Skip to main content

Menyw yn cael DIRWY O £1500 oherwydd bod ei Chŵn yn Cyfarth yn Ddi-baid.

Mae menyw o Gwm Rhondda, a chanddi gŵn oedd yn cyfarth yn ddibaid gan achosi poendod mawr i'w chymdogion, wedi cael dirwy o £1500. Fe gafodd y ddirwy am barhau i anwybyddu rhybuddion oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol iddi dawelu a rheoli'r sŵn cyfarth, ac am dorri telerau Hysbysiad Atal.

Caniataodd Miss Keira March, o'r Porth i'w chŵn gyfarth yn ddibaid, gan achosi gofid i'w chymdogion. Fe gysylltodd y cymdogion â charfan Iechyd Amgylcheddol Cyngor Rhondda Cynon Taf a chael gwybod bod gofyn iddyn nhw wneud recordiadau o'r problemau sŵn gan ddefnyddio'r ap Noise.

Mae Deddf Amddiffyn Amgylcheddol 1990 yn darparu ar gyfer niwsans o ran sŵn a chyn y gall camau gweithredu gael eu cymryd, rhaid i'r Cyngor gadarnhau bod niwsans statudol yn bodoli. Ystyr hyn yw bod y sŵn yn niweidiol i iechyd ac/neu yn achosi amhariad afresymol neu barhaus o ran effeithio'n wirioneddol ar allu person i fwynhau ei eiddo ei hun.

Yn dilyn cael nifer o recordiadau sain gan bobl oedd yn gwneud cwynion, y canlyniad oedd bod gofyn archwilio ymhellach i'r mater.

Pan aeth Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor i eiddo'r sawl oedd yn gwneud y cwynion, roedd modd iddyn nhw glywed y cyfarth di-baid drostyn nhw'u hunain yn uniongyrchol, ac roedd modd iddyn nhw ddatgan bod niwsans sŵn statudol yn bodoli. Yn sgil hyn, cafodd Miss Marsh Rybudd Atal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae gormod o sŵn gan gymdogion yn gallu bod yn fater o rwystredigaeth. Mae hefyd yn gallu peri llawer o straen a phoendod cwbl diangen. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn cadw sŵn dydyn nhw ddim yn sylweddoli’u bod yn creu problem; felly mae modd i'r broblem gael ei datrys yn weddol rwydd drwy ddulliau answyddogol.

Os bydd y dull yma o fynd ati’n methu, mae hawl gyda Swyddog Iechyd Galwedigaethol gyflwyno hysbysiad cyfreithiol i’r sawl sy’n creu’r sŵn at ddibenion atal y sŵn hwnnw. Os na fydd y sawl sy’n cael yr hysbysiad atal yn cydymffurfio ag ef, mae modd inni gymryd camau cyfreithiol.

Yn dilyn cael Rhybudd Atal, fe anwybyddodd Miss Marsh y ceisiadau parhaus gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor oedd yn gofyn iddi fynd i'r afael â'r mater, ac fe fethodd â mynychu sesiynau cyfweld yn Swyddfeydd y Cyngor.

Dros gyfnod o 3 mis, daeth cyfanswm o 255 recordiad ar yr ap Noise App i law gan y sawl oedd yn gwneud y cwynion.

Roedd modd clywed o'r dystiolaeth bod y cŵn yn cael cyfarth am gyfnodau maith o amser a bod telerau'r Rhybudd Atal wedi cael eu torri.

Cafodd achos erlyn ei baratoi, a'i gyflwyno yn Llys Ynadon Merthyr Tudful. Methodd Miss Marsh ag ymddangos yn y gwrandawiad Llys, a chafodd ei chanfod yn euog, yn ei habsenoldeb o dorri telerau'r rhybudd atal ar chwe adeg wahanol, gan fynd yn erbyn adran 80(4) o Ddeddf Amddiffyn Amgylcheddol 1990.

Cafodd DIRWY o £300 ei chyflwyno i Miss Marsh, Costau o £1115.27 a Gordal Dioddefwr o £120 - cyfanswm o £1535.27.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

Mae Carfan Iechyd Amgylcheddol y Cyngor yn archwilio i gwynion ynghylch sŵn. Pan fydd Swyddogion, yn sgil ystyried y dystiolaeth, wedi pennu bod niwsans statudol yn bodoli, rydyn ni'n ceisio gweithio mewn modd cadarnhaol bob amser gyda'r sawl sy'n destun achos y cwyn gan gynnig arweiniad ar sut i fynd i'r afael â'r mater.

"Yn yr achos yma, cafodd ymdrechion y Cyngor i ganfod ateb i'r broblem eu hanwybyddu'n barhaus gan adael Swyddogion heb unrhyw opsiwn ond erlyn."

Dyw cyfarth o dro i dro ddim yn broblem i gymdogion ac eraill yn y gymuned fel rheol, ond pan fydd cyfarth yn ddi-ben-draw, mae'n cael ei ystyried yn annerbyniol yn aml a gall wirioneddol effeithio ar y modd mae person yn defnyddio'i eiddo. Mae'n bosib hefyd nad yw llesiant y ci yn cael ei warchod chwaith. Serch hynny mae'n bosib nad yw'r perchennog yn effro i'r ffaith bod y ci yn cyfarth gan nad ydyn nhw'n bresennol ar yr adeg dan sylw.

Os oes gennych chi bryderon ynghylch ci sy'n cyfarth yn ddi-ben-draw, mae pethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Siaradwch â'r perchennog. Efallai nad ydyn nhw'n effro i'r broblem.
  • Os nad yw siarad â'r cymydog wedi gweithio, neu os nad ydi hyn yn opsiwn, yna mae modd i chi gysylltu â'r Cyngor ynghylch y cwyn sŵn.

Mae gan y RSPCA gyngor allweddol ar sut i atal eich ci rhag cyfarth, yma - https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/pets/dogs/behaviour/barking.

Gall trigolion wneud cwyn ynghylch niwsans sŵn ar wefan y Cyngor -https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/PollutionControl/Noisepollution.aspx.

Wedi ei bostio ar 22/05/2025