Dyma roi gwybod i drigolion am gynllun lleol yn Aberaman sy'n dechrau'r wythnos nesaf i atgyweirio wal sydd wedi'i difrodi oddi ar yr A4059. Does dim disgwyl i'r cynllun darfu ar y prif lwybr yma.
Mae'r wal wedi'i lleoli rhwng yr A4059 a Theras Glancynon, a bydd y cynllun atgyweirio yn digwydd o ddydd Llun, 17 Tachwedd.
Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar lystyfiant, ailadeiladu darn bach o waith maen diffygiol, ac ailbwyntio rhannau o'r strwythur.
Mae'r Cyngor wedi penodi Hammond ECS Ltd i gyflawni'r gwaith ar y safle, ac mae disgwyl iddo bara tua thair wythnos.
Bydd angen i'r contractwr gulhau'r briffordd ychydig yn Nheras Glancynon, fel mesur dros dro i gwblhau'r gwaith yn ddiogel. Serch hynny, does dim disgwyl y bydd effaith ar unrhyw fynediad lleol na threfniadau parcio, a fydd y gwaith ddim yn effeithio ar yr A4059 mewn unrhyw ffordd.
Bydd y gwaith atgyweirio yma'n cael ei gynnal gan ddefnyddio cyllid refeniw'r Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 12/11/2025