Skip to main content

Dechrau gwaith cynnal a chadw tomen lo leol yn Aberpennar

Mountain Ash grid web

O'r wythnos nesaf ymlaen, mae'n bosibl y bydd trigolion Aberpennar yn sylwi ar waith yn cael ei gynnal ar safle tomen Craig y Dyffryn, wrth i waith cynnal a chadw nifer o lwybrau mynediad fynd rhagddo.

Bydd y gwaith, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 10 Tachwedd. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Mae'r domen wedi'i lleoli ar dir i'r gogledd o'r A4059 ger Ysgol Gyfun Aberpennar, ac i'r de o Glwb Golff Aberpennar a'r ardaloedd preswyl yn Heol Penrhiw a Lôn-y-felin.

Mae gwaith cychwynnol i glirio llystyfiant eisoes wedi'i gwblhau er mwyn atal twf pellach o amgylch seilwaith allweddol megis sianeli draenio, y mae angen eu harchwilio a'u cynnal a chadw'n rheolaidd.

Bydd y gwaith uwchraddio llwybrau'r safle yn sicrhau bod modd i swyddogion gael mynediad haws a diogel i ardaloedd y domen er mwyn cynnal archwiliadau a gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.

Mae gwella bioamrywiaeth hefyd yn rhan bwysig o'r gwaith, gan gynnal coridorau cynefinoedd agored ar draws y safle.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Construction yn gontractwr i gyflawni'r gwaith, a bydd gweithwyr yn defnyddio Heol y Felin i gael mynediad i'r safle.

Bydd cynnydd yn nifer y cerbydau adeiladu yn ystod yr oriau gwaith (8am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Bydd y contractwr yn sicrhau cyn lleied o draffig â phosibl yn ystod oriau prysur y bore a'r prynhawn pan fydd plant yn cael eu gollwng a'u casglu o'r ysgol. 

Bydd y contractwr hefyd yn gosod arwyddion diogelwch a bioamrywiaeth yn ystod y gwaith, a hynny er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y gwaith parhaus.

Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu trwy ddefnyddio'r dyraniad gwerth £11.49 miliwn o Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau'r cyllid yma er mwyn i'w Garfan Diogelwch Tomenni fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 07/11/2025