Skip to main content

Ysgol Bro Taf yn agor ei drysau i amgylchedd dysgu newydd bywiog

Bro Taf col

Mynychodd y Cynghorydd Rhys Lewis,Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg, Ysgol Bro Taf yng Nghilfynydd ddydd Iau 20 Mawrth, i agor yr ysgol yn ffurfiol a chwrdd â'r disgyblion a'r staff sydd yn ffynnu yn eu hamgylchedd dysgu newydd.

Cafodd yr ysgol 3-16 oed newydd sbon yng Nghilfynydd ei chyflawni cyn blwyddyn academaidd 2024/25 ac agorodd ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf ym mis Medi 2024. Cafodd ei chyflawni yn rhan o fuddsoddiad gwerth £79.9m mewn cyfleusterau Addysg, a gafodd ei ddarparu ar y cyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, fel un o bedwar prosiect mawr ledled ardal Pontypridd.

Mae'r ysgol newydd wedi'i hadeiladu ar safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd. Croesawodd Ysgol Bro Taf ddisgyblion presennol yr ysgol uwchradd yn ogystal â disgyblion a fyddai wedi mynychu Ysgol Gynradd Cilfynydd yn flaenorol. Mae gyda'r ysgol pob oed newydd i ddisgyblion 3-16 oed le ar gyfer 1,200 o ddisgyblion gan gynnwys disgyblion y dosbarth meithrin.

Mae'r datblygiad wedi darparu ardal newydd sbon ar gyfer disgyblion cynradd, sy'n cynnwys cyfleusterau dosbarth modern sydd yn rhai carbon sero net.

Yn rhan o'r gwaith adnewyddu ac ailwampio mewnol sylweddol, mae disgyblion uwchradd wedi elwa hefyd ar gyfleusterau gwell, gan gynnwys ystafelloedd gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg, technoleg bwyd, celf, drama, cerddoriaeth a ThGCh newydd, yn ogystal ag ystafelloedd addysgu newydd, ardaloedd ategol a llyfrgell.

Mae'r gwaith allanol wedi cynnwys ailfodelu'r maes parcio, gosod mannau gwefru cerbydau trydan, darparu cilfachau ar gyfer 12 bws a sefydlu man gollwng newydd.  Derbyniodd yr ysgol gae chwaraeon 3G sy'n addas ym mhob tywydd ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd.  Bydd modd i'r ysgol a'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau chwaraeon gwell.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg:  "Mae'n wych bod yn rhan o agoriad ffurfiol cyfleusterau dysgu newydd gwych Ysgol Bro Taf.

“Fel pob un o'n datblygiadau ysgol newydd, rydyn ni wedi anelu at gyflawni Carbon Sero Net yn Ysgol Bro Taf yn rhan o’n nodau ac ymrwymiadau Newid Hinsawdd. Mae'r cyfleusterau newydd yn edrych yn wych, maen nhw'n haeddiannol ac yn ganlyniad llawer o waith caled.

"Mae'r prosiect wedi cael ei ddarparu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn rhan o raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy gwerth £79.9m – gan fuddsoddi yn ein hysgolion a sefydlu hybiau lleol ar gyfer y dyfodol. Mae'r disgyblion a'r staff wedi ymgartrefu'n dda ac mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o'r agoriad ffurfiol."

Wedi ei bostio ar 24/03/2025