
Aelodau o Gabinet y Cyngor
Cafodd cyfres o etholiadau a phenodiadau pwysig ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025-2026 ei chynnal yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.
Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor ym Mhontypridd ddydd Mercher, 21 Mai, penodwyd Llywydd a Dirprwy Lywyddion y Cyngor, yn ogystal â'r Maer a’r Dirprwy Faer. Cafodd Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid eu hethol hefyd. Yn ogystal â hynny, cafodd nifer o Aelodau eu penodi i wahanol bwyllgorau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae manylion am rai o brif rolau'r Cyngor wedi'u nodi isod, ac mae modd gweld rhestr lawn o'r penodiadau a wnaed yn y cyfarfod ar-lein.
Y Cabinet ac Arweinydd yr Wrthblaid
Cafodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE ei ailethol yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd â Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber BEM. Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi penodi wyth Aelod o'r Cabinet, gan gadarnhau eu rolau â'u meysydd cyfrifoldeb. Dyma nhw:
- Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE.
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor ac Eiddo'r Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber BEM.
- Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu, y Cynghorydd Mark Norris.
- Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhys Lewis.
- Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Gareth Caple.
- Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Bob Harris
- Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, y Cynghorydd Ann Crimmings.
- Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Hinsawdd, y Cynghorydd Tina Leyshon.
Mae'r Cynghorydd Karen Morgan hefyd wedi'i hail-ethol yn Arweinydd yr Wrthblaid, sef ail grŵp gwleidyddol mwyaf y Cyngor, Plaid Cymru.
Penodiadau i rolau allweddol eraill
Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, aeth yr Aelodau Etholedig ati i lenwi nifer o swyddi democrataidd a dinesig pwysig eraill o fewn y Cyngor hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Llywydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Ros Davis.
- Dirprwy Lywyddion y Cyngor, y Cynghorydd Jayne Smith a'r Cynghorydd Barry Stephens.
- Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Sheryl Evans.
- Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Emma Watts.
Penodi i Swyddi ar y Pwyllgorau
Mae'r Cyngor Llawn hefyd wedi ethol Aelodau i lenwi swyddi pwysig sy'n ymwneud â Phwyllgorau democrataidd y Cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu – y Cynghorydd Sharon Rees fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Wendy Lewis yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
- Y Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Adam Fox fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Graham Stacey yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
- Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – y Cynghorydd Julie Edwards fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Jill Bonetto yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
- Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant – y Cynghorydd Sera Evans fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Scott Emanuel yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
- Y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned – y Cynghorydd Loretta Tomkinson fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Tina Williams yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
- Y Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Ffyniant a Gwasanaethau Rheng Flaen - y Cynghorydd Craig Middle fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Wyn Hughes yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
- Pwyllgorau Craffu ar y Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Will Jones fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Maureen Webber BEM yn Is-gadeirydd y pwyllgor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, sydd newydd ei ailethol yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Hoffwn i ddiolch i Aelodau am fy ailethol yn Arweinydd y Cyngor, ac yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, dyma longyfarch Aelodau o'r Cabinet, Arweinydd yr Wrthblaid, y Llywydd a'r Dirprwy Lywyddion, y Maer a'r Dirprwy Faer, ac Aelodau a benodwyd i rolau Pwyllgor. Rydw i'n hyderus y byddan nhw'n parhau i wasanaethu'r Cyngor gydag ymroddiad ac ymrwymiad, er budd y trigolion rydyn ni'n eu gwasanaethu.
“Mae cymaint o bethau da yn digwydd o fewn y Cyngor yma. Rydyn ni'n cynnal tua 650 o wasanaethau – mae llawer ohonyn nhw'n mynd rhagddynt o ddydd i ddydd, bron heb i neb sylwi arnyn nhw oherwydd eu bod nhw’n syml yn gweithio, diolch i'n staff sy'n gwneud gwaith gwych. Ni ddylen ni gymryd y gwaith yma ar lawr gwlad yn ganiataol, mae hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Wrth fyfyrio ar y Cyngor yn ehangach, rwy’n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda ar y cyfan. Yn ystod y 12 mis diwethaf rydyn ni wedi cael adroddiadau cadarnhaol o’n harolygiadau Estyn a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd ag archwiliadau Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer cynaliadwyedd a pherfformiad a rheolaeth ariannol. Hefyd, mae ein rhaglen gyfalaf wedi cynyddu bum gwaith ers y sefyllfa 10 mlynedd yn ôl, ac mae'n debygol o fod yn fwy na £200 miliwn eleni yn unig. O ran Treth y Cyngor, ni yw'r Cyngor yng Nghymru sydd wedi gosod y codiadau treth isaf ar gyfartaledd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, heb os. Ni bellach yw'r trydydd cyfartaledd isaf yng Nghymru ar gyfer Treth y Cyngor a gaiff ei dalu fesul annedd.
“Er bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn mewn cyfnod ariannol anodd parhaus, rydyn ni'n gwneud hynny er mwyn diogelu meysydd allweddol megis gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, y mae tua 70% o’n cyllideb yn cael ei gwario arnyn nhw. Rydyn ni bob amser yn gwneud ein gorau ac yn ceisio gwneud y penderfyniadau cywir er budd hirdymor y Cyngor a'n trigolion – a byddwn ni'n parhau i wneud hyn nawr ac i'r dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 23/05/2025