
Aberpennar (A4059)
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cwblhau cynlluniau Ffyrdd Cydnerth wedi'u targedu ar ddau lwybr cymudo allweddol – yr A4059 yn Aberpennar a'r A4058 ym mhentref Dinas – sydd wedi'u cynllunio i leihau perygl llifogydd ar y priffyrdd yn ystod cyfnodau o law trwm.
Cwblhawyd y cynlluniau yn gynt na'r disgwyl yn ystod wythnosau cynnar mis Mawrth 2025, ar ôl i'r ddau dderbyn cyfraniad o 90% o Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru – gyda'r cyllid sy'n weddill yn dod o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor ar gyfer 2024/25. Cwblhawyd y gwaith yn bennaf wrth gynnal llif traffig i’r ddau gyfeiriad, gyda goleuadau traffig yn cael eu defnyddio y tu allan i gyfnodau teithio prysur i gynnal gwaith angenrheidiol ar y ffordd.
Mae cynllun yr A4059 yn Aberpennar, a ddechreuodd ganol mis Ionawr 2025, yn cynrychioli cam dau o’r gwaith arfaethedig – ac mae wedi cynnwys gosod cwlfer newydd a thyllau archwilio cysylltiedig. Mae wedi targedu mater penodol o ddŵr glaw yn llifo oddi ar y mynydd ac yn cronni ar y briffordd. Bydd y cwlfer newydd yn cyfeirio dŵr glaw i'r pant presennol, sydd gyferbyn â'r ffordd.
Nod cynllun Dinas, a ddechreuodd yn gynnar ym mis Chwefror 2025, yw mynd i’r afael â chroniadau dŵr wyneb lle mae’r A4058 Heol y Cymer yn cwrdd ag Heol y Goeden Afalau, yn dilyn sawl achos o lifogydd a effeithiodd ar 11 eiddo ers 2012. Mae gylïau ychwanegol wedi'u gosod i ddargyfeirio draeniau’r briffordd trwy bibell gludo newydd i lawr Heol y Goeden Afalau, gan gysylltu â phibell gludo ar wahân a gollwng i'r afon. Mae perygl llifogydd hefyd wedi’i leihau i garthffos gyfunol Dŵr Cymru gerllaw, ar ôl datgysylltu draeniau’r briffordd ar hyd yr A4058.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r cynlluniau Ffyrdd Cydnerth pwysig yma yn Aberpennar a Dinas wedi’u cwblhau yn gynt na’r disgwyl, a’u nod yw dargyfeirio glaw oddi ar y briffordd yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae pob cynllun yn mynd i’r afael â phroblemau hysbys o ddŵr yn cronni ar y ffordd gerbydau, mewn lleoliadau allweddol ar ddau o’n llwybrau cymudo prysuraf, ac rydyn ni wedi croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru tuag at eu cwblhau.
“Mae’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth yn un o’r ffynonellau ariannu sydd ar gael i’r Cyngor gyflawni gwaith lliniaru llifogydd lleol, ac mae’n ein galluogi ni i dargedu lleoliadau allweddol ar y rhwydwaith priffyrdd sydd â hanes o lifogydd. Er y bydd llawer o gynlluniau 2024/25 wedi'u cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025, mae'r Cyngor wedi gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer 18 cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach ym mlwyddyn ariannol 2025/26, sydd gyda'i gilydd yn werth £3.1 miliwn.
“Roedd Storm Bert ym mis Tachwedd 2024 yn atgof arall bod stormydd yn digwydd yn fwy aml oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn cynlluniau lliniaru llifogydd ers 2020, i helpu i ddiogelu cartrefi, busnesau ac isadeiledd lleol. Yn sgil Storm Bert, mae’n amlwg bod y gwaith rydyn ni wedi’i wneud hyd yma wedi bod yn effeithiol ar y cyfan, ond rydyn ni hefyd yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf.
“Ochr yn ochr â’n Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd 2025/26 a cheisiadau grant trwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth, rydyn ni wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru i ddatblygu ymhellach 15 o gynlluniau lliniaru llifogydd ar raddfa fwy ac 13 o gynlluniau ar raddfa fach. Os bydd ein holl geisiadau’n llwyddiannus, bydd yn cynrychioli cyllid pellach gwerth £6.1 miliwn.
“Diolch i drigolion lleol a defnyddwyr ffyrdd Aberpennar a Dinas am eu cydweithrediad yn ystod y cynlluniau Ffyrdd Cydnerth a gwblhawyd yn ddiweddar – a hynny hefyd heb fod angen mesurau rheoli traffig sylweddol.”
Wedi ei bostio ar 20/03/2025