Skip to main content

Pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn siarad am y perthnasoedd â'u rhieni maeth wnaeth newid eu bywydau

Foster Care Fortnight 2025 Welsh

Mae pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn siarad am y perthnasoedd ystyrlon wnaethon nhw eu datblygu trwy'r gymuned faethu wnaeth newid eu bywydau er gwell.

Bydd Pythefnos Gofal Maeth, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, rhwng 12 Mai a 25 Mai eleni, yn dathlu pŵer perthnasoedd.

Boed hyn y berthynas agos rhwng rhiant maeth a phlentyn, y berthynas sy'n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu'r cyfeillgarwch sydd wedi'i feithrin â rhieni maeth eraill mewn cymuned, perthnasoedd cryf yw'r llinyn arian mewn straeon maethu.

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant â phrofiad o dderbyn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn ceisio recriwtio 800 o rieni maeth ychwanegol erbyn 2026.

Rhannodd Ruby ei stori am y berthynas barhaol mae hi wedi'i chreu o ganlyniad i gael ei maethu gan Tracy a Lee trwy Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf. Un o'r pethau sy'n sefyll allan i Ruby yw'r berthynas rhwng ei mam a'i mam faeth a'r effaith gadarnhaol mae hyn wedi'i chael arni:

"Rydw i wrth fy modd bod fy mam a fy rhiant maeth yn cyd-dynnu mor dda, mae'n golygu ein bod ni'n gwneud pethau hyfryd gyda'n gilydd yn ystod fy amser teulu, gan olygu nad ydw i'n gorfod mynd i’r ganolfan gyswllt i'w gweld".

Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, Annabel Lloyd: "Rwy'n edrych ymlaen at Bythefnos Gofal Maeth bob blwyddyn am fod yr ymgyrch yn rhoi cyfle i mi ddiolch yn bersonol i'n holl rieni maeth. Eleni, rwy'n falch ein bod ni wedi bod yn cynnwys rhai o'r plant sydd yn ein gofal er mwyn dysgu rhagor am y profiadau cadarnhaol maen nhw wedi'u cael wrth gael eu maethu. Mae plant wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud, ac mae'n bwysig iawn i wrando arnyn nhw yn rheolaidd am eu profiadau mewn gofal maeth.

"Rwy'n falch o glywed am y perthnasoedd gwych mae plant a rhieni maeth wedi'u datblygu trwy Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau cryf gyda'u gweithwyr cymdeithasol, athrawon, ffrindiau a theulu. Rwy'n falch iawn o'r pethau mae modd i ni eu cyflawni pan rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd yn garfan gan ganolbwyntio ar greu deilliannau cadarnhaol ar gyfer plant".

Dewch i gwrdd â'ch carfan Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf lleol yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni wyneb yn wyneb yn Parkrun Aberdâr ar 17 Mai, yng Ngŵyl Aberdâr ddydd Sadwrn, 24 Mai neu ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein sesiwn wybodaeth nesaf ddydd Mercher 21 Mai rhwng 7pm ac 8pm. Ewch i'n gwefan am ragor o fanylion.

Wedi ei bostio ar 12/05/2025