Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar waith tomenni glo ym Mharc Gwledig Cwm Clydach

Clydach 1

Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ar y cynnydd da sy'n cael ei wneud tuag at gwblhau'r gwaith sy'n mynd rhagddo ym Mharc Gwledig Cwm Clydach.

Mae gwaith wedi bod yn cael ei gynnal ers mis Medi i wella llwybr mynediad a chwblhau gwaith clirio llystyfiant, cynnal a chadw sianeli draenio a chwlferi, a galluogi mynediad haws yn y dyfodol - gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer safleoedd tomenni glo.

Bydd y gwaith hefyd yn ystyried bioamrywiaeth a bydd yn sicrhau bod ardaloedd o laswelltir a chynefinoedd tir agored yn cael eu cadw. Mae'r ardaloedd yma'n bwysig ar gyfer amrywiaeth eang o fflora a ffawna.

Mae dwy garfan o gontractwyr yn gweithio ar wahanol weithgareddau ar y safle yn rhan o'r cynllun cyffredinol. Mae carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn parhau i wneud gwaith clirio llystyfiant mewn lleoliadau penodol, tra bod y contractwr, Dee Plant, yn cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i'r sianeli draenio.

Mae'r ddau fath o waith yma wedi llwyddo i ddod o hyd i seilwaith draenio tomenni hanesyddol, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch, yn weladwy ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae elfennau blaenorol o'r cynllun wedi cynnwys cwblhau gwaith gwella'r llwybr mynediad, sydd erbyn hyn yn helpu gyda’r gwaith presennol ar y safle. Mae disgwyl i'r gwaith i gyd ddod i ben yn ystod mis Rhagfyr 2025.

Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu trwy ddefnyddio'r dyraniad gwerth £11.49 miliwn o Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau'r cyllid yma i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.

Diolch i ymwelwyr y parc gwledig, a'r gymuned leol am eich cydweithrediad parhaus.

Wedi ei bostio ar 05/11/2025