Skip to main content

Yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar brosiect safle M&S yng nghanol tref Pontypridd

M&S 1 - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd y gwaith mawr ar ailddatblygu safle Marks and Spencer yng Nghanol Tref Pontypridd – mae cynnydd da wedi'i wneud ers i'r prif gyfnod adeiladu ddechrau yn gynharach eleni.

Mae'r safle amlwg yn 97-102 Stryd Taf yn cael ei ddatblygu i fod yn 'plaza glan yr afon' a fydd yn fan cyhoeddus defnyddiol a chanddo olwg atyniadol ac ardaloedd o wyrddni. Bydd yn ehangu'r dref tuag at yr afon am y tro cyntaf ers mwy na 100 mlynedd. Bydd y safle yn rhoi lle i giosgau bach (unedau masnachol) sy'n gwerthu bwyd a diod, a hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal achlysuron lleol.

Mae'r prosiect uchelgeisiol yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd y Cyngor. Yn sgil y cynllun yma, mae buddsoddiad adfywio wedi’i ddarparu ar gyfer datblygiadau ledled y dref. Mae dros £5.6 miliwn o gyllid allanol wedi'i sicrhau i gyflawni'r prosiect, gyda chyfraniadau trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£3.68 miliwn) ac o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan (£1.95miliwn).

Fe wnaeth contractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, ymgymryd â gwaith paratoi'r safle ym mis Ionawr 2025, cyn i'r prif gyfnod adeiladu ddechrau ym mis Chwefror 2025.

Diweddariad cynnydd ynghylch y prosiect - Mai 2025

Cafodd cynnydd da ei wneud yn ystod misoedd cyntaf y gwaith. Mae cynnydd i’w weld yn y delweddau gafodd eu cymryd ddydd Gwener 16 Mai 2025. Mae'r gwaith ar lefel uwch y safle i'w weld yn glir – gyda'r ffrâm ddur strwythurol wedi'i chwblhau, ynghyd â'r llawrfyrddau, gwaith atgyfnerthu, a gwaith concrit ar lefel yma y safle.

M&S 2 - Copy

Mewn mannau eraill, mae'r gwaith ar y ffrâm ddur strwythurol ar gyfer lefel isaf y safle wedi cyrraedd y pwynt dros hanner ffordd, ac mae'r waliau amddiffyn rhag llifogydd, newydd, ar yr Afon Taf wedi'u cwblhau bron â bod.

Canolbwynt y sylw o ran gwaith sydd ar y gorwel fydd gosod y llawrfyrddau, gwaith atgyfnerthu a gwaith concrit ar gyfer lefel isaf y safle. Bydd gofyn, ar un bore, i gerbydau mawr gyrraedd y safle drwy ganol y dref er mwyn tywallt y concrit – ar hyn o bryd, diwedd mis Mehefin 2025 sydd yn yr arfaeth ar gyfer hyn. Bydd y Cyngor yn rhannu manylion llawn ynghylch hyn maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae ein contractwr ar gyfer y prosiect cyffrous yma sydd wrth galon Canol Tref Pontypridd wedi rhoi diweddariad cynnydd cadarnhaol iawn yn dilyn yr ychydig fisoedd cyntaf o waith, ers i’r prif gynllun ddechrau ym mis Chwefror. Mae'r safle'n cael ei drawsnewid. Y gwaith ar lefel uwch y safle, sef y 'plaza ar lan yr afon', sydd i'w weld gliriaf.

“Mae cynnydd y prosiect yma'n datblygu ar garlam yn 2025, ar ôl i ni gyhoeddi penodiad ein contractwr ym mis Ionawr – a chadarnhau ein bod ni wedi sicrhau cyfanswm o £5.6 miliwn i gyflawni’r prosiect trwy gyfraniadau gan Lywodraethau Cymru a San Steffan. Rydyn ni’n parhau i groesawu cymorth mor amhrisiadwy ar gyfer y prosiectau allweddol yma sy'n rhan o'n Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prosiectau adfywio sylweddol wedi'u cyflawni ledled canol y dref yn sgil y prosiect yma – prosiectau megis datblygiad Llys Cadwyn, cynllun tai Cwrt yr Orsaf, Y Muni, YMa, ac amrywiol welliannau ym Mharc Coffa Ynysangahrad.

“Un arall o’r prosiectau allweddol hynny oedd adfywio hen safle’r Neuadd Bingo; bydd safle Marks and Spencer yn ategu ato o ran ei bryd a'i wedd – gan greu man agored ag awyrgylch disglair, lle bydd ardaloedd o wyrddni a chiosgau bwyd a diod. Bydd yno olygfeydd godidog dros y parc. Bydd modd ei ddefnyddio hefyd er mwyn cynnal amrywiol achlysuron yng nghanol y dref ymhlith pethau eraill.

“Bydd swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda’n contractwr i gynnal y lefel bresennol o gynnydd, gan sicrhau cyn lleied o amharu â phosib o hyd ar drigolion, yr ardal fanwerthu, a chymuned fusnes canol y dref. O ran yr adegau hynny lle nad oes modd osgoi amharu, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl ynghylch hyn. Rwy'n edrych ymlaen at weld y safle'n parhau i esblygu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac mae ein golygon ar gwblhau'r cyfan erbyn dechrau 2026, fel sydd yn yr arfaeth.”

Y nod o ran adfywio safle Marks and Spencer yw:

  • Manteisio i'r eithaf ar botensial y safle o ran bod yn 'amgylchedd cyswllt' allweddol, fydd yn rhan o lwybr newydd ar gyfer ymwelwyr o'r orsaf drenau a thrwy safle'r hen Neuadd Bingo.
  • Creu lle i fwynhau golygfeydd newydd o'r afon a'r parc cyfagos.
  • Integreiddio nodweddion allweddol megis coed a gwyrddni, cynefinoedd bioamrywiol newydd a datrysiadau draenio cynaliadwy.
  • Y bydd yn amgylchedd agored newydd sy'n ddigon hyblyg i fod yn gallu ateb y galw o ran cyfleoedd newydd ar gyfer canol y dref.
  • Creu 'plaza newydd ar lan yr afon' ac arno giosgau bach (unedau masnachol) sy'n gwerthu bwyd a diod.

Bydd rhan helaeth y safle'n cael ei chodi'n uwch na'r parth llifogydd, yn seiliedig ar fodelu rhag ofn llifogydd. Bydd y contractwr hefyd yn gosod arwyneb newydd ar y lôn sy'n arwain at y parc. Nodwch, mae'r mynediad at y lôn yma'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn cael ei fonitro'n barhaus er mwyn gofalu am ddiogelwch y cyhoedd. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newid o ran trefniadau y mae gofyn eu cael, yn enwedig o ran mynediad i'r parc.

Y nod o ran Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw ailddatblygu canol trefi a dinasoedd a’u gwella. Nod gweithredol o ran y rhaglen yw annog trefi amlddefnydd; lleoedd i fyw a gweithio ynddyn nhw, ac i bobl ymweld â nhw ac aros ynddyn nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Y nod o ran Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan yw bod yn gymorth, yn weithredol felly, o ran cyflawni pum cenhadaeth Llywodraeth San Steffan ar gyfer y Deyrnas Unedig sef: rhoi pŵer i gymunedau ym mhobman â chanolbwynt penodol ar ysgogi twf economaidd a hybu cyfleoedd ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Wedi ei bostio ar 20/05/2025