Skip to main content

Wythnos Gweithredu Dros Dementia 2025: Troi Ponty Yn Las

turning ponty blue wel

Bydd Pontypridd yn troi'n las unwaith eto yn ystod mis Mai wrth i Gyngor Rhondda Cynon Taf cydweithio â sefydliadau a grwpiau cymunedol i ddathlu Wythnos Gweithredu Dros Dementia 2025. O 19 i 25 Mai, bydd amrywiaeth o achlysuron a gweithgareddau sy'n dementia-gyfeillgar yn cael eu cynnal yn yr ardal, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diagnosis cynnar a sicrhau bod unigolion sy'n byw gyda dementia, gan gynnwys eu hanwyliaid, yn cael eu cefnogi.

Mae dementia yn gyflwr cynyddol sy'n cael ei achosi gan wahanol afiechydon sy'n niweidio'r ymennydd yn gorfforol, gan arwain at anghofio pethau, dryswch, problemau o ran iaith a dealltwriaeth, a newidiadau o ran ymddygiad. Mae nifer o fathau gwahanol o dementia, ond Clefyd Alzheimer yw’r clefyd mwyaf cyffredin.

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, bydd 1 o bob 3 o bobl sy'n cael ei eni yn y Deyrnas Unedig heddiw yn cael diagnosis o dementia yn ystod eu bywydau. Mae’n hollbwysig bod unigolion yn cael diagnosis cynnar, mae 91% o'r rhai sy'n cael eu heffeithio yn dweud bod diagnosis wedi'u helpu nhw i gael mynediad at ofal, triniaeth, a chymorth hanfodol.

I ddathlu'r wythnos, bydd adeiladau ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu goleuo'n las, a bydd rhubannau a baneri glas yn cael eu gosod yn ein cymunedau, i ddangos undod ac annog y gymuned i weithredu. Bydd sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol hefyd yn cynnal rhaglen amrywiol o achlysuron dementia-gyfeillgar , gan gynnwys sesiynau crefft, sesiynau sinema, stondinau gwybodaeth dros dro, a hyd yn oed disco ar thema’r 70au.

Yn ogystal â'r uchod, bydd Cymdeithas Alzheimer, ynghyd â grwpiau lleol, yn darparu gwybodaeth allweddol a chyngor yn ymwneud ag adnabod symptomau a cheisio diagnosis. Os ydych chi’n pryderi am dementia, dyma'ch annog chi i wirio’ch symptomau gan ddefnyddio rhestr wirio symptomau ar-lein y Gymdeithas Alzheimer: http://www.alzheimers.org.uk/form/checklist-for-dementia-symptoms.

Mae modd ffonio Dementia Connect Rhondda Cynon Taf ar 0330 094 7400 (dyma rif ffon y llinell gymorth Gymraeg), neu e-bostio:  DementiaSupportLine@alzheimers.org.uk.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Dementia Connect Rhondda Cynon Taf | Cymdeithas Alzheimer

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn: "Dementia yw un o heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf difrifol ein hoes ni, mae’n effeithio ar y rhai sydd â diagnosis ac ar eu teuluoedd. Gall dementia fod yn gyflwr llethol  sy'n gwneud i ddioddefwyr teimlo'n unig, ond mae cael diagnosis cynnar yn gwneud gwahaniaeth mawr.

"Yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Dementia eleni, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd â’n partneriaid gwych yn y gymuned, yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a rhoi cymorth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan dementia. Byddwn ni’n goleuo’n hadeiladau yn las, rydyn ni’n dymunoanfon neges glir, ddylai neb wynebu dementia ar ei ben ei hunan.

"Trwy barhau i weithio gyda'n gilydd, bydd modd i ni sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn gymuned sy’n deall dementia lle mae pobl yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw."

