Mae bellach modd i drigolion a busnesau gael gwybodaeth a lleisio'u barn am gynigion ailddatblygiad cyffrous safle Rock Grounds yn Aberdâr - er mwyn helpu i fireinio'r cynlluniau diweddaraf cyn cyflwyno'r cais terfynol.
Nodwyd carreg filltir ddiwethaf y cynllun ym mis Medi 2024, pan symudodd Aelodau o Gabinet y Cyngor y datblygiad yn ei flaen trwy gytuno i'r Cyngor benodi partner (Final Frontier Space Holdings) i ddylunio, datblygu ac adeiladu'r prosiect. Cytunwyd y bydd y safle yn cael ei ddefnyddio er mwyn sefydlu gwesty o ansawdd, bwyty, bar a sba ar y lleoliad amlwg ger canol y dref.
Yn bwysig, bydd modd i'r gymuned ddefnyddio cyfleusterau ategol y gwesty newydd - tra bydd y datblygiad ehangach yn cadw adeilad hanesyddol Rock Grounds a'i nodweddion, yn cynnal nifer addas o leoedd parcio cyhoeddus ar gyfer canol y dref, ac yn cadw penddelw Keir Hardie. Cafodd staff y Cyngor oedd yn gweithio ar safle Rock Grounds eu symud yn barhaol o'r safle yn ystod haf y llynedd, er mwyn paratoi ar gyfer gwaith yr ailddatblygiad.
Mae Final Frontier wedi penodi dylunwyr proffesiynol er mwyn datblygu'r prosiect yn gais cynllunio ffurfiol. Mae Swyddogion yn cwrdd â'r dylunwyr yn ogystal â'r datblygwyr er mwyn sicrhau cynnydd da. Mae camau presennol y prosiect yn cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod proses Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais wedi dechrau, er mwyn ymgysylltu â'r gymuned cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Mae gwahoddiad i drigolion, busnesau a'r gymuned fwrw golwg ar gynlluniau diweddaraf y prosiect, a lleisio'u barn ar y cam yma. Bydd y broses yn dod i ben ddydd Mercher, 28 Mai.
Bydd yr Ymgynghorydd, Asbri Planning yn cynnal y broses ar wefan benodol. Mae modd cael mynediad ati nawr. Mae'n cynnwys crynodeb o'r prosiect a dogfennau ategol manwl sy'n cynnwys cynllun safle, cynlluniau'r gwesty, bwyty a'r sba, datganiad dylunio a mynediad, ac arolygon ac adroddiadau safle amrywiol eraill.
Mae'r wefan hefyd yn cynnwys manylion am sut mae modd i drigolion a busnesau leisio'u barn - drwy e-bostio: mail@asbriplanning.co.uk, neu drwy'r post drwy lenwi ffurflen y mae modd ei lawrlwytho a'i hanfon at Asbri Planning Ltd, Uned 9, Oak Tree Court, Mulberry Drive, Parc Busnes Porth Caerdydd, CF23 8RS.
Yn rhan o'r broses ymgynghori, bydd achlysur arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal yn lleol, er mwyn i'r gymuned gael mynychu wyneb yn wyneb i ddysgu rhagor a lleisio'u barn am y cynlluniau. Bydd yr achlysur yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 13 Mai (2pm - 6.30pm) yn Llyfrgell Aberdâr. Bydd y Cyngor yn darparu manylion llawn yn y man.
Meddai'rCynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae ailddatblygiad Rock Grounds yn Aberdâr yn un o'r buddsoddiadau adfywio allweddol y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w ddarparu, wedi dilyn cefnogaeth Aelodau Cabinet yn flaenorol. Bydd y prosiect yn darparu gwesty o ansawdd sydd ei hangen yn fawr iawn ar ganol tref Aberdâr ac ardal ehangach Cwm Cynon, gan ddarparu cyfleusterau ategol megis bwyty, bar a sba, y mae modd i'r gymuned leol gael mynediad atyn nhw.
"Ers i Final Frontier Space Holdings gael eu penodi yn bartner prosiect ym mis Medi 2024, maen nhw wedi gwneud cynnydd pwysig o ran datblygu dyluniad y safle newydd - gyda'u carfan dylunio yn cwrdd yn rheolaidd â Swyddogion y Cyngor. Mae'r datblygwyr wedi cyrraedd sefyllfa i rannu dyluniadau cychwynnol gyda thrigolion, busnesau a'r gymuned, ac yn cynnig cyfle iddyn nhw leisio'u barn. Bydd yr adborth maen nhw'n ei dderbyn yna'n cael ei ddefnyddio er mwyn llywio cais cynllunio ffurfiol y prosiect. Rydyn ni'n gobeithio ei gyflwyno yn y misoedd sydd i ddod.
"Gan gynrychioli buddsoddiad gwerth sawl miliwn o bunnoedd, mae'r prosiect yn cydymffurfio â'r egwyddorion gafodd eu sefydlu yn Strategaeth Canol Tref Caru Aberdâr a Strategaeth Twristiaeth Rhondda Cynon Taf - sef, canfod defnyddiau newydd ar gyfer adeiladau presennol gyda chanolbwynt ar gyfleoedd ar gyfer lletyau a bwytai o ansawdd uchel. Bydd y gwesty hefyd yn cynyddu'r cyfraddau masnach presennol yng nghanol y dref drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr, gan annog rhagor o bobl i ymweld â'r atyniadau twristiaid gwych sydd gan Gwm Cynon - er enghraifft, Zip World Tower, Parc Gwledig Cwm Dâr a Distyllfa Penderyn.
"Rwy'n annog i bob preswylydd a busnes gymryd rhan yn yr ymgynghoriad dros yr wythnosau sydd i ddod, cyn y dyddiad cau ar 28 Mai. Po fwyaf sy'n lleisio'u barn, y mwyaf y gallwn ni siapio'r cynlluniau er mwyn diwallu anghenion y gymuned yn y modd orau. Mae modd i chi ddysgu rhagor ar-lein, a lleisio'ch barn drwy e-bostio neu drwy'r post."
Am fod y cam cynllunio presennol yn cael ei hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, bydd manylion ariannol pellach mewn perthynas ag adeiladu'r datblygiad terfynol yn destun adroddiad Cabinet yn y dyfodol. Mae'n debygol y bydd angen cymorth ariannol allanol gan Lywodraeth y DU a/neu Lywodraeth Cymru er mwyn darparu'r prosiect.
Wedi ei bostio ar 06/05/2025