Skip to main content

Agoriad Ffurfiol Ysgol Llyn y Forwyn

Llyf opening

Mynychodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, Ysgol Llyn y Forwyn ar ddydd Iau, 15 Mai, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle. Mae'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nglynrhedynog wedi derbyn adeilad newydd sbon ar safle newydd, yn  rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer yr ysgol a'r gymuned.

Mae cyfleuster yr 21ain Ganrif, gan gynnwys Cylch Meithrin sydd â 30 o leoedd, wedi'u darparu ar safle’r hen ffatri 'Chubb' yng Nglynrhedynog. Mae'r prosiect wedi darparu cyfleusterau modern gwych i staff, disgyblion a'r gymuned eu mwynhau. Doedd dim modd darparu’r cyfleusterau yma ar hen safle'r ysgol - yn enwedig y cyfleoedd dysgu a chwarae awyr agored. Symudodd y disgyblion a staff i safle newydd yr ysgol ym mis Ionawr 2025 ac maen nhw bellach yn barod i ddangos gwesteion o amgylch yr adeilad newydd.

Mae'r datblygiad wedi ymestyn y ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg leol ar gyfer Cwm Rhondda Fach, ac mae'n cynnwys cyfleusterau modern, hyblyg a hygyrch, gan gynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, mannau chwarae allanol, maes parcio i staff, a maes parcio gollwng/casglu. Darperir mynediad safle penodol hefyd ar gyfer disgyblion a theuluoedd sy'n cerdded neu’n beicio i’r ysgol – a hynny er mwyn annog Teithio Llesol. Nod yr adeilad newydd yw bod yn Garbon Sero Net o ran ei weithredu.

Mae'r buddsoddiad wedi cael ei gyflawni ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac mae'r Cyngor wedi elwa ar gyfraniad o 65% trwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i adeiladu'r ysgol.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Mae'n wych gweld disgyblion a staff Ysgol Llyn y Forwyn yn llawn cyffro i agor y cyfleusterau dysgu newydd gwych yma yn ffurfiol.

“Fel ein holl ddatblygiadau ysgol newydd, ein nod oedd sicrhau bod yr adeilad yn Garbon Sero Net o ran ei weithredu, yn rhan o'n nodau ac ymrwymiadau mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae’r prosiect wedi’i gyflawni ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn rhan o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – gan fuddsoddi yn ein hysgolion a sefydlu canolfannau lleol ar gyfer y dyfodol. Mae’r disgyblion a’r staff wedi ymgartrefu’n dda ac mae’n fraint bod yn rhan o’r agoriad ffurfiol yn Llyn y Forwyn a gweld y cyfleusterau dysgu newydd bywiog yn cael eu defnyddio.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwy’n hynod falch o sut mae’r buddsoddiad yma gwerth £3.7 biliwn yn trawsnewid addysg ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â chodi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, mae’r adeiladau modern, cynaliadwy yma’n creu seilwaith addysg o’r radd flaenaf sy’n destun balchder cenedlaethol.

“Mae ysgolion a cholegau wrth wraidd ein cymunedau. Rydyn ni’n uchelgeisiol yng Nghymru yn y ffordd rydyn ni’n mynd ati i adeiladu adeiladau newydd ac adnewyddu, gan sicrhau bod modd i’w dyluniad wneud cyfraniad cadarnhaol i ddysgwyr a staff, cymunedau lleol ac i’r amgylchedd naturiol.”

Gwyliwch fwy yma: https://youtube.com/shorts/BgZsCXy1WC4

Wedi ei bostio ar 20/05/2025