddiweddarach yn 2025.

Yn ogystal, bydd cymuned Glyn-coch yn derbyn ysgol gynradd a chanolfan gymunedol arloesol, a fydd yn cynnwys disgyblion o Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg erbyn 2026. Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau’n fuan iawn. Y prosiect cyffrous yma yw un o dri chynnig llwyddiannus yng Nghymru i dderbyn cyllid sylweddol gan Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae’n newyddion gwych bod y Cyngor wedi sicrhau ymrwymiad cyllid mewn egwyddor o £414miliwn gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu mwy o gyfleusterau addysg o’r radd flaenaf mewn hyd yn oed mwy o’n cymunedau dros y chwe blynedd nesaf. Mae buddsoddiad o’r fath yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n pobl ifainc bob dydd, yn ogystal â’u cymunedau ehangach – ac mae gan ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru hanes rhagorol sy’n ymestyn yn ôl i’n prosiectau Ysgolion yr ‘21ain Ganrif' cyntaf yn 2011.

“Mae'r naw prosiect 'cyfran un' cyffrous wedi'u nodi yn adroddiad y Cabinet ddydd Mercher yn y cam cynllunio a datblygu cychwynnol, ac yn symud ymlaen tuag at gael eu cyflawni. Y bwriad yw bydd llawer ohonyn nhw'n dechrau cael eu hadeiladu yn 2025. Mae’n arwydd o'n hymrwymiad i gyflwyno ysgolion newydd sbon yn y Cymer, Pen-rhys, Llanhari, Cwm Clydach, Glyn-coch, ac yn natblygiad tai Llanilid – ynghyd â chyfleusterau newydd ar gyfer ysgolion yn Aber-nant, Aberdâr ac Ynys-y-bwl. 

“Bydd y prosiectau yma'n parhau i gefnogi ein nodau Newid yn yr Hinsawdd, gyda'n holl adeiladau newydd yn anelu at gyflawni 'Net Sero' Carbon ar Waith. Mae’r ymrwymiadau hefyd yn tynnu sylw at ein hymdrechion parhaus tuag at gyflawni deilliannau ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a chyfrannu at fenter ‘Cymraeg 2050’ – wrth i ni gynllunio buddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari a thrwy agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer cymuned Llanilid.

“Ddydd Mercher, cytunodd y Cabinet y bydd swyddogion yn cyflwyno adroddiadau pellach i'r Aelodau eu trafod wrth i bob un o'r prosiectau 'cyfran un' fynd rhagddyn nhw yn y misoedd i ddod. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bydd gwaith datblygu cynnar ar brosiectau pellach sydd wedi’u cynllunio ar gyfer ‘cyfran dau’ yn cael ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf – wrth i ni gynllunio hyd yn oed mwy o fuddsoddiadau mewn ysgolion ar gyfer y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 28/03/2025