Skip to main content

Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd 2025: Cryfhau Undod Rhwng Cenedlaethau ar gyfer Llesiant Parhaus

Welsh

I anrhydeddu Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd, sy'n cael ei dathlu rhwng 17 a 23 Mawrth, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod ac yn dathlu gwaith caled ac ymrwymiad ein gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ymroddedig. Eleni, bydd y Cyngor hefyd yn arsylwi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, sy'n digwydd ddydd Mawrth, 18 Mawrth.

Mae’r thema ar gyfer 2025, ‘Cryfhau Undod Rhwng Cenedlaethau ar gyfer Llesiant Parhaus,’ yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae parchu a gofalu am bobl o bob oed yn ei chwarae wrth wella lles unigolion a chymunedol. Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n credu bod meithrin cysylltiadau ar draws cenedlaethau yn hanfodol ar gyfer creu cymdeithas iachach a mwy cydnerth.

Meddai Joachim Mumba, Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW): “Mae’r thema yma'n tynnu sylw at rôl hanfodol gofal rhwng cenedlaethau, parch, a chydweithio wrth greu cymunedau cydnerth ac amgylcheddau cynaliadwy. Mae'n tynnu sylw at ymroddiad y proffesiwn gwaith cymdeithasol i feithrin cysylltiadau sy'n gwerthfawrogi doethineb ein henuriaid tra'n grymuso cenedlaethau iau i fynd i'r afael â heriau heddiw a rhagweld dyfodol gwell. Gyda’n gilydd, mae modd i ni adeiladu byd lle mae tosturi ac undod yn gosod y sylfaen ar gyfer llesiant parhaol i bawb.”

Mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn chwarae rhan sylfaenol yn ein cymdeithas, gan wella bywydau llawer o bobl. Yn y DU, mae dros 1.84 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi mewn gofal cymdeithasol, gyda mwy nag 88,000 yng Nghymru yn unig. Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud mwy na darparu gofal, maen nhw'n helpu i feithrin cydnerthedd a gobaith, gan rymuso unigolion i fyw gydag urddas, diogelwch, ac ymdeimlad o gymuned.

I gydnabod yr ymroddiad yma, bydd y Cyngor yn rhannu astudiaethau achos ysbrydoledig a straeon llwyddiant gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant. Bydd y straeon yma'n arddangos y ffyrdd amrywiol y mae ein gweithwyr yn gwneud gwahaniaeth, o gefnogi teuluoedd a phobl ifanc i ofalu am yr henoed. Bob dydd, maen nhw'n parhau i gryfhau lles ein cymuned.

Meddai Neil Elliott, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Nid thema yn unig yw undod rhwng cenedlaethau; mae'n alwad i weithredu. Mae'n ymwneud â chydnabod cyd-ddibyniaeth pob cenhedlaeth a meithrin amgylcheddau lle mae gwybodaeth, gofal a pharch yn cael eu rhannu ar draws pob grŵp oedran.

“Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cael gweithlu gofal cymdeithasol ymroddedig ac angerddol. Er gwaethaf yr anawsterau presennol sy’n wynebu’r sector, mae ein haelodau o staff yn parhau i weithio’n galed bob dydd i wneud gwahaniaeth.

“Rwy'n hynod falch o'n gweithwyr yn y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant. Hoffwn achub ar y cyfle yma i ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu hymdrechion diflino a’u hymrwymiad diwyro i gael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl.”

Mae'r sector gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu anawsterau oherwydd yr angen a'r galw cynyddol am ei wasanaethau. Er gwaethaf hyn, mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn parhau i ddangos cydnerthedd ac ymrwymiad i'w gwaith. Yn eu harolwg 'Dweud Eich Dweud' 2024, cafodd Gofal Cymdeithasol Cymru 5,024 o ymatebion gan weithwyr gofal cymdeithasol (cynnydd o bron i 2,000 ers 2023). Datgelodd yr arolwg sawl mewnwelediad allweddol:

  • Mae 80% yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr a'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi, tra bod 70% yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwyr.
  • Mae 51% yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd, cynnydd o 48% yn 2023.
  • Mae 77% yn adrodd morâl da er gwaethaf heriau.
  • Mae 87% yn teimlo eu bod nhw'n cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith.

Mae’r ffigurau yma'n tynnu sylw at bwysigrwydd dathlu a chefnogi gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, sydd, er yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae mentrau megis Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd yn rhoi cyfle i gydnabod eu cyfraniadau parhaus. 

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth bontio’r bwlch rhwng cenedlaethau. Mae eu gwaith yn meithrin cysylltiadau rhwng cenedlaethau yn amhrisiadwy ar gyfer creu cymdeithas fwy tosturiol a chydnerth.

“Yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd, hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un o'n gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol ymroddedig. Mae eich ymroddiad i gael effaith gadarnhaol bob dydd yn ysbrydoledig.

“P’un a ydych chi’n helpu rhiant i gadw mewn cysylltiad â’u plant, yn helpu pobl ifainc, neu’n gofalu am yr henoed, mae eich ymdrechion nid yn unig yn trawsnewid bywydau, ond yn helpu i adeiladu cymdeithas gryfach i bawb. Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd hapus a diolch am eich ymrwymiad parhaus i wella bywydau.”

Caiff Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd ei ddathlu'n flynyddol ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Mawrth, gan dynnu sylw at gyflawniadau a gwaith amhrisiadwy gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a hyrwyddo cyfraniadau'r proffesiwn i unigolion, teuluoedd, cymunedau a'r gymdeithas ehangach. Darganfyddwch hanes Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd ar wefan IFSW.

Mae thema eleni, 'Cryfhau Undod Rhwng Cenedlaethau ar gyfer Llesiant Parhaus,' yn adeiladu ar themâu blaenorol Ubuntu a Buen Vivir. Mae'n pwysleisio cyd-ddibyniaeth hollbwysig pobl, yn canolbwyntio ar roi gofal rhwng cenedlaethau, ac yn amlygu bod gofal yn gyfrifoldeb i bawb, nid yn unig yn faes gwaith i fenywod. Mae'r thema hefyd yn mynd i'r afael â heriau economaidd ac amgylcheddol, gan gydnabod pwysigrwydd grymuso cenedlaethau iau i ddod o hyd i atebion newydd i heriau heddiw.

I gael gwybod rhagor am thema eleni, ewch i: https://www.ifsw.org/social-work-action/world-social-work-day/world-social-work-day-2025/

Fel arall, ewch i: https://basw.co.uk/about-social-work/what-social-work/world-social-work-month-2025#wswd24

#DiwrnodGwaithCymdeithasolyByd #UndodRhwngCenedlaethau #MaeGwaithCymdeithasolynBwysig

Wedi ei bostio ar 17/03/2025