Manylion yr Achlysur:

Dydd Llun, 19 Mai

  • Sesiwn Creative Company, 10.30am – 12pm.  Dyma sesiwn sy’n canolbwyntio ar gelf a chrefft, wedi'i chynnal gan Growing Space, Pontypridd yng Nghapel y Deml,Y Graig (£4 y sesiwn)

Dydd Mawrth, 20 Mai

  • Achlysur Lansio: Ffrindiau yn y Gymuned, 10 – 12pm. Dyma fenter gymunedol newydd sy'n cael ei chynnal bob mis ac sy’n agored i bawb. Bydd Amgueddfa Pontypridd yn cynnal y sesiynau yma lle bydd modd i'r rheiny sydd â dementia gwrdd â phobl eraill o'r gymuned yng nghwmni eu teuluoedd. Bydd yr achlysur lansio yn cynnwys gweithgareddau cerddoriaeth wedi'u cynnal gan 'Pashy Pops'.
  • Achlysur Gwybodaeth a Gweithgareddau Dementia, 10am – 3pm, Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg, Pentre'r Eglwys. Sesiwn wybodaeth gyda stondinau sy’n cael ei chynnal gan grwpiau lleol a phartneriaid trydydd sector i roi cyfle i unigolion ddysgu rhagor am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
  • Achlysur Galw Heibio Gwybodaeth Dementia, 10am – 12pm, Campws Glyn-taff, Prifysgol De Cymru. Sesiwn wybodaeth a sesiwn 'Bitesize' i hyrwyddo menter Cyfeillion Dementia.

Dydd Mercher, 21 Mai

  • Bore Coffi, 10am – 12pm Yn cael ei gynnal yn y cynllun Tai Gwarchod gan y darparwr tai - Aelwyd, Plas Carmel, Pontypridd.
  • Sesiwn sinema hamddenol: "Summer Holiday", yn dechrau am 11am. Y Muni, Pontypridd (£4 y sesiwn).
  • Achlysur Gwybodaeth am faterion Dementia a gweithgareddau, 10am – 1pm.  Croeso a Pherfformiad gan gôr Ysgol Gynradd Maes y Coed, ac yna gwybodaeth gan bartneriaid o’r gymuned leol a'r trydydd sector sy’n rhoi cyfle i unigolion ddysgu rhagor am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Llyfrgell Pontypridd.
  • Dathliad pontio’r cenedlaethau ar thema ‘glas’, cerddoriaeth fyw a pherfformiad gan gôr Tenovus, 11am – 3pm, YMa, Pontypridd. 
  • Sesiwn Grŵp Effro Carer Connect, 10:30am – 12pm. Grŵp i gynhalwyr sy'n darparu cymorth i gymheiriaid a gweithgareddau gan gynnwys y rheiny sydd â diagnosis, YMa, Pontypridd.
  • Cerdded a chyd-ganu, taith wedi'i harwain gan Trivallis - yn dechrau am 12:30pm yn adeilad Trivallis, gan gcerdded i Farchnad Pontypridd (12:45pm), Llyfrgell Pontypridd (1:00pm) ac yna YMa  (2:00pm)

Dydd Iau, 22 Mai

  • Disgo'r 70au wedi'i gynnal gan y Garfan Asesu Cof, 10am – 2pm. Disgo yn chwarae cerddoriaeth o'r 70au ynghyd â chefnogaeth, gwybodaeth a chyngor gan Calon Taf, Parc Coffa Ynysangharad.
  • Celf yn y Parc wedi'i gynnal gan Growing Space Pontypridd – 10:30-12:00 Caffi’r Lido. Sesiwn gelf ddwyieithog yn seiliedig ar natur. £4 y sesiwn.
  • Taith Gofio, 12.30pm – 1pm. Taith gofio ym Mharc Coffa Ynysangharad gydag Aled o Ganolfan Calon Taf.
  • Sesiwn Sinema Dementia-gyfeillgar: "Chitty Chitty Bang Bang", yn dechrau am 11am. Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg, Pentre'r Eglwys

Dydd Gwener, 23 Mai

  • Breathing Space, 10am – 11.30am. Sesiwn Celf a Chrefft wedi'i chynnal gan Growing Space Pontypridd, Ystafell y Gymuned, Amgueddfa Pontypridd.
Wedi ei bostio ar 16/05/2025