Ddydd Iau, 6 Tachwedd, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, agoriad swyddogol Fferm Solar newydd Coedelái, ochr yn ochr â’r Aelod o’r Cabinet ar faterion Adnoddau, y Cynghorydd Ros Davis, a chynrychiolwyr o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Llywodraeth y DU, y GIG, Rhomco, Vital Energi a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Roedd yr ymweliad yn rhan o’r trefniadau troi ymlaen swyddogol ar gyfer y fferm solar, a ddechreuodd gyflenwi Ysbyty Brenhinol Morgannwg â thrydan yn uniongyrchol ar ddechrau mis Hydref. Darparodd yr ymweliad gyfle i weld y prosiect yn cynhyrchu trydan ar gyfer un o'n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch y fferm solar ac ymweliad â'r ysbyty, a chyfle i gwrdd â'r garfan y tu ôl i'r prosiect a dysgu mwy am y bartneriaeth unigryw rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan dynnu sylw at sut mae'r prosiect wedi gwella diogelwch ynni, creu swyddi lleol, a chynhyrchu dros £600,000 mewn gwariant gyda busnesau a chyflenwyr lleol.
Mae gan Fferm Solar Coedelái 9,400 o baneli solar ffotofoltaidd a all gynhyrchu 6MW o drydan, gyda 5MW yn cael ei allforio i'r grid ac 1MW yn cael ei anfon i Ysbyty Brenhinol Morgannwg trwy rwydwaith gwifren breifat 3.2 cilometr o hyd. Mae wedi'i hadeiladu ar safle tomen hen lofa 84 hectar ac mae'n enghraifft wych o sut y gallwn ni ailddefnyddio'n gorffennol diwydiannol i fod yn rhan o'n dyfodol ynni. Gan nodi Wythnos Hinsawdd Cymru a chyd-fynd â thema eleni, sef datgloi manteision newid, mae'r fferm solar yn creu pŵer lleol ar gyfer gofal lleol wrth ddarparu porfa i anifeiliaid fferm a gwrychoedd ffyniannus ar gyfer bywyd gwyllt lleol.
Cafodd Fferm Solar Coedelái ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Ros Davis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Adnoddau: "Mae gweld y Fferm Solar yn fyw yn garreg filltir wirioneddol wych. Mae'r prosiect uchelgeisiol yma wedi bod yn darparu ynni er budd ein cymunedau ers ychydig wythnosau bellach ac mae'n wych cwrdd â'n contractwyr, partneriaid a'r rhai o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y safle heddiw i weld y prosiect ar waith.
“Daw’r ymweliad yn rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru ac mae thema eleni, sef datgloi manteision newid, yn cyd-fynd yn berffaith â’r hyn y mae’r fferm solar yn ei gynrychioli, sef creu pŵer lleol ar gyfer gofal lleol tra’n dal i ddarparu porfa i anifeiliaid fferm a gwrychoedd ffyniannus ar gyfer bywyd gwyllt lleol.
“Mae unrhyw drydan a gynhyrchir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio gan yr ysbyty yn cael ei anfon i’r Grid Cenedlaethol, gan helpu i gryfhau diogelwch ynni cyffredinol y DU. Ond mae ‘lleol’ wrth wraidd y prosiect yma, pŵer lleol ac effaith leol.”
Meddai Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: "Mae Fferm Solar Coedelái yn enghraifft wych o sut y gallwn ni drawsnewid ein treftadaeth ddiwydiannol i fod yn seilwaith ynni glân sy'n gwasanaethu ein cymunedau."
"Drwy addasu safle’r hen lofa yma at ddibenion pweru gwasanaethau hanfodol y GIG, rydyn ni'n dangos y gall taith Cymru i sero net greu swyddi lleol, cefnogi busnesau lleol, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol."
Meddai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Jo Stevens: “Mae Fferm Solar Coedelái yn enghraifft wych o Lywodraeth y DU yn buddsoddi mewn prosiect sy'n creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd, yn cyfrannu at ostwng biliau ynni y sector cyhoeddus, ac yn helpu i gyflawni targedau carbon niwtral.
“Rydym wedi buddsoddi £4.892 miliwn o Gronfa Ffyniant a Rennir y DU sydd, ochr yn ochr â chyllid gan ein partneriaid, yn golygu bod y fferm solar bellach yn cyflenwi trydan gwyrdd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg a'r grid cenedlaethol ac yn chwarae rhan yn ein cenhadaeth i wneud y DU yn uwch-bŵer ynni glân.”
Meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Vital Energi: “Un o’r pethau gwirioneddol gyffrous am y fferm solar yma yw ei bod yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y sector cyhoeddus yn cydweithio i wella gwydnwch, lleihau allyriadau carbon ac arbed arian ar filiau ynni. Roedden ni’n rhannu gweledigaeth y Cyngor y dylai’r prosiect yma ddod â’r gwerth mwyaf i’r gymuned, felly rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu cyflogi pobl leol, gwario arian gyda busnesau lleol a gweithio gyda’r elusennau, ysgolion a grwpiau sy’n rhan o’r gymuned wych yma.”
Wedi ei bostio ar 07/11/2025