Mae bron i £3 miliwn wedi ei nodi i'w fuddsoddi ym mharciau, ardaloedd chwarae a chyfleusterau cysylltiedig Rhondda Cynon Taf; bydd hyn yn gwarchod y mannau awyr agored hardd yma, ac yn eu gwella.
Mae 100 parc a 215 ardal chwarae yng ngofal Cyngor Rhondda Cynon Taf, ledled y fwrdeistref sirol. Mae gan y Cyngor raglen fuddsoddi sy'n mynd rhagddi at ddibenion gofalu bod y mannau yma'n cael eu cynnal i'r safon uchaf bosib.
Mae'n hanfodol bod trigolion o bob oed yn gallu cyrchu mannau o safon uchel sydd wedi'u cynnal yn dda – o deuluoedd â phlant ifainc sy'n mwynhau awyr iach, mynd am bicnic ac ardaloedd chwarae, i gerddwyr, loncwyr a phobl sy'n chwarae chwaraeon ac sy'n defnyddio cyrtiau ac ystafelloedd newid.
Yn ogystal â gwelliannau y mae modd sylwi arnyn nhw'n rhwydd, fel offer a llwybrau newydd mewn ardaloedd chwarae, budd y buddsoddiad hefyd yn galluogi gwneud gwaith hanfodol 'y tu ôl i'r llen' fel draenio, gosod ffensys a thrwsio waliau a rhoi mesurau ar waith i atal mynediad heb awdurdodiad i barciau.
Mae prosiectau gwella ar gyfer 18 ardal chwarae, 2 MUGA, 2 parc sglefrio ac oddeutu 60 parc yn rhan o'r rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ac fe fyddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth fel y bydd cynnydd o ran y cynlluniau.
Bydd y £2.9 miliwn sydd wedi'i ymrwymo'n ddiweddar i'r cynllun buddsoddi yn cael ei ddefnyddio i:
- Adnewyddu offer chwarae a rhoi rhai newydd yn lle hen rai mewn ardaloedd chwarae, gan gynnwys unedau chwarae, siglenni, cylchfannau a rhagor.
- Rhoi wyneb newydd ar ardaloedd chwarae a gosod ffensys neu roi rhai newydd yn lle hen rai er mwyn cadw'n trigolion ifancaf yn ddiogel.
- Paentio ffensys, gatiau ac adeiladau mewn parciau i gadw parciau'n edrych yn lân a ffres.
- Creu llwybrau newydd i helpu ymwelwyr i ymlwybro o gwmpas y mannau yma, yn ogystal ag adnewyddu a rhoi wyneb newydd ar eraill.
- Ailadeiladu waliau a chwlferi
- Gosod cladin a drysau newydd ar adeiladau mewn parciau
- Gwella ystafelloedd newid
- Systemau draenio
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'n parciau ac ardaloedd chwarae yn hollol hanfodol ar gyfer ein cymunedau, yn enwedig wrth i dymor gwyliau'r haf agosáu a, gyda gobaith, tywydd braf hefyd.
"Rydyn ni am i bobl fod yn gallu mwynhau ein parciau ym mha bynnag fodd maen nhw am wneud hynny – drwy chwarae, mynd am bicnic, cael lle heddychlon i ddarllen ynddo, lle i fynd i gerdded, lleoliad chwaraeon neu'n syml fan awyr agored i ymlacio ynddo, mwynhau ac ymroi i feddylgarwch.
“Mae'r Cyngor ac aelodau ei garfanau parciau ymroddedig yn gweithio'n galed i sicrhau hynny ac ry'n ni am i hyn barhau. Mae'r cadarnhad diweddar o £2.9 miliwn pellach i'r rhaglen fuddsoddi sy'n mynd rhagddi, yn atgyfnerthu'r ymroddiad yma.
"Bydd y buddsoddiad newydd yn cael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau dros y flwyddyn sydd i ddod ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu gwybodaeth ynghylch y datblygiadau gyda'n cymunedau fel mae'r gwaith yn mynd rhagddo."
Wedi ei bostio ar 21/05/2025